Pandai Llanllyfni

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 09:25, 27 Ebrill 2021 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae o leiaf dri 'pandy wedi bod ar ryw adeg neu'i gilydd heb fod nepell o waelod pentref Llanllyfni, sef Pandy ger Dol-wenith; Hen Bandy ger yr eglwys a Phandy Hen, uwch i fyny'r nant o Bandy, neu Bandy Dol-wenith, ger Brithdir Isaf. Safai Pandy ("Pandy Dol-wenith") ar nant fach, Afon y Felin, ac i sicrhau digon o rym i'r dŵr adeiladwyd pinfarch at y lle.[1]

Yng Nghyfrifiad 1851, nodwyd bod dau deulu'n byw yn y pandy ei hun, sef gweddw ffarmwr a'i phlant, a gwas ffarm a'i deulu yntau, ond gerllaw nodir "Fuller's House" lle 'roedd Owen Evans, pannwr 34 oed, ei wraig a'i fab 7 oed yn byw.[2]

Cyfeiriadau

  1. Map Ordnans 1888
  2. Cyfrifiad plwyf Llanllyfni 1851