Glenda Jones

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 13:34, 9 Ebrill 2021 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Glenda Jones, a fagwyd yn Nhrefor, yn awdur nofelau antur i blant yn y 1970au. Erbyn hynny roedd wedi priodi ac ymgartrefu ym Mhwllheli ac yn fam i ddau o fechgyn, Huw a Gari. Yn ei nofelau ceir hanesion am anturiaethau dychmygol y ddau fachgen hyn a'u helbulon yn mynd i grafangau smyglwyr a dihirod eraill wrth iddynt fynd yn rhy fentrus a busneslyd yn ystod gwyliau ysgol hir yr haf. Mae'n debyg mai ei llyfr mwyaf adnabyddus ydi Dirgelwch Plas y Tylluanod.

Mae ei mab, Huw Elfed Jones, yn newyddiadurwr ariannol gyda chwmni Reuters ym Mrwsel ac yn llais cyfarwydd ar Radio Cymru pan ymdrinnir â materion ariannol rhyngwladol.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau