Glynllifon

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:49, 14 Rhagfyr 2017 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Plasty a gafodd ei ailadeiladu o gwmpas 1840-46 yw Glynllifon.

Roedd y tŷ hwn yn gartref i deulu’r Glyniaid am lawer canrif, ac hefyd i’r Arglwyddi Newborough o ddiwedd y ddeunawfed ganrif. Adeiladwyd y tŷ a welwn yno heddiw o gwmpas 1856, ar ôl i dân ddinistrio’r tŷ a safodd yno ynghynt. Credir i’r tŷ hwnnw ei adeiladu o gwmpas 1751, a bod yntau wedi cymryd lle annedd hynach a oedd yn gartref i’r Glyniaid.

Roedd y plasty yn gartref i’r Arglwyddi Newborough hyd at ddechrau’r ugeinfed ganrif, ac arosodd yn nwylo’r teulu hyd at 1949. Roedd hefyd yn goleg amaethyddol o ddechrau’r 50au ymlaen, ac mae’r adeiladau eraill sydd ar hen dir y plasty bellach yn gartref i Goleg Meirion-Dwyfor. Mae’r tŷ ar hyn o bryd yn cael ei hadnewyddu a’i throi mewn gwesty moethus.

Mae’r tŷ hefyd yn gartref i ystlumod pedolog lleiaf, ac mae rhannau o’r tŷ o dan warcheidwad y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur. Mae rhai o erddi’r plasty ar agor i’r cyhoedd hefyd, ac mae modd gweld llawer o blanhigion egsotig a ddaeth rhai o’r hen deulu yn ôl i Landwrog a hwy ar eu teithiau.

Ffynonellau

Erthygl ar Wicipedia am y plasty hwn

Cofnod o'r lle hwn ar wefan y Comisiwn Brenhinol