Afon Crychddwr
Mae Afon Crychddwr ym mhlwyf Llanllyfni yn enw ar yr afon o'r pwynt lle'r ymuna Afon Ddu ac Afon Cwm Dulyn dan Pont y Lloc yn Nebo ac yn llifo o'r pwynt yna i lawr ac, ar ôl llifo dan Pont y Crychddwr ar yr hen briffordd (nid nepell o fynwent Llanllyfni, yn ymuno ag Afon Llyfni ger fferm Dol-gau. Rhwng pontydd Lloc a Chrychddwr saif adeilad o'r enw Pandy Hen sy'n tystio i'r ffaith fod yr afon wedi bod yn troi olwyn melin bannu ar un adeg.[1]
Mae rhai parchus yn esbonio'r enw fel dŵr wedi'i grychu, sef ddim yn llifo'n llyfn. Er hynny, dichon mai parchusiad o'r gair Cachddwr sydd yma, i ddisgrifio lliw'r dŵr. Enw cynharach ar yr afon oedd Afon Coed Cae Du; dyna'r enw a ddefnyddiwyd adeg Cyfrifiad 1851.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma