Bodaden: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Fferm hynafol yw'''Bodaden''', ar y lon rhwng Ffrwd Cae Du a [[Rhostryfan]].  
Fferm hynafol yw '''Bodaden''', ar y lon rhwng Ffrwd Cae Du a [[Rhostryfan]].  

Ceir cyfeiriad cynnar i’r lle hwn o gwmpas 1663, ond credir iddi ei adeiladu llawer cyn y dyddiad hwn. Ar fapiau ordnans diweddar, cawn yr enw ‘Plas Bodaden’, sy’n awgrymu fod y lle wedi bod yn blas ar un adeg, neu o leiaf wedi bod o bwrpas pwysig yn yr ardal.  

Fersiwn yn ôl 11:55, 3 Rhagfyr 2017

Fferm hynafol yw Bodaden, ar y lon rhwng Ffrwd Cae Du a Rhostryfan.

Ceir cyfeiriad cynnar i’r lle hwn o gwmpas 1663, ond credir iddi ei adeiladu llawer cyn y dyddiad hwn. Ar fapiau ordnans diweddar, cawn yr enw ‘Plas Bodaden’, sy’n awgrymu fod y lle wedi bod yn blas ar un adeg, neu o leiaf wedi bod o bwrpas pwysig yn yr ardal.

Mae hen bennill am William Bifan y Gadlys (bardd gwerin lleol), sy’n nodi Bodaden;

William Bifan Druan

Sydd wedi colli’i facsan

Yn chwilio amdano ers mwy nag awr

Yn nhalwrn mawr Bodadan”.

Gan fod darn o dir Bodaden wedi ei enwi fel ‘Talwrn’ yn lleol, gallwn ddychmygu prysurdeb yno o gwmpas canol yr unfed ganrif ar bymtheg.

Ffynhonellau

Carr, Glenda Hen enwau o Arfon, Llyn ac Eifionydd (Gwasg y Bwthyn, 2011).

Williams, W. Gilbert Hen Gymeriadau Llanwnda, Cymru 1902 (Cyf. 23).