Bod Gybi

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 09:48, 29 Mawrth 2021 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Bod Gybi oedd enw cartref Eben Fardd yng Nghlynnog o 1833 tan ei farwolaeth ym 1863. Mae'r tŷ, sydd ynghanol y rhes o dai cerrig dros y ffordd i wal mynwent yr eglwys, yno o hyd heb ei newid fawr ddim a chyda'r un enw. Hefyd mae llechen fechan wrth y drws yn nodi mai yno oedd cartref y bardd.

Daeth Eben Fardd i Glynnog gyntaf i gadw ysgol ym 1827 ac aeth i letya i fferm fechan Cae'r Pwsan, ar gyrion yn y pentref. Yno cyfarfu â Mary Williams, merch ei lety, a phriododd y ddau yn Nhachwedd 1830. Yn dilyn eu priodas buont yn byw am gyfnodau byr mewn gwahanol fannau, cyn symud i Bod Gybi, a oedd yn dŷ newydd ar y pryd, ar 29 Hydref 1833. Dywed Eben yn ei ddyddiadur mai dim ond tridiau ynghynt y gorffennwyd y tŷ, a rhoddodd yr enw Bod Gybi arno i gofio ei wreiddiau yn ardal Llangybi a Llanarmon yn Eifionydd. Yn wir, yn ystod ei flynyddoedd cynnar fel bardd, Cybi o Eifion y galwai ei hun; yn ddiweddarach y mabwysiadodd yr enw Eben Fardd.

Dridiau cyn iddo ef, Mary, a'u plentyn cyntaf, Ellen (neu Elin), symud i mewn i Bod Gybi, noda Eben iddo fynd i Bwllheli i weld cyfreithiwr i sicrhau prydles ar y tŷ. Ac yn fuan iawn ar ôl iddynt symud i mewn dechreuodd Mary gadw siop fechan yn y tŷ ac mae llawer o gyfeiriadau yn nyddiaduron Eben at deithiau i Gaernarfon yn arbennig i brynu stoc o fwydydd a defnyddiau i'w gwerthu yn y siop. Weithiau, fodd bynnag, ai'r bardd tipyn ymhellach i geisio stoc, ac mae'n cyfeirio at deithiau cyn belled â Manceinion i brynu brethynau. (Teithiai i'r fan honno ran o'r ffordd mewn car a cheffyl neu goets fawr, a gweddill y daith ar y trên, a oedd yn ffordd newydd ac arloesol o deithio ddiwedd y 1830au a dechrau'r 1840au.)

Nid oedd fawr o libart yng nghefn Bod Gybi, ond roedd yno iard fechan, twlc mochyn a llain o ardd, lle byddai'n plannu tatws yn arbennig - roedd yn cael plannu tatws hefyd ar fferm Tyddyn Hen, Gurn Goch, yn gyfnewid am helpu yno gyda chodi tatws y fferm a goruchwylion achlysurol eraill. Mae'n amlwg ei fod yn cadw mochyn yn gyson yn Bod Gybi, oherwydd cofnoda yn ei ddyddiadur iddo ladd y mochyn (cael rhywun i wneud ar ei ran mae'n fwy na thebyg) ar ddydd Nadolig 1837!

Roedd Eben Fardd yn ddyn pur ofnus a nerfus o ran ei natur. Ar 6 Mehefin 1835, torrodd lladron i mewn i Gapel Beuno yn yr eglwys, lle cynhaliai ei ysgol a dwyn ychydig arian o'r drôr yno. Yn syth wedyn, trefnodd Eben i weithwyr osod barrau haearn trwm ar ffenestri Bod Gybi rhag ofn i'r un peth ddigwydd yno - tybed am faint y bu'r barrau hynny yn eu lle?

Roedd Bod Gybi'n sicr yn lle prysur. Yn ogystal â'r siop, a oedd dan ofal Mary yn bennaf, byddai pobl yn galw yno i ofyn i Eben rwymo llyfrau iddynt, gwneud cyfrifon gwahanol fusnesau (roedd yn fedrus iawn fel mathemategydd) a llunio ambell i englyn neu gywydd am dâl ar achlysuron fel priodas, genedigaeth neu farwolaeth. Yn ogystal, byddai cyfeillion i'r bardd yn galw'n gyson i'w weld hefyd - amryw ohonynt yn bobl amlwg ym myd barddoniaeth a llenyddiaeth Gymraeg y cyfnod. Ymysg yr ymwelwyr byddai Siôn Wyn o Eifion, Morris Williams (Nicander), Ellis Owen, Cefnymeusydd, Dic Aberdaron, Robert Hughes, Uwchlaw'rffynnon, a sgweier rhadlon Madryn, Syr Love Jones Parry, i enwi dim ond rhai.

