Charles Stephen Darbishire
Charles Stephen Darbishire oedd mab ieuengaf (1886-1971) Charles Henry Darbishire a'i wraig Mary Lilian (Eckersley gynt). C.S. Darbishire oedd rheolwr Chwarel yr Eifl o 1918 hyd 1946, a dywedir ei fod yn "gyflogwr a berchid yn fawr".
Ymunodd â'r fyddin fel swyddog ym 1917, gan arwain y fintai filwrol chwarelyddol gyntaf i'w ffurfio, sef Cwmni 329 Chwarelydda'r Peirianwyr Brenhinol. Aeth â'r fintai i weithio i Chwarel Haut Banc yn Ffrainc i ddiwallu'r galw am setiau er mwyn adeiladu ffyrdd a oedd eu hangen ar y fyddin yn Ffrainc a Fflandrys. Roedd 1000 o ddynion yn y fintai, llawer ohonynt yn chwarelwyr Penmaenmawr a Threfor. Gadawodd y fyddin yn swyddogol yn Ionawr 1919 gyda'r safle o Gapten, gan ddod yn rheolwr Chwarel yr Eifl yn syth wedyn, gan ddilyn ôl troed ei dad ym maes y chwareli ithfaen.
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd roedd C.S. Darbishire yn Is-gapten ym Mintai Adeiladu Gyffredinol Penmaenmawr.[1]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma