Gwesty'r Beuno

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:29, 22 Ionawr 2021 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Gwesty'r Beuno yn hen dafarn yn dyddio o oes y coets fawr yng nghanol pentref Clynnog Fawr, ac yn wir dywedir fod rhannau o'r adeilad yn mynd yn ôl i'r 16g. Dichon hefyd bod llety o ryw fath wedi bod yng Nghlynnog ers cyfnod y pererindota i Enlli, gan fod Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr wedi bod yn gyrchfan i bererinion erioed. Mae hefyd yn sefyll hannaer ffordd rhwng Caernarfon a Phwllheli, ac yn fan strategol ar gyfer newid ceffylau a chael toriad ar y siwrne yn yr hen oes. Erbyn hyn, mae wedi ei droi'n llety hunan-ddarpar ar gyfer grwpiau o hyd at ddau ddwsin o bobl, wedi iddi gau fel gwesty a thafarn y pentref tua 2012, er mai'r un perchnogion sydd i'r adeilad o hyd.

Yn y 19g ac ers o leiaf 1790, Gwesty'r Newborough Arms oedd enw'r dafarn; hynny'n adlewyrchu'r ffaith mai rhan o Ystad Glynllifon yr Arglwydd Newborough oedd y dafarn.[1] Ar fap Ordnans 1888, ceir yr hen enw, ond erbyn map diweddarach a dirfesurwyd ym 1899, ceir yr enw "St Beuno's Hotel".[2] Ar adeg cynharach, cyfeiria Eben Fardd at y lle fel "Tafarn y Plas".[3]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Archifdy Caernarfon, XD2/7270
  2. Mapiau Ordnans 6" i'r filltir, golygyddiadau 1888 a 1901
  3. Gweler yr erthygl ar Ffeiriau Clynnog Fawr.