Gorsaf reilffordd Pwllheli Road: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) B Symudodd Heulfryn y dudalen Gorsaf reilffordd Clynnog Road i Gorsaf reilffordd Pwllheli Road heb adael dolen ailgyfeirio |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 4: | Llinell 4: | ||
==Cyfeiriadau== | ==Cyfeiriadau== | ||
{{cyfeiriadau}} | {{cyfeiriadau}} | ||
[[Categori: | [[Categori:Gorsafoedd rheilffordd]] |
Fersiwn yn ôl 10:21, 4 Rhagfyr 2020
Clynnog Road oedd enw'r orsaf a sefydlwyd ym 1856 ar Reilffordd Nantlle, pan ddechreuodd y rheolwr newydd, Edward Preston gyhoeddi amserlenni a rhedeg trenau'n unswydd ar gyfer teithwyr - er mai tryciau agored a dynnid gan geffylau oedd y trenau![1] Mabwysiadwyd yr enw gan Rheilffordd Sir Gaernarfon pan agorwyd y lein honno ar yr un llwybr â'r hen Reilffordd Nantlle, ond yn y man fe newidwyd yr enw i Llanwnda. Gwasanaethai'r tai o gwmpas treflan Graeanfryn, ond ei brif ddiben oedd darparu gorsaf ar gyfer ardal ehangach ar hyd y lôn fawr i gyfeiriad Clynnog Fawr - a hyd yn oed Pwllheli (cofier: ni fyddai rheilffordd yn cyrraedd y dref honno tan 1866). Er bod Gorsaf reilffordd Pen-y-groes (Rheilffordd Nantlle) lawn agosed, roedd y tramiau'n symud mor araf fel y byddai'n gynt gadael y trên yma yn hytrach na theithio ymlaen hyd Penygroes - ac mewn oes pan nad oedd gan y rhan fwyaf o bobl ddewis ond cerdded milltiroedd lawer er mwyn teithio o le i le, byddai hyd yn oed "pás" am dair milltir yn cyfrif.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ JIC Boyd, Narrow Gauge Railways in North Caernarvonshire, Cyf 1, (Oakwood, 1981), t.29