Bodaden: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 5: Llinell 5:
Mae hen bennill am [[William Bifan y Gadlys]] (bardd gwerin lleol), sy’n nodi Bodaden;
Mae hen bennill am [[William Bifan y Gadlys]] (bardd gwerin lleol), sy’n nodi Bodaden;


“''William Bifan Druan
“''William Bifan Druan''


Sydd wedi colli’i facsan
''Sydd wedi colli’i facsan''


Yn chwilio amdano ers mwy nag awr
''Yn chwilio amdano ers mwy nag awr''


Yn nhalwrn mawr Bodadan''”.
''Yn nhalwrn mawr Bodadan''”.


Gan fod darn o dir Bodaden wedi ei enwi fel ‘''Talwrn''’ yn lleol, gallwn ddychmygu prysurdeb yno o gwmpas canol yr unfed ganrif ar bymtheg.
Gan fod darn o dir Bodaden wedi ei enwi fel ‘''Talwrn''’ yn lleol, gallwn ddychmygu prysurdeb yno o gwmpas canol yr unfed ganrif ar bymtheg.

Fersiwn yn ôl 12:56, 3 Rhagfyr 2017

Fferm hynafol yw Bodaden, ar y lon rhwng Ffrwd Cae Du a Rhostryfan.

Ceir cyfeiriad cynnar i’r lle hwn o gwmpas 1663, ond credir iddi ei adeiladu llawer cyn y dyddiad hwn. Ar fapiau ordnans diweddar, cawn yr enw ‘Plas Bodaden’, sy’n awgrymu fod y lle wedi bod yn blas ar un adeg, neu o leiaf wedi bod o bwrpas pwysig yn yr ardal.

Mae hen bennill am William Bifan y Gadlys (bardd gwerin lleol), sy’n nodi Bodaden;

William Bifan Druan

Sydd wedi colli’i facsan

Yn chwilio amdano ers mwy nag awr

Yn nhalwrn mawr Bodadan”.

Gan fod darn o dir Bodaden wedi ei enwi fel ‘Talwrn’ yn lleol, gallwn ddychmygu prysurdeb yno o gwmpas canol yr unfed ganrif ar bymtheg.

Ffynhonellau

Carr, Glenda Hen enwau o Arfon, Llyn ac Eifionydd (Gwasg y Bwthyn, 2011).

Williams, W. Gilbert Hen Gymeriadau Llanwnda, Cymru 1902 (Cyf. 23).