Melin Ynys Goch

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:22, 19 Mawrth 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Melin Ynys Goch yn felin at ddibenion y fferm ac, yn benodol, erbyn diwedd ei oes o weithio, at falu eithin. Roedd yn sefyll ar un o brif ganghennau Afon Erch. Mae Ynys Goch ym mhen eithaf plwyf Llanaelhaearn, nid nepell o lethrau deuheuol mynydd Pen-y-gaer. Dichon fodd bynnag i'r felin fod yn bwysig i gylch ehangach ar un adeg, gan fod sôn am "Melin yr Ynys Goch" (ynghyd â Thyddin y Felin) ymysg eiddo Ystad Glynllifon yn y cylch a oedd i'w gwerthu i dalu dyledion John Glynn o Lynllifon ym 1685.[1] Mae'r cyfeiriad at Dyddin y Felin fel eiddo ar wahân yn tueddu i awgrymu fod pwysigrwydd y felin y pryd hynny'n ehangach na melin at ddefnydd un fferm yn unig.

Bu eithin yn borthiant i wartheg ac yn arbennig ceffylau tan y 19g., ond roedd angen ei falu a'i wasgu er mwyn iddo fod yn haws ei fwydo i'r anifeiliaid. Roedd peiriannau malu eithin i'w cael hefyd, rhai'n cael eu troi gan ddyn ac eraill gan gŵn; ond mae melin eithin a droir gan ddŵr yn gallu gwneud mwy gyda fawr o angen nerth bôn braich.

Bu'r olwyn ddŵr a'r siafft yn dal yn eu lle tan 2010, pan drowyd yr adeilad yn dŷ.[2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Ewyllysiau Esgobaeth Bangor, B1685-45
  2. Gwefan Coflein [1], cyrchwyd 12.01.2021