Ffynnon Aelhaearn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 19:04, 10 Rhagfyr 2017 gan Miriamlloydjones (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ffynnon sanctaidd yw Ffynnon Aelhaearn, a lleolir hi ym mhentref Llanaelhaearn. Ffynnon betryal ei siâp, sy’n mesur tua 13 X 7 troedfedd. Ers talwm, deuai cleifion ato i gael gwellhad a byddai pererinion yn aros yma hefyd, i yfed y dŵr a gorffwys ar ôl cerdded o Glynnog. Codwyd adeilad o gwmpas dechrau’r ugeinfed ganrif gan y Cyngor Plwyf, er mwyn gwarchod purdeb y dwr rhag diptheria.

Ffynonellau

Cofnod o’r lle hwn ar wefan y Comisiwn Brenhinol

Gwefan Ffynhonnau Sanctaidd Cymru