C.H. Darbishire

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:38, 8 Chwefror 2021 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd y Cyrnol Charles Henry Darbishire (1844-1929) yn un o reolwyr a pherchnogion Cwmni Penmaenmawr ac Ithfaen Cymreig Cyf (Penmaenmawr and Welsh Granite Company Ltd.). Fe'i ganed i deulu Undodaidd ym Manceinion, ac roedd ei dad yn gyfreithiwr i Gwmni Rheilffordd Caer a Chaergybi. Roedd W.A. Darbishire, rheolwr Chwarel Pen-y-orsedd ac wedyn Chwarel yr Eifl yn frawd iddo.

Bu cysylltiad clos rhwng chwareli Penmaenmawr ac ardal Trefor ers i Samuel Holland agor Chwarel y Gwylwyr yn y 1830au cynnar, gan gyflogi gweithwyr o chwareli Penmaenmawr ar y dechrau.

Ym 1878, cymerodd teulu Darbishire chwareli Penmaenmawr drosodd wrth iddynt brynu Ystad Pendyffryn, Dwygyfylchi, lle roeddynt wedi byw ers 1854. Cymerodd y Cyrnol C.H. Darbishire y swydd o reolwr y chwarel. Roedd ganddo gymwysterau priodol gan ei fod wedi bod yn brentis Peirianneg Sifil gyda'r cwmni a oedd yn adeiladu Rheilffordd Mynydd Genis rhwng Ffrainc a'r Eidal. Cynyddodd gweithgaredd y chwareli o'r flwyddyn honno; roedd dwy chwarel gan y teulu: Graiglwyd, neu'r Hen Chwarel dan Darbishire ei hun, a Chwarel Penmaenmawr. Parhaodd y rhain i fod dan reolaeth y teulu ei hun hyd nes 1911 pan ffurfiwyd cwmni newydd ar gyfer chwareli ithfaen Penmaenmawr a Threfor, sef y Penmaenmawr & Welsh Granite Co. Ltd. Bu hwn dan gadeiryddiaeth y Cyrnol Darbishire hyd ei farwolaeth ym 1929.[1]

Ym Mhenmaenmawr, fodd bynnag, y treuliodd C.H. Darbishire ei oes, i ddechrau ym Mhendyffryn, ac wedyn yn Plas Mawr. Roedd y teulu'n weithgar iawn fel noddwyr achosion da cymunedol yn y cylch, gan godi neuadd ac ysgol, a bu'r Cyrnol yn aelod o Gyngor Sir Gaernarfon am 25 mlynedd. Fel cyn-filwr bu'n gefnogwr brwd i'r Fyddin-wrth-gefn (y "Territorials"). Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ac yntau erbyn hynny'n 70 oed, ceisiodd ail-ymuno â'r fyddin ac, ar ôl cael ei wrthod gartref, teithiodd i'r Aifft a cheisio ymuno yn y fan honno - ond fe'i gwrthodwyd drachefn! Roedd hefyd yn gefnogwr brwd i Fudiad y Sgowtiaid, a hynny'n deillio efallai o'i ddiddordebau milwrol. Roedd yn gapten cyntaf Clwb Golff Penmaenmawr, ac yn aelod brwd o'r Clwb Miwsig lleol. Fe'i hystyrid yn gyflogwr teg a oedd â diddordeb byw yn ei weithlu. Yn ôl ei gofiant, dyn plaen ei dafod a hynod ymarferol ydoedd. Ysgrifennwyd cerdd goffa Saesneg iddo gan neb llai na Cynan (a oedd yn weinidog ym Mhenmaenmawr bryd hynny), lle disgrifir yr hen Gyrnol yn cyrraedd y nefoedd ac yn bur anfodlon ystyried tragwyddoldeb o orffwys a chanu'r delyn yno![2]:

When they brought him his golden lyre,
The Colonel reached for his hat;
"I had rather go straight to the fire
Than strum on a thing like that."

Bu un mab iddo, Charles William Darbishire (1875-1925), yn aelod seneddol Rhyddfrydol yn Wiltshire, 1922-5. Cyn hynny, roedd wedi bod yn ddyn busnes yn Singapôr a Malaya.[3] Ei fab ieuengaf, Charles Stephen Darbishire oedd rheolwr Chwarel yr Eifl o 1918 hyd 1946.


Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Haydn Mather, rhagymadrodd i restr o ddogfennau Chwarel Penmaenmawr, 2007
  2. Welsh Outlook", Cyf.xvii, rhif 10, (1930), tt.268-70
  3. Erthygl Wikipedia ar Charles Darbishire, [1], cyrchwyd 22.01.2021