Damweiniau yn Chwarel yr Eifl: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Roedd y chwareli llechi ac ithfaen fel y gwyddom yn fannau hynod beryglus i weithio ynddynt a digwyddai damweiniau difrifol - llawer ohonynt yn angheuol -...' |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 2: | Llinell 2: | ||
William Williams, Gurn Goch; cael ei wasgu rhwng wagen a thomen o setts yng nglan y môr. | William Williams, Gurn Goch; cael ei wasgu rhwng wagen a thomen o setts yng nglan y môr. | ||
Griffith Jones, Hen Derfyn, a laddwyd yn y chwarel 12 Mawrth 1890 yn 67 oed. | Griffith Jones, Hen Derfyn, a laddwyd yn y chwarel 12 Mawrth 1890 yn 67 oed. | ||
David Hughes, mwynwr (miner), 3 Green Terrace; ganed ef yn Llannefydd, Sir Ddinbych, ym 1853 ac ar ôl priodi daeth i fyw i'r Hen Offis (West End) yn Nhrefor ym 1878. Fe'i lladdwyd yn y chwarel ar 18 Mai 1894 - neb yn gallu rhwystro i waed redeg o'i fraich. Roedd ganddo saith o blant. | David Hughes, mwynwr (miner), 3 Green Terrace; ganed ef yn Llannefydd, Sir Ddinbych, ym 1853 ac ar ôl priodi daeth i fyw i'r Hen Offis (West End) yn Nhrefor ym 1878. Fe'i lladdwyd yn y chwarel ar 18 Mai 1894 - neb yn gallu rhwystro i waed redeg o'i fraich. Roedd ganddo saith o blant. | ||
John Jones, Ysgubor Wen; cael ei dynnu i'r drwm yn y bonc isaf, 27 Mai 1900 yn 28 oed. | John Jones, Ysgubor Wen; cael ei dynnu i'r drwm yn y bonc isaf, 27 Mai 1900 yn 28 oed. | ||
William John Williams, 66 Ffordd yr Eifl, hogyn 13 oed. Wrth iddo fynd at ei waith yn y chwarel ar 15 Rhagfyr 1905 daeth wagenni oddi ar y rheiliau a throi arno. | William John Williams, 66 Ffordd yr Eifl, hogyn 13 oed. Wrth iddo fynd at ei waith yn y chwarel ar 15 Rhagfyr 1905 daeth wagenni oddi ar y rheiliau a throi arno. | ||
Tom Roper, Green Terrace; bu farw yn y bonc ganol. | Tom Roper, Green Terrace; bu farw yn y bonc ganol. | ||
David Jones; bu farw yn y bonc isaf a elwid 'Jeriwsalem'. | David Jones; bu farw yn y bonc isaf a elwid 'Jeriwsalem'. | ||
John Jones, New Street; fe'i lladdwyd yn y bonc bach Ddydd Calan 1909 yn 38 oed. | John Jones, New Street; fe'i lladdwyd yn y bonc bach Ddydd Calan 1909 yn 38 oed. | ||
Owen Roberts, Nant-y-Cwm, mwynwr; fe'i lladdwyd yn y bonc dwll 31 Ionawr 1909 yn 56 oed. | Owen Roberts, Nant-y-Cwm, mwynwr; fe'i lladdwyd yn y bonc dwll 31 Ionawr 1909 yn 56 oed. | ||
Robert Uzzel Jones (o Sir Fôn yn wreiddiol), dreifar yr injan bach o'r offis i lan y môr. Fe'i gwasgwyd yn erbyn postyn carreg oedd ar y bont dros yr afon yng nglan y môr; bu farw 11 Awst 1909 yn 64 oed. | Robert Uzzel Jones (o Sir Fôn yn wreiddiol), dreifar yr injan bach o'r offis i lan y môr. Fe'i gwasgwyd yn erbyn postyn carreg oedd ar y bont dros yr afon yng nglan y môr; bu farw 11 Awst 1909 yn 64 oed. | ||
Robert Hugh Williams, Pen Steps (1 Green Terrace); fe'i lladdwyd yn 27 oed yn ymyl yr Offis drwy i wagen heb ei bachu redeg i lawr o Brêc Newydd a'i daro, a hynny ar 29 Ionawr 1913. | Robert Hugh Williams, Pen Steps (1 Green Terrace); fe'i lladdwyd yn 27 oed yn ymyl yr Offis drwy i wagen heb ei bachu redeg i lawr o Brêc Newydd a'i daro, a hynny ar 29 Ionawr 1913. | ||
