Tafarn y Rivals

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 12:39, 8 Ionawr 2021 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Saif tafarn y Rivals Inn (neu'r "Ring" fel y gelwid hi'n lleol) ynghanol pentref Llanaelhaearn ac fe'i hadeiladwyd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Er ei bod wedi cau ers rhai blynyddoedd bellach bu'n dafarn bur boblogaidd am flynyddoedd ac roedd mewn safle hwylus i ddenu cwsmeriaid gan ei bod ar fin ffordd brysur yr A499 o Gaernarfon i Bwllheli. Hefyd wrth i bentref chwarelyddol Trefor gerllaw gynyddu'n gyflym yn niwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau'r ugeinfed ganrif daeth y "Ring" i ddibynnu cryn dipyn ar gwsmeriaeth rhai o drigolion Trefor. Ni fu tafarn yn Nhrefor nes i Glwb y Tŵr (Tafarn y Tŵr erbyn hyn) gael ei agor yn y 1970au.

Er mai adeilad cymharol fychan ydyw, roedd y "Ring" yn cynnig llety yn ogystal â bwyd a diod ar un cyfnod. Un a fu'n lletya yno ddechrau'r ugeinfed ganrif oedd y Parchedig Sabine Baring-Gould, awdur a hynafiaethydd, tra oedd yn arwain gwaith cloddio archeolegol ym mryngaer Tre'r Ceiri gerllaw. Priodol nodi hefyd mai merch y "Ring" oedd Mrs Jones, a roddodd dŷ helaeth yr oedd wedi'i adeiladu iddi'i hun rhwng Pwllheli a'r Ffôr i'w droi'n ysbyty. Fe'i sefydlwyd fel Ysbyty'r Bwth Pwllheli (Pwllheli Cottage Hospital) ym 1924, cyn ei helaethu yn ysbyty i'r llynges yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Bellach dyma Ysbyty Bryn Beryl.