Er mai yng Nghapel Beuno y cynhaliai Eben ei ysgol am y rhan fwyaf o'r amser y bu'n athro arni, eto bu'n ei chadw am gyfnod yn Bod Gybi, gan y cofnoda yn ei ddyddiadur ar 8 Ionawr 1838 iddo symud yr ysgol am gyfnod o'r eglwys i'w dŷ ei hun. Yn ogystal byddai rhai o'r disgyblion a oedd dan ei ofal yn yr ysgol yn lletya yn Bod Gybi a bu trychineb enbyd yn gysylltiedig ag un ohonynt ar 4 Mehefin 1844. Roedd John Jones, bachgen ifanc o Lanberis, yn lletya yno ar y pryd, a dywed Eben iddo gael ei ddeffro gan sŵn dychrynllyd am hanner awr wedi tri y bore. Roedd John yn cael ffit epileptig enbyd a bu'r truan farw mewn poenau mawr rhyw bedair awr yn ddiweddarach, gyda'i frawd ac eraill yn dod yno drannoeth i nôl y corff.

Nid oedd aelwyd Bod Gybi yn un hapus yn aml. Yn un peth roedd tensiynau cyson yno rhwng Eben a Mary, a hynny'n deillio'n bennaf oherwydd ei or-hoffter o'r ddiod a hithau'n dwrdio ei fod yn gwastraffu ei amser a'i arian yn llymeitian yn y Sportsman yng Ngurn Goch, Tafarn y Plas yng Nghlynnog, a thafarnau yng Nghaernarfon a Phwllheli pan fyddai'n mynd i'r trefi hynny. Ond hyd yn oed yn waeth na'r ffraeo, roedd salwch cyson yn Bod Gybi a phrin bod tudalen o ddyddiaduron Eben Fardd nad oes gyfeiriad ynddi at rhyw salwch neu gilydd arno ef, Mary neu un o'r plant. (Yn ogystal ag Elin, a oedd ganddynt cyn symud i Bod Gybi, ganwyd tri phlentyn arall yno, Catherine, Elizabeth a'r unig fab, James Ebenezer.) Roedd llawer o'r anhwylderau hyn yn bethau difrifol iawn a phrin oedd y moddion a oedd ar gael bryd hynny i'w trin. Rhwng 1855 a 1861 bu farw Catherine, Elizabeth, Mary a James Ebenezer ac roedd iechyd Eben ei hun yn prysur ddadfeilio. Bu colli ei fab disglair yn ddeunaw oed yn ergyd arbennig o drom iddo - roedd James wedi dechrau fel myfyriwr mewn ysgol yng nghyffiniau Caer ac roedd yn datblygu'n fathemategydd medrus iawn. Noda Eben ym 1855 mai o'r "madredd" y bu farw Catherine, wedi hir ddihoeni, ond mae'n ymddangos mai'r hen elyn - y dicïau - a gipiodd weddill y teulu. Yn Bod Gybi y bu Eben yntau farw ar 17 Chwefror 1863 yn 61 oed ac oddi yno yr hebryngwyd ef i'w orffwysfa derfynol dros y ffordd ym mynwent eglwys Beuno Sant (fel gweddill ei deulu) ychydig ddyddiau'n ddiweddarach. (Ceir ymdriniaeth helaethach â'r afiechydon a wynebai'r teulu - ac a oedd yn nodweddiadol o glefydau'r cyfnod - yn yr erthygl Afiechydon yn Uwchgwryfai yn y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg yn Cof y Cwmwd.) [1]

Cyfeiriadau

  1. Am fwy o wybodaeth, gweler Detholion o Ddyddiaduron Eben Fardd, E.G. Millward (gol.), (Gwasg Prifysgol Cymru, 1968).