William Williams, 13 Sea View, mwynwr yn y drydedd bonc. Fe'i lladdwyd yn 71 oed ar 28 Mai 1914 drwy i ddarn o'r graig ddod i lawr ar ei gefn. | William Williams, 13 Sea View, mwynwr yn y drydedd bonc. Fe'i lladdwyd yn 71 oed ar 28 Mai 1914 drwy i ddarn o'r graig ddod i lawr ar ei gefn. | ||
Joseph Williams, 7 River Terrace; bu farw yn y bonc isaf 22 Mai 1922 yn 48 oed. | Joseph Williams, 7 River Terrace; bu farw yn y bonc isaf 22 Mai 1922 yn 48 oed. | ||
Ar 31 Rhagfyr 1923 collodd dau chwarelwr eu bywydau gyda'i gilydd yn y bonc dwll. Eu henwau oedd Hugh Williams Bott, 31 oed a Lewis D. Williams, 42 oed. Roedd y ddau o Drefor ac yn tyllu cerrig ar y pryd. | Ar 31 Rhagfyr 1923 collodd dau chwarelwr eu bywydau gyda'i gilydd yn y bonc dwll. Eu henwau oedd Hugh Williams Bott, 31 oed a Lewis D. Williams, 42 oed. Roedd y ddau o Drefor ac yn tyllu cerrig ar y pryd. | ||
John Griffith Williams o Lithfaen a laddwyd 14 Chwefror 1927 yn 28 oed. Roedd yn gweithio yn y bonc newydd pan syrthiodd carreg o'r brig a'i daro ar ei ben. | John Griffith Williams o Lithfaen a laddwyd 14 Chwefror 1927 yn 28 oed. Roedd yn gweithio yn y bonc newydd pan syrthiodd carreg o'r brig a'i daro ar ei ben. | ||
Humphrey Jones, 57 Ffordd yr Eifl. Cafodd ddamwain angheuol yn y "Crusher" ar Ddydd Gŵyl Ddewi 1928 yn 51 oed. | Humphrey Jones, 57 Ffordd yr Eifl. Cafodd ddamwain angheuol yn y "Crusher" ar Ddydd Gŵyl Ddewi 1928 yn 51 oed. | ||
Thomas Jones, 12 New Street. Bu farw'n sydyn wrth ei waith fel setsiwr yn y drydedd bonc ar 12 Hydref 1928 yn 72 oed. | Thomas Jones, 12 New Street. Bu farw'n sydyn wrth ei waith fel setsiwr yn y drydedd bonc ar 12 Hydref 1928 yn 72 oed. | ||
David John Hughes, 4 West End. Fe'i lladdwyd 9 Gorffennaf 1928 yn 29 oed pan syrthiodd llwyth o reiliau oddi ar wagen ar ei gefn ger swyddfa'r chwarel. (Nid oedd yn gweithio'n uniongyrchol i'r cwmni ond yn digwydd pasio ar y pryd.) | David John Hughes, 4 West End. Fe'i lladdwyd 9 Gorffennaf 1928 yn 29 oed pan syrthiodd llwyth o reiliau oddi ar wagen ar ei gefn ger swyddfa'r chwarel. (Nid oedd yn gweithio'n uniongyrchol i'r cwmni ond yn digwydd pasio ar y pryd.) | ||
Griffith Griffith, Llithfaen, a fu farw 1 Tachwedd 1929 yn 49 oed. Roedd yn llwytho wagen pan neidiodd carreg oddi arni a'i daro yn ei ben. | Griffith Griffith, Llithfaen, a fu farw 1 Tachwedd 1929 yn 49 oed. Roedd yn llwytho wagen pan neidiodd carreg oddi arni a'i daro yn ei ben. | ||
Robert William Jones, Borthygest; mwynwr 30 oed a laddwyd yn y seithfed bonc 4 Tachwedd 1938. | Robert William Jones, Borthygest; mwynwr 30 oed a laddwyd yn y seithfed bonc 4 Tachwedd 1938. | ||
Evan Williams, 15 oed o Lithfaen. Bu farw wrth gerdded adref o'r gwaith dros y mynydd 2 Ionawr 1939. | Evan Williams, 15 oed o Lithfaen. Bu farw wrth gerdded adref o'r gwaith dros y mynydd 2 Ionawr 1939. | ||
Daniel Evans Williams, 2 New Street. Bu farw yn y bonc isaf 11 Tachwedd 1949 yn 58 oed. | Daniel Evans Williams, 2 New Street. Bu farw yn y bonc isaf 11 Tachwedd 1949 yn 58 oed. | ||
Steven Williams, 13 Sea View. Fe'i lladdwyd yn y bonc newydd ar 24 Mawrth 1948 yn 43 oed trwy i dwll danio yn ei ymyl. | Steven Williams, 13 Sea View. Fe'i lladdwyd yn y bonc newydd ar 24 Mawrth 1948 yn 43 oed trwy i dwll danio yn ei ymyl. | ||
