Penybont, Bontnewydd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:18, 9 Chwefror 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Penybont, Bontnewydd yn dŷ ar lan Afon Gwyrfai a'i dalcen ar un pen i bont y pentref, sef Y Bont Newydd. Mae wedi bod yn gragen ers bron i hanner can mlynedd ond yn ddiweddar iawn mae'n cael ei adnewyddu'n llwyr.

Arferai'r adeilad fod yn ddwy siop, un yn siop dilledydd a'r llall, a gedwid gan Ann Owens yn gynnar yn y 20g., yn gwerthu diodydd pefriog a fferins. Mae'n debyg fod trydydd bwthyn bach dwy ystafell hefyd yn rhan o'r eiddo. Yn ôl Cyfrifiad 1891, fe ddisgrifiwyd Ann Owens fel "llythyr-gludydd" (letter carrier). Yn ôl Cyfrifiad 1911, roedd hi wedi bod yn byw ym Mhenybont ers 20 mlynedd; gweddw ydoedd, gyda 6 o blant yn fyw - a chwech arall wedi marw eisoes; nododd ar y ffurflen mai 70 oed oedd hi ac mai un o Borthaethwy, Sir Fôn, ydoedd. Yr oedd hi'n uniaith Gymraeg. Cofiai Evie Glyn Roberts o dai Pentreuchaf ei bod hefyd yn gwerthu halen, ac yn ei dorri oddi ar lwmp solet ar y cownter gyda lli wedi ei gwneud allan o lechen.[1]

Yn ôl Cyfrifiad 1911, yn nhŷ Ann Owens yr oedd 5 ystafell, a 4 y drws nesaf lle trigai Richard ac Elisabeth Thomas a'u tri phlentyn. Yr oedd Ann Williams, hen ddynes 68 oed, yn byw yn y trydydd tŷ, oedd â 2 ystafell yn unig.[2]

 Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Robert Wyn, Colofn Hanes, Lleu, rhif 524 (Tachwedd 2020), t.13
  2. Cyfrifiad plwyf Llanwnda, 1891 a 1911