Ffynnon Aelhaearn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 19:13, 6 Ionawr 2021 gan Hebog (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ffynnon sanctaidd yw Ffynnon Aelhaearn, a lleolir hi ym mhentref Llanaelhaearn. Fe'i gwelir ar waelod yr allt hir sydd yn arwain dros yr Eifl, ac mae wedi ei hamgylchynu bellach gan wal gerrig. Ffynnon betryal ei siâp ydyw, sy’n mesur tua 13 X 7 troedfedd, gyda sedd/gris ar dair ochr. Ers talwm, deuai cleifion yno i gael gwellhad a byddai pererinion yn aros yma hefyd, i yfed y dŵr a gorffwys ar ôl cerdded o Glynnog. Yn ôl traddodiad, arferai’r cleifion eistedd ar sedd garrreg gerllaw, yn disgwyl ‘cynhyrfiad y dyfroedd’, pan fyddai swigod yn codi’n sydyn o waelod y ffynnon. Pan ddigwyddai hynny, aent i’r dŵr ac ymdrochi ynddo. Codwyd adeilad o gerrig o'i chwmpas yn nechrau'r ugeinfed ganrif gyda tho llechi yn rhedeg i lawr at y cefn ac mae drws pren yn wynebu’r ffordd. Mae llechen gyda’r geiriau ‘St. Aelhaearn’s Well. Roofed 1900’ uwchben y drws. Codwyd yr adeilad hwn ddechrau’r ugeinfed ganrif gan y Cyngor Plwyf, er mwyn gwarchod purdeb y dŵr rhag diptheria.



Ffynonellau

Cofnod o’r lle hwn ar wefan y Comisiwn Brenhinol

Gwefan Ffynhonnau Sanctaidd Cymru