Robert John Jones, Llanaelhaearn, a laddwyd yn 39 oed ar 3 Gorffennaf 1948. Rhedodd wagen heb i bachu o'r bumed bonc i'r drydedd bonc lle roedd yn gweithio yn y brêc, a'i ladd. | Robert John Jones, Llanaelhaearn, a laddwyd yn 39 oed ar 3 Gorffennaf 1948. Rhedodd wagen heb i bachu o'r bumed bonc i'r drydedd bonc lle roedd yn gweithio yn y brêc, a'i ladd. | ||
Richard Elved Williams, 6 Lime Street, a laddwyd yn y Bonc Dwll 28 Ionawr 1949 trwy gael ei dynnu i beiriant llifio cerrig. Roedd yn 54 oed. | Richard Elved Williams, 6 Lime Street, a laddwyd yn y Bonc Dwll 28 Ionawr 1949 trwy gael ei dynnu i beiriant llifio cerrig. Roedd yn 54 oed. | ||
Robert Ellis Roberts, saer maen. Bu farw wrth ei waith yng ngweithdy'r saer yn yr Offis 15 Medi 1961. <sup>[1]</sup> | Robert Ellis Roberts, saer maen. Bu farw wrth ei waith yng ngweithdy'r saer yn yr Offis 15 Medi 1961. <sup>[1]</sup> | ||
Fersiwn yn ôl 10:58, 18 Rhagfyr 2020
Roedd y chwareli llechi ac ithfaen fel y gwyddom yn fannau hynod beryglus i weithio ynddynt a digwyddai damweiniau difrifol - llawer ohonynt yn angheuol - yn gyson gwaetha'r modd. Drwy gydol y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac, yn wir, tan ganol yr ugeinfed ganrif, prin oedd y sylw a roddid i iechyd a diogelwch y chwarelwyr, gydag elw i berchenogion a chyfranddalwyr y chwareli yn cael ei ystyried yn llawer pwysicach. Cafodd Chwarel yr Eifl hithau hefyd ei siâr o ddamweiniau erchyll, er na ellir cymharu nifer y marwolaethau yno â'r cannoedd a gollwyd yn chwareli Y Penrhyn a Dinorwig. Achoswyd y rhan fwyaf o'r marwolaethau yn Chwarel yr Eifl gan ddigwyddiadau megis wagenni'n torri'n rhydd a rhedeg oddi ar y cledrau a throi ar ddynion; tyllau powdr yn ffrwydro'n gynamserol cyn i rai o'r chwarelwyr fedru cyrraedd eu lochesi; a cherrig rhydd yn syrthio o bonciau uwchben a tharo dynion a oedd yn gweithio ar y ponciau o danynt. Yn sicr fe ddigwyddodd llawer o ddamweiniau yn Chwarel yr Eifl yn ystod degawdau cynnar ei hanes o'r adeg pan gafodd ei sefydlu gyntaf ar raddfa fechan iawn yn Y Gorllwyn yn y 1840au, cyn symud yn raddol yn uwch i fyny'r mynydd a chynyddu'n enfawr o ran ei maint erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Fel yn y chwareli eraill, roedd yn arferiad i'r dynion roi'r gorau i weithio am y diwrnod pan ddigwyddai damwain farwol - ond yn sicr byddai disgwyl iddynt fod yn ôl wrth eu dyletswyddau drannoeth, waeth beth oedd yr erchyllder roeddent wedi bod yn dyst iddo. Ysywaeth ni chadwyd cofnodion o'r rhai a gollwyd yn ystod y cyfnod cynnar, ond mae manylion wedi eu cadw o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg ymlaen. Mae'r rhain wedi eu nodi yng nghyfrol bwysig y diweddar Gwilym Owen o Drefor, sef Pentref Trefor a Chwarel yr Eifl.
William Williams, Gurn Goch; cael ei wasgu rhwng wagen a thomen o setts yng nglan y môr.
Griffith Jones, Hen Derfyn, a laddwyd yn y chwarel 12 Mawrth 1890 yn 67 oed.
David Hughes, mwynwr (miner), 3 Green Terrace; ganed ef yn Llannefydd, Sir Ddinbych, ym 1853 ac ar ôl priodi daeth i fyw i'r Hen Offis (West End) yn Nhrefor ym 1878. Fe'i lladdwyd yn y chwarel ar 18 Mai 1894 - neb yn gallu rhwystro i waed redeg o'i fraich. Roedd ganddo saith o blant.
