Tom Huws: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 2: Llinell 2:
[[Delwedd:Tom Huws 1970.jpg|bawd|de|300px|Tom Huws ym 1970]]
[[Delwedd:Tom Huws 1970.jpg|bawd|de|300px|Tom Huws ym 1970]]


Roedd  Y Prifardd '''Tom Huws''' (1910-1992) yn frodor o'r [[Y Groeslon|Groeslon]], ac yn fab i Thomas Hughes ac Ellen ei wraig - er mai Elin y'i hadnabuwyd hi gan bawb.  
Roedd  Y Prifardd '''Tom Huws''' (1910-1992) yn frodor o'r [[Y Groeslon|Groeslon]]. Cafodd ei eni 30 Mai 1910, i deulu uniaith Gymraeg, yn fab i Thomas Hughes ac Ellen ei wraig
<ref>Cyfrifiad Plwyf Llandwrog 1911</ref> - er mai fel Elin y'i hadnabuwyd hi gan bawb. Daeth drasiedi i ran y teulu pan farwodd Elin y fam o'r diciáu yn 35 oed pan nad oedd Tom ond 5 oed. Ailbriododd y tad o fewn ychydig â chyfnither Elin, sef Lizzie, a chafwyd sawl plentyn o'r uniad hwnnw.   


Fe'i fedyddiwyd yn Thomas Griffith Hughes, er Tom Huws fuodd o erioed i bawb. Fe gafodd ei eni yn y Groeslon, mewn tŷ o'r enw Dolnenan, ac roedd ganddo ddau frawd hŷn, David (neu Dafydd) ac Owen. Daeth drasiedi i ran y teulu pan farwodd Elin y fam o'r diciáu yn 35 oed pan nad oedd Tom ond 5 oed. Ailbriododd y tad o fewn ychydig â chyfnither Elin, sef Lizzie, a chafwyd sawl plentyn o'r uniad hwnnw.  
Fe'i fedyddiwyd yn Thomas Griffith Hughes, er Tom Huws fuodd o erioed i bawb. Cartref y teulu yn y Groeslon oedd Dolnenan, ac roedd ganddo ddau frawd hŷn, David (neu Dafydd) ac Owen. Chwarelwr oedd y tad, ond "dyn ceffylau" oedd Tom ac fe adawodd ei gartref yn 14 oed i weithio mewn stablau ac fel joci. Naturiol iddo felly oedd ymuno â Chatrawd y Marchfagnelau Brenhinol (''Royal Horse Artillery'') pan ddaeth yr Ail Ryfel Byd.


Chwarelwr oedd y tad, ond "dyn ceffylau" oedd Tom ac fe adawodd ei gartref yn 14 oed i weithio mewn stablau ac fel joci. Naturiol iddo felly oedd ymuno â Chatrawd y Marchfagnelau Brenhinol (''Royal Horse Artillery'') pan ddaeth yr Ail Ryfel Byd.
Wedi ei wasanaeth milwrol, aeth i'r chwarel i weithio yn gyntaf, ac wedyn i fannau eraill cyn ymgeisio am le yng Ngholeg Harlch, "Coleg yr Ail Gyfle" er mwyn sichau addysg bellach, ac yr oedd yn un o'r ychydig a gafodd le yno. Wedi treulio tymor yno, aeth i Goleg Cyncoed, Gaerdydd i hyfforddi fel athro dan gynllun i hyfforddi'r athrawon ychwanegol oedd eu hangen wedi'r rhyfel. Bu'n athro mewn sawl ysgol, yr un gyntaf oedd Ysgol Gynradd Parc y Rhath yng Nghaerdydd,<ref>Gwybodaeth oddi wrth Philip Lloyd</ref> cyn symud i Ysgol Glan Clwyd (Y Rhyl, a Llanelwy wedyn) ym 1960 fel athro Cymraeg, gan symud i fyw gyda'r teulu i'r Rhyl. Ymddeolodd yn 65 oed ym 1975.<ref>Wicipedia, [https://cy.wikipedia.org/wiki/Tom_Huws]; gwybodaeth bersonol gan ei ferch, Non Huws</ref> Sawl flwyddyn wedi iddo ymddeol, cyfansoddodd yr englyn canlynol ar gyfer llyfr llofnodion a gynhyrchwyd gan Glan Clwyd:
 
Cafodd ei eni 30 Mai 1910. Wedi ei wasanaeth milwrol, aeth i'r chwarel i weithio yn gyntaf, ac wedyn i fannau eraill cyn ymgeisio am le yng Ngholeg Harlch, "Coleg yr Ail Gyfle" er mwyn sichau addysg bellach, ac yr oedd yn un o'r ychydig a gafodd le yno. Wedi treulio tymor yno, aeth i Goleg Cyncoed, Gaerdydd i hyfforddi fel athro dan gynllun i hyfforddi'r athrawon ychwanegol oedd eu hangen wedi'r rhyfel. Bu'n athro mewn sawl ysgol, yr un gyntaf oedd Ysgol Gynradd Parc y Rhath yng Nghaerdydd,<ref>Gwybodaeth oddi wrth Philip Lloyd</ref> cyn symud i Ysgol Glan Clwyd (Y Rhyl, a Llanelwy wedyn) ym 1960 fel athro Cymraeg, gan symud i fyw gyda'r teulu i'r Rhyl. Ymddeolodd yn 65 oed ym 1975.<ref>Wicipedia, [https://cy.wikipedia.org/wiki/Tom_Huws]; gwybodaeth bersonol gan ei ferch, Non Huws</ref> Sawl flwyddyn wedi iddo ymddeol, cyfansoddodd yr englyn canlynol ar gyfer llyfr llofnodion a gynhyrchwyd gan Glan Clwyd:


