Penybont, Bontnewydd
Mae Penybont, Bontnewydd yn dŷ ar lan Afon Gwyrfai a'i dalcen ar un pen i bont y pentref, sef Y Bont Newydd. Mae wedi bod yn gragen ers bron i hanner can mlynedd ond yn ddiweddar iawn mae o'n cael ei adnewyddu'n llwyr. Arferai'r adeilad fod yn ddwy siop, un yn siop dilledydd a'r llall, a gedwid gan Ann Owens yn gynnar yn y 20g., yn gwerthu diodydd pefriog a fferins. Pan ddaeth Cyfridiad 1911, roedd hi'n byw ar ei phen ei hun ym Mhenybont, ac roedd hi'n 70 wedi; nododd mai un o Sir Fôn ydoedd.[1] Cofiai Evie Glyn Roberts o dai Pentreuchaf ei bod hefyd yn gwerthu halen, ac yn ei dorri oddi ar lwmp solet ar y cownter gyda lli wedi ei gwneud allan o lechen.[2]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma