Brynllidiart

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:27, 9 Ebrill 2021 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Brynllidiart (a sillefid yn aml yn Brynllidiard) uwchben Dyffryn Nantlle bellach yn furddun, ac yn bur ddiarffordd. Eir ato trwy gymryd Lôn Tyddyn Agnes (rhwng Llanllyfni a phentrefan Tan'rallt at ben draw'r tarmac ger tyddyn Bryn-gwyn. O'r fan hyn y mae cychwyn ar hyd llwybr Cwm Silyn, ond i fynd i Frynllidiart, cedwir yr ochr uchaf i wal y mynydd lle bu ffordd drol unwaith. Mae Brynllidiart i'w weld ar draws tri chae tra chorsiog ac er y nodir llwybrau cyhoeddus ar fapiau Ordnans, maent i gyd wedi diflannu a llinell rhai wedi'u blocio gan ffensys gwifren bigog.

Y fferm

O gwmpas y tŷ y mae pedwar neu bump o gaeau heddiw lle mae glaswellt o hyd yn hytrach na brwgaits a chorsdir. Nid oes arwydd bod unrhyw amaethu ar wahân i bori agored wedi digwydd ers blynyddoedd.

Roedd y fferm yn rhan o Ystad Garnons erbyn canol y 19g., os nad wedyn hefyd er bod y dystiolaeth yn ddiffygiol. Nid oedd yn cael ei rhestru ymysg ffermydd yr ystad ym 1813,[1] fodd bynnag, ac felly gellid amau mai tir a gaewyd o'r mynydd yn ystod hananer cyntaf y 19g. ydyw.

Yn nogfennau Rhannu'r Degwm tua 1839, gwelir map o'r fferm ynghyd ag enwau a maint y caeau (er bod peth anghysondeb rhwng rhifau'r caeau a'u henwau a'u harwynebedd. Dichon fodd byddag mai Cae Coch yn syth y tu cefn i'r tŷ oedd yr unig dir âr, â hynny ddim ond ychydig dros acer mewn maint. Wrth ei ochr mae Cae Bach, ac yn nes at y mynydd yr oedd cae 6 acer a elwid yn Rhos. I'r gorllewin o'r tŷ ac yn union o'i flaen yr oedd yr ardd, ac wedyn Cae Griffith, lle mae olion hen feudy neu fwthyn. O flaen y tŷ ei hun roedd y cae mawr arall ar y fferm, sef Rhos o flaen Drws, ychydig dros 7 acer o ran maint. ar ganol y ganrif felly, roedd y fferm yn ymestyn i ryw 16 acer.[2]

Yn nes ymlaen yn y ganrif ac wedyn nes i'r fferm gael ei gadael yn wag, bu'r penteulu weithiau'n ffermio ac weithio'n gweithio fel chwarelwr, gan drin Brynllidiart fel tyddyn rhan amser. Ym 1871 roedd y tir a oedd yn perthyn i'r fferm wedi ymestyn i 30 acer, ac erbyn 1881 roedd y fferm wedi cynyddu i 50 acer - dichon trwy ymdrechion Robert Roberts, tad R. Silyn Roberts.

Y tŷ

Mae waliau'r tŷ wedi dadfeilio i raddau er y gellid o hyd gweld mai tŷ deulawr oedd o. Wrth yr adwy lle bu'r drws gwelir plac llechen a osodwyd yno yn 2021 i nodi mai dyna gartref R. Silyn Roberts a Mathonwy Hughes, ei nai - dau brifardd yr Eisteddfod Genedlaethol. Brynllidiart yw'r unig gartref yng Nghymru sydd wedi cynhyrchu mwy nag un prifardd.

Canodd Mathonwy Hughes englyn milwr i'w hen gartref:

"Tir pell y diadelloedd,
Darn di-werth a driniwyd oedd,
Ond Eden i'm tad ydoedd."


I'w Barhau

  1. Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Llsgr. 11507E
  2. Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Map a Rhestr Pennu'r Degwm plwyf Llanllyfni