Ffynnon Edliw

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:45, 7 Ionawr 2021 gan Hebog (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Ffynnon Edliw, a rhoi'r enw mwyaf cyfarwydd ar y ffynnon hon ym mhlwyf Llandwrog, yn hen ffynnon heb fawr o hanes iddi, ond eto mae hi'n hen iawn. Enwau eraill a arddelid ar y ffynnon hon yn y gorffennol oedd Ffynnon Odliw a Ffynnon Adliw. Ni chynhwysir mohoni yn rhestr bur gyflawn Francis Jones yn ei lyfr[1]

Mae'n sefyll nid nepell o borthdy mawr Glynllifon, yr ochr arall i'r lôn bost iddo, ac ychydig i'r de, mewn darn o goedwig a elwir yn "Goed Ffynnon-edliw" ar fapiau Ordnans (cyf SH 44915539). Mae waliau o waith cerrig a charreg fawr o lechen ar ei phen yn golygu ei bod yn cael ei gadw'n weddol amlwg. Mae pwll o fewn terfynnau'r wal, tua 4 troedfedd wrth 2 droedfedd a hanner.[2]

Yr oedd y ffynnon hon yn un o'r ffynhonnau a gyfrifid yn sanctaidd gan bererinion y Canol Oesoedd pan oeddynt ar eu taith o Fangor i Ynys Enlli[3]. Nid syndod hyn, ac ystyried fod safleoedd crefyddol eraill gerllaw, sef Eglwys Llandwrog ryw dri lled cae i ffwrdd, a safle hen fetws Betws Gwernrhiw bron gyferbyn â'r ffynnon yr ochr arall i'r ffordd fodern.

Am luniau o'r ffynnon, a mwy o'r hanes, gellir edrych ar wefan Wellhopper[4]. Yn y fan honno, nodir mai Robert Hughes, Uwchlaw'rffynnon, yw'r awdurdod sy'n cyplysu'r ffynnon â thaith y pererinion.

Mae'r enw ei hun yn peri dryswch. Mae Dr Glenda Carr yn amau'n gryf nad "edliw", sef atgoffa rhywun o gamwedd, sydd yma. Noda un achos o "odliw" (sef "lliw anghyffredin" ar y dwr; ac enghraifft o sillafaid "hadlu", all fod yn sillafiad anghyffredin ar "hadle", neu feithrinfa blanhigion. Mae hi, fodd bynnag, yn ffafrio'r enw personol Hoedlyw, enw nad oedd yn anghyffredin yn y Canol Oesoedd - ond pwy oedd Hoedlyw na wyddys.[5]

Cyfeiriadau

  1. Francis Jones, The Holy Wells of Wales, (Caerdydd, 1954)
  2. Comisaiwn Henebion Cymru, Caernarvonshire, Cyf 2, t.198.
  3. http://www.ffynhonnaucymru.org.uk/ffynhonnau%27r_pererinion.htm
  4. https://wellhopper.wordpress.com/2016/11/13/ffynnon-edliw-llandwrog/
  5. Glenda Carr, Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd (Caernarfon, 2011), tt.124-5