Tom Huws: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 4: | Llinell 4: | ||
Roedd Y Prifardd '''Tom Huws''' (1910-1992) yn frodor o'r [[Y Groeslon|Groeslon]]. | Roedd Y Prifardd '''Tom Huws''' (1910-1992) yn frodor o'r [[Y Groeslon|Groeslon]]. | ||
Wedi gwasanaeth milwrol yn ystod yr Ail Ryfel Byd, aeth i Gaerdydd i hyfforddi fel athro dan gynllun i hyfforddi'r athrawon ychwanegol oedd eu hangen wedi'r rhyfel. Bu'n athro mewn sawl ysgol, | Cafodd ei eni 25 Mai 1910. Wedi gwasanaeth milwrol yn ystod yr Ail Ryfel Byd, aeth i'r chwarel i weithio yn gyntaf, ac wedyn i fannau eraill cyn ymgeisio am le yng Ngholeg Harlch, "Coleg yr Ail Gyfle" er mwyn sichau addysg bellach, ac yr oedd yn un o'r ychydig a gafodd le yno. Wedi treulio tymor yno, aeth i Goleg Cyncoed, Gaerdydd i hyfforddi fel athro dan gynllun i hyfforddi'r athrawon ychwanegol oedd eu hangen wedi'r rhyfel. Bu'n athro mewn sawl ysgol, yr un gyntaf oedd Ysgol Gynradd Parc y Rhath yng Nghaerdydd,<ref>Gwybodaeth oddi wrth Philip Lloyd</ref> cyn symud i Ysgol Glan Clwyd (Y Rhyl, a Llanelwy wedyn) ym 1960 fel athro Cymraeg, gan symud i fyw gyda'r teulu i'r Rhyl. Ymddeolodd yn 65 oed ym 1971.<ref>Wicipedia, [https://cy.wikipedia.org/wiki/Tom_Huws]; gwybodaeth bersonol gan ei ferch, Non Huws</ref> Sawl flwyddyn wedi iddo ymddeol, cyfansoddodd yr englyn canlynol ar gyfer llyfr llofnodion a gynhyrchwyd gan Glan Clwyd: | ||
''' ''Hiraeth hen athro am Ysgol Glan Clwyd'' ''' | ''' ''Hiraeth hen athro am Ysgol Glan Clwyd'' ''' | ||
Llinell 15: | Llinell 15: | ||
Enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon, 1959 am bryddest ar y testun ''Cadwynau'' lle ymdrinodd â dirywiad y gymdeithas a'r cyni wedi i'r chwarel leol yn Nyffryn Nantlle gau: | Enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon, 1959 am bryddest ar y testun ''Cadwynau'' lle ymdrinodd â dirywiad y gymdeithas a'r cyni wedi i'r chwarel leol yn Nyffryn Nantlle gau. Mewn telegram yn ei longyfarch, geiriau'r Dr Iorwerth Peate oedd "O rebel i rebel".<ref>Gwybodaeth gan ei ferch Non Huws</ref> Mae'r llinellau canlynol yn cyfleu naws y gwaith arobryn: | ||
Rhynllyd gefnau ar y waliau boliog, | Rhynllyd gefnau ar y waliau boliog, |
Fersiwn yn ôl 11:03, 1 Rhagfyr 2020
Roedd Y Prifardd Tom Huws (1910-1992) yn frodor o'r Groeslon.
Cafodd ei eni 25 Mai 1910. Wedi gwasanaeth milwrol yn ystod yr Ail Ryfel Byd, aeth i'r chwarel i weithio yn gyntaf, ac wedyn i fannau eraill cyn ymgeisio am le yng Ngholeg Harlch, "Coleg yr Ail Gyfle" er mwyn sichau addysg bellach, ac yr oedd yn un o'r ychydig a gafodd le yno. Wedi treulio tymor yno, aeth i Goleg Cyncoed, Gaerdydd i hyfforddi fel athro dan gynllun i hyfforddi'r athrawon ychwanegol oedd eu hangen wedi'r rhyfel. Bu'n athro mewn sawl ysgol, yr un gyntaf oedd Ysgol Gynradd Parc y Rhath yng Nghaerdydd,[1] cyn symud i Ysgol Glan Clwyd (Y Rhyl, a Llanelwy wedyn) ym 1960 fel athro Cymraeg, gan symud i fyw gyda'r teulu i'r Rhyl. Ymddeolodd yn 65 oed ym 1971.[2] Sawl flwyddyn wedi iddo ymddeol, cyfansoddodd yr englyn canlynol ar gyfer llyfr llofnodion a gynhyrchwyd gan Glan Clwyd:
Hiraeth hen athro am Ysgol Glan Clwyd
- Pallodd nwyd a'r breuddwydion - ddoe a'i nef,
- ni ddaw nôl yr awron;
- Daw hiraeth, hiraeth am hon
- Alaeth, a chlwyf i'r galon.."[3]
- Pallodd nwyd a'r breuddwydion - ddoe a'i nef,
Enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon, 1959 am bryddest ar y testun Cadwynau lle ymdrinodd â dirywiad y gymdeithas a'r cyni wedi i'r chwarel leol yn Nyffryn Nantlle gau. Mewn telegram yn ei longyfarch, geiriau'r Dr Iorwerth Peate oedd "O rebel i rebel".[4] Mae'r llinellau canlynol yn cyfleu naws y gwaith arobryn:
Rhynllyd gefnau ar y waliau boliog, Stelcian, stilio a sgwrs, Sgwrsio am waith. Nid oes gwaith, wrth gwrs!
Torri eu henwau ddydd Llun, a dydd Gwener, Loetran o gwmpas Tŷ'r Crydd a'r Lôn Newydd, A gwybod na ddychwel fyth hen lawenydd.[5]
Ymysg ei gerddi, mae soned a gyfansoddodd ar gyfer canmlwyddiant Capel Brynrhos (MC), Y Groeslon, Capel Brynrhos (1880-1980).[6]
Yn genedlaetholwr pybyr, bu'n llafar yn erbyn ymweliad teulu brenhinol Lloegr i'r Eisteddfod y flwyddyn ar ôl iddo gael ei goroni.
Am fideo o Tom Huws yn cael ei goroni, cliciwch yma: [[ [1]]].
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma