Barics Pen-yr-orsedd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:14, 21 Ionawr 2021 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae'r adeiladau a elwir yn Barics Pen-yr-orsedd yn sefyll ar dir a fu'n rhan o fferm Tŷ Mawr yn Nantlle. Mae'r rhan fwyaf o dir fferm yr hen Blas Nantlle, a elwid wedyn yn Tŷ Mawr, bellach wedi ei ddefnyddio i gloddio am lechi neu arllwys gwastraff llechi arno. Codwyd y barics fel cartref i chwarelwyr oedd yn byw yn rhy bell o'r gwaith i deithio yno bob dydd. Nid oedd yn anghyffredin i chwareli llechi adeiladu llety neu farics o'r fath at y diben hwnnw, ond ychydig sydd wedi goroesi a chael defnydd newydd - mae'r rhan fwyaf wedi hen ddadfeilio.

Bellach mae'r barics wedi eu troi'n ganolfan gymdeithasol ar gyfer pentref Nantlle a nifer o weithdai lle caiff busnesau bychain eu sefydlu. Bu Peris & Corr, cwmni dylunio, yno nes tyfu'n fusnes rhy fawr, ac ymysg y tenantiaid presennol mae Coffi Poblado.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau