Teulu'r Darbishires

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:09, 9 Chwefror 2021 gan Hebog (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Patriarch teulu cefnog a dylanwadol y Darbishires, fu'n rheoli chwareli ithfaen Trefor a Phenmaen-mawr am flynyddoedd maith, oedd Samuel Dukinfield Darbishire, gŵr Mary (nee Blackmore). Priodwyd y ddau 10 Hydref 1825. Ganwyd Samuel ar yr 28ain o Chwefror 1796 yn Bolton-le-Moors, swydd Gaerhirfryn yn Lloegr, yn fab i Robert a Sarah Kay Darbishire (1774-1817). Roedd Robert Darbishire (1769-1840) yn fab i James Darbishire (1729-1790) ac Anne Dukinfield (1732-1802), a'r James hwn yn fab i Samuel Darbishire (1695-1748) a Rebecca Crompton (? - 1737).

Roedd S.D.D. yn gyfreithiwr llwyddiannus a chefnog yn ninas Manceinion ac yn gyfreithiwr Cwmni Rheilffyrdd Caer a Chaergybi,a Swyddi Caerhirfryn ac Efrog. Roedd â chefndir teuluol mewn cloddio am lechi yng Nghymru. Yn grefyddol, Undodwr ydoedd ac yn un o ymddiriedolwyr Capel Cross Street ym Manceinion. Dyna pryd a phle y daeth yn gyfaill mynwesol i William Gaskell. Bu'n un o sylfaenwyr allweddol Coleg Newydd Manceinion yn ogystal ag Athenaeum Manceinion sydd heddiw'n rhan o Oriel Gelf Dinas Manceinion. trigai'r teulu yn Greenheyes. Samuel oedd sefydlydd ac adeiladydd Ysgol Chorlton ym 1836.

Enillodd ei fab hynaf, Robert Dukinfield, ryddfraint Dinas Manceinion ym 1899 am ei waith dyngarol. Trwy etifeddu rhan o gyfoeth Syr Joseph Whitworth, fe sefydlodd Robert Barc ac Oriel Gelf Whitworth, a sefydlodd ei wraig, Harriet, y Manchester High School for Girls. Trigai Robert a Harriet ym Mharc Fictoria.

Ffrind mynwesol i wraig Samuel, oedd Elizabeth Gaskell, y nofelydd poblogaidd a gwraig William Gaskell, a byddai'r pedwar yn treulio gwyliau'n aml gyda'i gilydd yn Llundain neu yn ail gartref y Darbishires 'yn y wlad'. Y tŷ hwn oedd Pendyffryn, Dwygyfylchi, rhwng Penmaen-mawr a Chonwy.

Bu farw yng Nghonwy ar y 5ed o Awst, 1870, a'i gladdu yn Eglwys Dwygyfylchi.

Cafodd Samuel a Mary 13 o blant :

Robert Dukinfield 1826-1908

Marianne 1827-1853

William Arthur 1829-1916

Russel 1830-1831

Vernon 1832-1878

Louisa 1834-1911

Emily 1836-1837

Emily 1837-1857

Sarah Agnes 1839-1917

Francis 1841-1881

CHARLES HENRY !844-1929

Samuel Dukinfield 1846-1892

Mary 1847-1848