Robert Thomas, Y Ffridd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 19:47, 30 Ionawr 2021 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Gwyddom ychydig am Robert Thomas trwy gofiant John Roberts, Llangwm, un o'i feibion: dyn digon ddistadl ei stad oedd o, mae'n debyg; arferai fyw ym Mlaen-y-garth a gweithio yng Ngwaith copr Drws-y-coed. Fe'i ddisgrifwyd fel "gŵr ystwythgryf", ac yn arweinydd dynion plwyf Llanllyfni ym mhob gornest yn erbyn cryfion y plwyfi cyfagos, hyd nes iddo gael troedigaeth.[1]

Rywbryd ar ôl 1752 symudodd Robert Thomas a'i deulu o Flaen-y-garth, gan gymryd tenantiaeth o wythfed ran o Ffridd Baladeulyn, gan aros yno weddill ei oes a magu teulu yno, yn ncynnwys y gweinidogion enwog John Roberts, Llangwm a Robert Roberts, gweinidog Capel Uchaf.

Tua 1768, sylweddolodd Robert Thomas y byddai buchedd fwy parchus yn gweddu'n well iddo, gan droi at grefydd. Roedd achos a dyfodd wedyn yn achos Capel Salem (MC), Llanllyfni wedi ei sefydlu ym 1766, ac ymunodd Robert Thomas a Chatrin Sion (neu Catherine Jones) yn fuan wedyn. Mae stori troedigaeth Robert yn cael ei adrodd gan William Hobley, ac er efallai y gwelir rhywfaint o ddychymyg yn y dweud, nid ellid gwneud yn well na dyfynnu ei ddisgrifiad yma:

Yr oedd troedigaeth Robert Thomas yn un hynod. Llun y Sulgwyn, yng Ngwylmabsant Clynnog, yr oedd ymladdfa wedi ei phennu rhwng plwyf Clynnog a phlwyf Llanllyfni. Dacw Robert Thomas yn cychwyn yn fore o’r Ffridd, “ a chlamp o ffon dderwen yn ei law,’’ a’i briod a i blant yn llefain yn ei wyneb rhag nas gwelent ef yn ddianaf fyth ond hynny. Tewch â gwirioni, ffyliaid,” ebe yntau, “ myn diawl, mi falaf un hanner dwsin ohonynt yn gocos, nes y diango’r hanner dwsin arall.” Yn y modd hynny Robert y pencampwr! Eithr yr oedd bwriad gwahanol ym- herthynas âg ef gan ei gryfach. Erbyn cyrraedd ohono dŷ Edward y Teiliwr, gerllaw y Capel Uchaf, fe glywai ganu, ac aeth i mewn. Yn y man gweddiwyd. Teimlai’r cawr fel wedi ei hoelio wrth lawr y tŷ fel nad allai fyned allan. Dyma wr yn cymeryd ei destyn :

“ Canys daeth dydd mawr ei ddigter ef, a phwy a ddichon sefyll ?” Argyhoeddwyd y pencampwr. J ames o Drefecca oedd y pregethwr. Aeth Robert Thomas ar ol yr oedfa ar ei union adref. Wrth weled ci wedd ddifrif, gofynnai’r wraig iddo, “ Robert bach, a ydych yn sâl ? ” “ O, nac ydwyf, Cadi bach, yr wyf heddyw yn dechre gwella am byth.” Yna fe eglurodd y digwyddiad i’w deulu. “ Cadi,” eb efe wrth ei briod, “ ni feddwaf ac nid ymladdaf byth mwy ond â’r cythraul a phechod.” Yr oedd y wraig, a’r mab John, mewn dagrau o lawenydd. “ Gobeithio mai felly y bydd, Robert bach,” ebe hithau. “ Na wnaf byth, Cadi, drwy gymorth gras Duw.” Ar ol swper aeth drwy’r ddyledswydd deuluaidd, â’r hyn ni pheidiodd mwyach. Nid anturiodd pobl Llanllyfni ymladd heb eu cawr y Llun Sulgwyn hwnnw. Ymunodd ef a’i wraig cyn hir â’r ddeadell fechan yn y Buarthau. Fel gyda Saul gynt, yr oedd ar y saint ei led arswyd ar y dechre. Pan holid ef yn o fanwl y noswaith gyntaf gan un John Pyrs, a ddigwyddai fod yno, fe ilorrodd allan, “ Ai fy ameu yr ydych, John Pyrs ?” nes fod hwnnw yn gwywo o’i flaen rhag ofn ei fod ar ymollwng i’w hen natur. “ 0, nage, Robert bach, nid ydym yn ameu dim o’ch geirwiredd ; ond y mae’n rhaid i chwi wrth fwy o ras i’ch gwneud yn ddyn nag i craill i’w gwneud yn Gristnogion.” (Gweler Gofiant Michael Roberts i’w dad). Agorodd Robert Thomas ei dŷ, sef Ffridd- baladeulyn, i bregethu, a bu pregethu yno am 52 mlynedd. Fe ddwedir y torrai yn orfoledd yn y Ffridd dan ambell i bregeth,


Roedd yn rhan o'r mudiad i gynnal addysg ymysg y Methodistiaid, trwy sefydlu "ysgol deuluol" yn y Ffridd, lle byddai'n holi'r teulu ama bennau'r ffydd, a hynny'n fuan ar ôl ei droedigaeth. Cynhaliai sesiynau nos Sul ac ar nosweithiau gwaith hefyd, a phan dyfodd ei fab hynaf John yn ddigon hen, cynorthwyai hwnnw ei dad. Ceisid sefydlu ysgol Sul yn Llanllyfni tua 1796, ac yn weddol, fuan wedyn - ac yn sicr bron cyn 1804 - roedd Robert Thomas yn cynnal ysgol Sul yn y Ffridd hefyd[2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

  1. G.T. Roberts, Arfon (1759-1822), Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon, Rhif 1 (1939), tt.57-8
  2. Gwynfryn Richards, The Early Story of the Schools of Dyffryn Nantlle, Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon, Rhif 24 (1963), t.254; W. Hobley, Hanes Methodistiaeth Arfon, Cyf.I, Dosbarth Clynnog (Caernarfon, 1910), t.115