C.H. Darbishire

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:44, 22 Ionawr 2021 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd y Cyrnol Charles Henry Darbishire (1844-1929) yn un o reolwyr a pherchnogion Cwmni Penmaenmawr ac Ithfaen Cymreig Cyf. Fe'i anwyd i deulu Undodaidd ym Manceinion, ac roedd ei dad yn gyfreithiwr i Gwmni Rheilffordd Caer a Chaergybi. Yr oedd W.A. Darbishire, rheolwr Chwarel Pen-y-orsedd ac wedyn Chwarel yr Eifl yn frawd iddo.

Bu cysylltiad clos rhwng chwareli Penmaenmawr ac ardal Trefor ers i Samuel Holland agor Chwarel Gwylwyr yn y 1830au cynnar, gan gyflogi gweithwyr o chwareli Penmaenmawr ar y dechrau.

Ym 1878, cymerodd teulu Darbishire chwareli Penmaenmawr drosodd wrth iddynt brynu Ystad Pendyffryn, Dwygyfylchi, lle roeddynt wedi byw ers 1854. Cymerodd y Cyrnol C. H. Darbishire y swydd o reolwr y chwarel. Roedd ganddo gymwysterau priodol gan ei fod wedi bod yn brentis Peirianneg Sifil gyda'r cwmni a oedd yn adeiladu Rheilffordd Mynydd Genis rhwng Ffrainc a'r eidal. Cynyddodd gweithgaredd y chwareli o'r flwyddyn honno; roedd dwwy chwarel gan y teulu: Graiglwyd, neu'r Hen Chwarel dan Darbishire ei hun, a Chwarel Penmaenmawr yn parhau â'i gwmni ei hun hyd nes 1911 pan ffurfiwyd cwmni newydd ar gyfer chwareli ithfaen Penmaenmawr a Threfor, sef y Penmaenmawr & Welsh Granite Co. Ltd, dan gadeiryddiaeth y Cyrnol Darbishire hyd ei farwolaeth ym 1929.[1]

Ym Mhenmaenmawr, fodd bynnag, y treuliodd C.H. Darbishire ei oes ym Mhendyffryn, ac wedyn Plas Mawr. Roedd y teulu'n weithgar iawn fel noddwyr achosion d cymunedol yn y cylch, gan godi neuadd ac ysgol, a bu'n aelod o Gyngor Sir Gaernarfon am 25 mlynedd. Bu'n gefnogwr brwd felcyn-filwr i'r Fyddin-wrth-gefn (y "Territorials") a hyd yn oed yn ceisio ymuno'n ol yn y fyddin yn 70 oed yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, pan deithiodd i'r Aifft ar ôl gael ei wrthod adref, a cheisio ymuno yn y fan honno - er iddo gael ei wrthod drachefn! Yn deillio o'r diddordeb yma, efallai, roedd hefyd yn gefnogwr brwd i Fudiad y Sgowtiaid. Fe adnabuwyd fel cyflogwr teg a oedd â diddordeb byw yn ei weithlu. Yn ôl ei gofiant, dyn plaen ei dafod a hynod ymarferol ydoedd, fel mae cerdd Saesneg i gofio amdano (yn rhyfeddol braidd wedi ei gyfansoddi gan neb llai na Cynan), yn ei ddarlunio fo'n mynd i'r nefoedd ac yn bur anfodlon ar dragwyddoldeb yn gorffwys a chanu'r delyn![2]:

When they brought him his golden lyre,
The Colonel reached for his hat;
"I had rather go straight to the fire
Than strum on a thing like that."


Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Haydn Mather, rhagymadrodd i restr o ddogfennau Chwarel Penmaenmawr, 2007
  2. Welsh Outlook", Cyf.xvii, rhif 10, (1930), tt.268-70