     ''' ''Hiraeth hen athro am Ysgol Glan Clwyd'' '''
     ''' ''Hiraeth hen athro am Ysgol Glan Clwyd'' '''

Fersiwn yn ôl 13:16, 3 Rhagfyr 2020

Tom Huws ym 1970

Roedd Y Prifardd Tom Huws (1910-1992) yn frodor o'r Groeslon. Cafodd ei eni 30 Mai 1910, i deulu uniaith Gymraeg, yn fab i Thomas Hughes ac Ellen ei wraig [1] - er mai fel Elin y'i hadnabuwyd hi gan bawb. Daeth drasiedi i ran y teulu pan farwodd Elin y fam o'r diciáu yn 35 oed pan nad oedd Tom ond 5 oed. Ailbriododd y tad o fewn ychydig â chyfnither Elin, sef Lizzie, a chafwyd sawl plentyn o'r uniad hwnnw.

Fe'i fedyddiwyd yn Thomas Griffith Hughes, er Tom Huws fuodd o erioed i bawb. Cartref y teulu yn y Groeslon oedd Dolnenan, ac roedd ganddo ddau frawd hŷn, David (neu Dafydd) ac Owen. Chwarelwr oedd y tad, ond "dyn ceffylau" oedd Tom ac fe adawodd ei gartref yn 14 oed i weithio mewn stablau ac fel joci. Naturiol iddo felly oedd ymuno â Chatrawd y Marchfagnelau Brenhinol (Royal Horse Artillery) pan ddaeth yr Ail Ryfel Byd.

Wedi ei wasanaeth milwrol, aeth i'r chwarel i weithio yn gyntaf, ac wedyn i fannau eraill cyn ymgeisio am le yng Ngholeg Harlch, "Coleg yr Ail Gyfle" er mwyn sichau addysg bellach, ac yr oedd yn un o'r ychydig a gafodd le yno. Wedi treulio tymor yno, aeth i Goleg Cyncoed, Gaerdydd i hyfforddi fel athro dan gynllun i hyfforddi'r athrawon ychwanegol oedd eu hangen wedi'r rhyfel. Bu'n athro mewn sawl ysgol, yr un gyntaf oedd Ysgol Gynradd Parc y Rhath yng Nghaerdydd,[2] cyn symud i Ysgol Glan Clwyd (Y Rhyl, a Llanelwy wedyn) ym 1960 fel athro Cymraeg, gan symud i fyw gyda'r teulu i'r Rhyl. Ymddeolodd yn 65 oed ym 1975.[3] Sawl flwyddyn wedi iddo ymddeol, cyfansoddodd yr englyn canlynol ar gyfer llyfr llofnodion a gynhyrchwyd gan Glan Clwyd:

    Hiraeth hen athro am Ysgol Glan Clwyd 
Pallodd nwyd a'r breuddwydion - ddoe a'i nef,
ni ddaw nôl yr awron;
Daw hiraeth, hiraeth am hon
Alaeth, a chlwyf i'r galon.."[4]



Enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon, 1959 am bryddest ar y testun Cadwynau lle ymdrinodd â dirywiad y gymdeithas a'r cyni wedi i'r chwarel leol yn Nyffryn Nantlle gau. Mewn telegram yn ei longyfarch, geiriau'r Dr Iorwerth Peate oedd "O rebel i rebel".[5] Mae'r llinellau canlynol yn cyfleu naws y gwaith arobryn:

   Rhynllyd gefnau ar y waliau boliog,
   Stelcian, stilio a sgwrs,
   Sgwrsio am waith. Nid oes gwaith, wrth gwrs!
   Torri eu henwau ddydd Llun, a dydd Gwener,
   Loetran o gwmpas Tŷ'r Crydd a'r Lôn Newydd,
   A gwybod na ddychwel fyth hen lawenydd.[6]
Tom Huws yn cael ei gadeirio. Cynan sydd ar y chwith eithaf

Ymysg ei gerddi, mae soned a gyfansoddodd ar gyfer canmlwyddiant Capel Brynrhos (MC), Y Groeslon, Capel Brynrhos (1880-1980).[7]

Yn genedlaetholwr pybyr, bu'n llafar yn erbyn ymweliad teulu brenhinol Lloegr i'r Eisteddfod y flwyddyn ar ôl iddo gael ei goroni.

Am fideo o Tom Huws yn cael ei goroni, cliciwch yma: [[ [1]]].

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Cyfrifiad Plwyf Llandwrog 1911
  2. Gwybodaeth oddi wrth Philip Lloyd
  3. Wicipedia, [2]; gwybodaeth bersonol gan ei ferch, Non Huws
  4. Ymddangosir yma gyda chaniatâd y teulu
  5. Gwybodaeth gan ei ferch Non Huws
  6. Cyfansoddiadau Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Caernarfon, 1959
  7. Archifdy Gwynedd, XM/6665/74