John Jones, Ysgubor Wen; cael ei dynnu i'r drwm yn y bonc isaf, 27 Mai 1900 yn 28 oed.
William John Williams, 66 Ffordd yr Eifl, hogyn 13 oed. Wrth iddo fynd at ei waith yn y chwarel ar 15 Rhagfyr 1905 daeth wagenni oddi ar y rheiliau a throi arno.
Tom Roper, Green Terrace; bu farw yn y bonc ganol.
David Jones; bu farw yn y bonc isaf a elwid 'Jeriwsalem'.
John Jones, New Street; fe'i lladdwyd yn y bonc bach Ddydd Calan 1909 yn 38 oed.
Owen Roberts, Nant-y-Cwm, mwynwr; fe'i lladdwyd yn y bonc dwll 31 Ionawr 1909 yn 56 oed.
Robert Uzzel Jones (o Sir Fôn yn wreiddiol), dreifar yr injan bach o'r offis i lan y môr. Fe'i gwasgwyd yn erbyn postyn carreg oedd ar y bont dros yr afon yng nglan y môr; bu farw 11 Awst 1909 yn 64 oed.
Robert Hugh Williams, Pen Steps (1 Green Terrace); fe'i lladdwyd yn 27 oed yn ymyl yr Offis drwy i wagen heb ei bachu redeg i lawr o Brêc Newydd a'i daro, a hynny ar 29 Ionawr 1913.
William Williams, 13 Sea View, mwynwr yn y drydedd bonc. Fe'i lladdwyd yn 71 oed ar 28 Mai 1914 drwy i ddarn o'r graig ddod i lawr ar ei gefn.
Joseph Williams, 7 River Terrace; bu farw yn y bonc isaf 22 Mai 1922 yn 48 oed.
Ar 31 Rhagfyr 1923 collodd dau chwarelwr eu bywydau gyda'i gilydd yn y bonc dwll. Eu henwau oedd Hugh Williams Bott, 31 oed a Lewis D. Williams, 42 oed. Roedd y ddau o Drefor ac yn tyllu cerrig ar y pryd.
John Griffith Williams o Lithfaen a laddwyd 14 Chwefror 1927 yn 28 oed. Roedd yn gweithio yn y bonc newydd pan syrthiodd carreg o'r brig a'i daro ar ei ben.
Humphrey Jones, 57 Ffordd yr Eifl. Cafodd ddamwain angheuol yn y "Crusher" ar Ddydd Gŵyl Ddewi 1928 yn 51 oed.
Thomas Jones, 12 New Street. Bu farw'n sydyn wrth ei waith fel setsiwr yn y drydedd bonc ar 12 Hydref 1928 yn 72 oed.
David John Hughes, 4 West End. Fe'i lladdwyd 9 Gorffennaf 1928 yn 29 oed pan syrthiodd llwyth o reiliau oddi ar wagen ar ei gefn ger swyddfa'r chwarel. (Nid oedd yn gweithio'n uniongyrchol i'r cwmni ond yn digwydd pasio ar y pryd.)
Griffith Griffith, Llithfaen, a fu farw 1 Tachwedd 1929 yn 49 oed. Roedd yn llwytho wagen pan neidiodd carreg oddi arni a'i daro yn ei ben.
Robert William Jones, Borthygest; mwynwr 30 oed a laddwyd yn y seithfed bonc 4 Tachwedd 1938.
Evan Williams, 15 oed o Lithfaen. Bu farw wrth gerdded adref o'r gwaith dros y mynydd 2 Ionawr 1939.
Daniel Evans Williams, 2 New Street. Bu farw yn y bonc isaf 11 Tachwedd 1949 yn 58 oed.
Steven Williams, 13 Sea View. Fe'i lladdwyd yn y bonc newydd ar 24 Mawrth 1948 yn 43 oed trwy i dwll danio yn ei ymyl.
Robert John Jones, Llanaelhaearn, a laddwyd yn 39 oed ar 3 Gorffennaf 1948. Rhedodd wagen heb i bachu o'r bumed bonc i'r drydedd bonc lle roedd yn gweithio yn y brêc, a'i ladd.
Richard Elved Williams, 6 Lime Street, a laddwyd yn y Bonc Dwll 28 Ionawr 1949 trwy gael ei dynnu i beiriant llifio cerrig. Roedd yn 54 oed.
Robert Ellis Roberts, saer maen. Bu farw wrth ei waith yng ngweithdy'r saer yn yr Offis 15 Medi 1961. [1]
Cyfeiriadau
Gwilym Owen, Pentref Trefor a Chwarel yr Eifl, (Penrhyndeudraeth, 1972), tt.28-30.