Siop y Felin, Nantlle

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:30, 3 Ionawr 2021 gan Cudyll (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Siop y Felin erbyn heddiw

Roedd Siop y Felin ym mhentref Nantlle ar draws y ffordd i'r Barics, ac am amser bu'n Swyddfa Bost ar gyfer pentref Nantlle. Mae'r adeilad wedi ei newid a'i addasu'n dŷ annedd yn unig erbyn hyn. Nid oes Swyddfa'r Bost yn Nantlle bellach, ond yn y man, symudodd y Swyddfa Bost o Siop y Felin i'w safle olaf, wrth y drofa yn y ffordd fawr ger Plas Nantlle.

Ym mlynyddoedd cynnar yr 20g., un o feibion Tal-y-mignedd Isaf, Robert Hughes Jones, oedd yn cadw'r siop a'r post.[1]

 Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Gwybodaeth gan y teulu