Baladeulyn
Credir mai Baladeulyn oedd safle un o lysoedd tywysogion Gwynedd, ac wedi'i leoli yn Nantlle. Awgrymai rhai haneswyr hefyd fod y lle hwn bellach yn cael ei adnabod fel Tŷ Mawr. Mae gan y lle gysylltiadau â’r Mabinogion yn ôl y sôn hefyd.
Mae ei hanes yn ogystal ynghlwm â'r goncwest Seisnig dan Edward I yn dilyn 1284. Cipiwyd y llys oddi ar y Cymry wedi hynny, ac fe'i rhoddwyd i Tudur Goch ap Grono (Tudur ap Gronw o’r Nantlle) i wobrwyo ei lwyddiant ym Mrwydr Crécy ym 1346. Ef a adeiladodd ‘Plas Nantlle’ yno.
Roedd y lle hwn hefyd yn gartref i is-gangen, neu gangen iau, o deulu'r Glyniaid (Glynllifon) rhwng y 14eg a’r 17eg.
Darllen pellach
Ambrose, W. R. Hynafiaethau, cofiannau, a hanes presennol Nant Nantlle (G. Lewis, 1872)
Johnstone, Neil ‘Llys and Maerdref:the royal courts of the princes of Gwynedd. A study of their location and selective trial excavation' Studia Celtica XXXIV (2000)