Pandy Hen
Mae Pandy Hen yn sefyll ar lan ogleddol Afon Crychddwr yn ardal Nebo. Bellach, mae'n enw ar dŷ ond mae'r enw'n tystio i fodolaeth gwaith pannu brethyn yno yn y gorffennol - er bod y gwaith wedi cau, mae'n debyg, cyn i arolwg cyntaf manwl yr Arolwg Ordnans yn yr ardal gymryd lle, a hynny tua 1888 ac nid yw'n cael ei restru yng nghyfrifiad 1841. Safai nid nepell o Frithdir Isaf a Llwydcoed Fawr ym mhlwyf Llanllyfni. Roedd pandai'n fath arbennig o felin a ddefnyddid i orffen defnyddiau gwlân wedi iddynt gael eu nyddu. Mae map Ordnans 1888 yn dangos olion ffrwd felin ger y pandy hwn.
Ychydig i'r gogledd, yn cael ei droi gan Afon y Felin yr oedd pandy arall a oedd yn gweithio erbyn 1841.[1] Tuedda hyn olygu mai olynydd i Bandy hen ydoedd.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
{{cyfeiriadau]]
- ↑ Cyfrifiad plwyf Llanllyfni 1841