Frederick George Wynn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:43, 20 Chwefror 2021 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Yr Anrh. Frederick George Wynn (1853-1932) oedd y mab ieuengaf o bedwar mab Spencer Bulkeley Wynn, 3ydd Arglwydd Newborough a'i wraig Fanny (Frances Maria Wilkins).[1] Fo etifeddodd ystadau Glynllifon a Boduan oddi wrth ei dad ar farwolaeth hwnnw ym 1888. Ni phriododd, ond dewisodd fyw bywyd hen lanc yn y Plas, lle cynhelid llawer o bartïon saethu a hela. Roedd hefyd yn parhau â thraddodiad y teulu o hwylio yn ei gwch ei hun a gedwid yng Nghaer Belan.

Dilynodd yn nhraed ei dad a'i daid trwy ymddiddori mewn adeiladu a gwella'r ystâd, gan adeiladu adain newydd i'r Plas ar gyfer ei bartïon o ymwelwyr, ystafell biliards a hyd yn oed theatr. Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf aeth yr ystâd i ddyled, oherwydd costau cynnal y plas a chwch stêm F.G. Wynn, a gadawodd yr ystâd mewn dyled sylweddol ar ei farwolaeth.[2]

Gwasanaethodd fel Dirprwy Arglwydd Raglaw'r Sir, ac fel Uchel Siryf Sir Gaernarfon ym 1894.[3]

Yn ei gyfrol ddifyr o atgofion, Ar draws ac ar hyd, mae'r diweddar Dr John Gwilym Jones, Y Groeslon, yn sôn fel yr oedd wal enfawr Glynllifon yn ddychryn i bawb yn yr ardal gyda'r bwlch rhwng y teulu breintiedig o fewn ei muriau a'r werin bobl y tu allan iddi yn ymddangos yn enfawr bryd hynny. Ac roedd ganddo un atgof pur hunllefus am Frederick George Wynn, ac mae'n werth ei ddyfynnu yma:

"... roedd y wal honno yn ddychryn i bawb yn yr ardal. Y tu mewn iddi safai Plas Glynllifon, cartref The Honourable F.G. Wynne. Unwaith erioed y gwelais i hwnnw yn fy mywyd a hynny mewn rasys cŵn defaid yn Llandwrog. Roedd ganddo glogyn mawr amdano ac ni welais i ddyn hyllach yn fy nydd. Roedd o'n hyll ryfeddol er eu bod nhw'n dweud, ac mae'n debyg bod hynny'n hollol wir, ei fod yn perthyn i deulu Bourbon o Ffrainc. Medrodd Maria Stella, ei nain, brofi ei bod hi o'r teulu hwnnw, a oedd, mae'n debyg, yn bobl dlws iawn ac yn hollol wahanol i'r Honourable Frederick, y dyn hyll mewn clogyn du a defaid ar ei wyneb oedd yn ddychryn mawr i ni'r plant."[4]

Cofiaf hefyd i'r diweddar John Francis Jones (gynt o Benrallt a Chilcoed, Clynnog) sôn wrthyf unwaith ei fod allan ar y stryd yng Nghlynnog ryw gyda'r nos pan oedd tua deg oed (ym 1932), a beth ddaeth drwy'r pentref ond gorymdaith angladdol Frederick (neu Freddie) Wynn. Roedd John yn cofio bod yr hers yn cael ei thynnu gan ddau geffyl du a rheini'n sgleinio a chyda phlu duon yn addurno eu pennau. Roedd yr arch hefyd fel y gellid disgwyl yn un ddrudfawr a chaboledig, pur wahanol i eirch pobl gyffredin y cyfnod. Roedd Frederick ar ei ffordd i'w orffwysfa olaf ym meddrod y teulu yn eglwys Boduan, ac mae'n debyg bod y gwasanaeth claddu i'w gynnal fore trannoeth ac mai dyna pam roedd y corff yn cael ei gludo o Glynllifon i Foduan gyda'r nos.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

4. John Gwilym Jones, Ar draws ac ar hyd, (Gwasg Gwynedd, 1986), t.21.

  1. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families, (Horncastle, 1914), t.173.
  2. Michael Stammers, A Maritime Fortress, (Caerdydd, 2001), t.8
  3. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families, (Horncastle, 1914), t.173.