Gorsaf reilffordd Pen-y-groes: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Cudyll (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
'''Gorsaf Pen-y-groes''' oedd y brif orsaf a'r unig gyffordd ar y rheilffordd rhwng Caernarfon ac Afon-wen, bron i ddwy filltir i'r de o [[Gorsaf reilffordd Y Groeslon|orsaf Y Groeslon]] a thair milltir a hanner cyn cyrraedd [[Gorsaf reilffordd Pant-glas|gorsaf Pant-glas]]. Fe'i hagorwyd ym 1867, a'i chau ym 1964. Roedd platfform ochr ar gyfer trenau [[Cangen reilffordd Nantlle]] a redai am ryw filltir go dda i'r dwyrain er mwyn cludo teithwyr i Dal-y-sarn a chludo llechi oddi yno. | '''Gorsaf Pen-y-groes''' oedd y brif orsaf a'r unig gyffordd ar y rheilffordd rhwng Caernarfon ac Afon-wen, bron i ddwy filltir i'r de o [[Gorsaf reilffordd Y Groeslon|orsaf Y Groeslon]] a thair milltir a hanner cyn cyrraedd [[Gorsaf reilffordd Pant-glas|gorsaf Pant-glas]]. Fe'i hagorwyd ym 1867, a'i chau ym 1964. Roedd platfform ochr ar gyfer trenau [[Cangen reilffordd Nantlle]] a redai am ryw filltir go dda i'r dwyrain er mwyn cludo teithwyr i Dal-y-sarn a chludo llechi oddi yno. | ||
Ni fu'r lein trwy'r orsaf yn brysur iawn, gyda hanner dwsin o drenau'r dydd i bod cyfeiriad ar y lein rhwng Caernarfon ac Afon-wen, a hanner dwsin yn ôl ac ymlaen ar hyd [[Cangen Nantlle]]. | |||
Roedd yma hefyd iard nwyddau sylweddol ar gyfer traffig nwyddau'r dyffryn. | Roedd yma hefyd iard nwyddau sylweddol ar gyfer traffig nwyddau'r dyffryn. |
Fersiwn yn ôl 12:36, 29 Tachwedd 2020
Gorsaf Pen-y-groes oedd y brif orsaf a'r unig gyffordd ar y rheilffordd rhwng Caernarfon ac Afon-wen, bron i ddwy filltir i'r de o orsaf Y Groeslon a thair milltir a hanner cyn cyrraedd gorsaf Pant-glas. Fe'i hagorwyd ym 1867, a'i chau ym 1964. Roedd platfform ochr ar gyfer trenau Cangen reilffordd Nantlle a redai am ryw filltir go dda i'r dwyrain er mwyn cludo teithwyr i Dal-y-sarn a chludo llechi oddi yno.
Ni fu'r lein trwy'r orsaf yn brysur iawn, gyda hanner dwsin o drenau'r dydd i bod cyfeiriad ar y lein rhwng Caernarfon ac Afon-wen, a hanner dwsin yn ôl ac ymlaen ar hyd Cangen Nantlle.
Roedd yma hefyd iard nwyddau sylweddol ar gyfer traffig nwyddau'r dyffryn.
Erys fawr ddim o olion amlwg y rheilffordd a'r orsaf erbyn heddiw oherwydd i ffordd osgoi Pen-y-groes gael ei chodi ar hyd llwybr yr hen lein. Roedd yr orsaf yn sefyll i'r de o'r bont droed newydd (a godwyd ar safle hen bont Ffordd Clynnog dros y rheilffordd).
Ffynonellau
LMS Branch Lines in North Wales, W.G.Rear, Wild Swan Publns., (1986), t.81.