Prosiect:Ffynonellau eraill: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) |
||
Llinell 47: | Llinell 47: | ||
''Papurau newydd Cymru:'' http://newspapers.library.wales/ | ''Papurau newydd Cymru:'' http://newspapers.library.wales/ | ||
==Mapiau Ordnans sy' | ==Mapiau Ordnans sy'n dangos Uwchgwyrfai== | ||
Mae Llyfrgell Genedlaethol yr Alban wedi bod yn gyfrifol am ddigideiddio mapiau Ordans (a llawer o rai eraill) ac maent i gyd ar gael ar y we. Mae'n hawdd dod o hyd i unrhyw fap trwy glicio ar fap o'r DG neu roi enw pentref yn y blwch chwilio. | Mae Llyfrgell Genedlaethol yr Alban wedi bod yn gyfrifol am ddigideiddio mapiau Ordans (a llawer o rai eraill) ac maent i gyd ar gael ar y we. Mae'n hawdd dod o hyd i unrhyw fap trwy glicio ar fap o'r DG neu roi enw pentref yn y blwch chwilio. | ||
Fersiwn yn ôl 20:12, 12 Tachwedd 2020
Os na chewch hyd i'r wybodaeth yr ydych am chwilio amdani, mae nifer o leoedd eraill ar y we allai fod o help.
Addoldai Cymru
Safle gan Gomisiwn henebion Cymru yn llawn o wybodaeth am gapeli ac anghydffurfiaeth.
http://www.addoldaicymru.org/welsh-chapels/
Archifdy Caernarfon
Mae llawer o gatalogau'r archifdy wedi eu digideiddio ac mae modd eu chwilio arlein. Yn aml, mae disgrifiad o ddogfen yn y catalog yn rhoi digon o wybodaeth i ateb cwestiwn - neu mae modd ymweld â'r archifdy i weld y cofnod drosoch chi'ch hunain.
https://diogel.gwynedd.llyw.cymru/DATRhagorol/default.aspx?iaith=cy
Casgliad y Werin
Mae Casgliad y Werin yn gasgliad digidol o luniau, dogfennau a delweddau o greiriau o bob math sydd yn dweud stori Cymru. Mae'n wefan sydd, mewn ffordd, yn debyg i Wicipedia neu i Gof y Cwmwd gan ei fod yn gwahodd cyfraniadau gan y cyhoedd. Oherwyddd hyn, efallai y ceir hyd i ddeunydd o'ch ardal, neu y gallwch chi gyfrannu pethau o'ch ardal.
https://www.casgliadywerin.cymru/
Cymdeithas y Tair Llan
Mae'r wefan hon yn cynnwys tipyn o wybodaeth am blwyfi Llandwrog a Llanwnda (ynghyd â Llanfaglan yn Isgwyrfai), ac mae rhestr dda iawn o ffynonellau pellach y gellir eu cyrraedd ar y we.
https://tairllan.wordpress.com/
Cymru Hanesyddol
Porth gwe a gynhelir gan Gomisiwn Henebion Cymru yn cynnwys llawer o fanylion a chyfeiriadau at safleoedd hanesyddol ar draws Cymru sydd gan y Comisiwn, Amgueddfa Cymru a CADW. Mae map yn cyfeirio'r defnyddiwr at fanylion yr holl safleoedd.
https://cbhc.gov.uk/darganfod/cymru-hanesyddol/
Gwefan Dyffryn Nantlle
Mae adran Hanes Lleol gwefan swyddogol Dyffryn Nantlle yn llawn hanesion am y dyffryn ei hun ac ambell i ardal gyfagos.
http://www.nantlle.com/hanes-lleol.htm
Gwefan Y Ffôr
Mae llawer iawn o wybodaeth am Ben Llŷn ar y wefan hon, ac er nad yw'n uniongyrchol berthnasol i Uwchgwyrfai, mae llawer o wybdaeth am ardaloedd ychydig dros ffin y cwmwd. Hefyd, mae trawsysgrifiad o Gyfrifiad plwyf Llanaelhaearn (sydd, wrth gwrs, yn yr hen Uwchgwyrfai) ar y wefan hon.
http://www.yffor.com/index.html
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Mae bron y cwbl o gatalogau'r llyfrgell (yn llyfrau ac yn ddogfennau) wedi eu mynegeio ac mae modd eu chwilio arlein. Hefyd yma cewch hyd i lawer o ffynonellau gwreiddiol wedi eu digideiddio, yn arbennig holl ewyllysiau'r cwmwd hyd 1857; papurau newydd Cymru hyd tua 1900, a llawer o gylchgronau Cymraeg a Chymreig.
Safle cyffredinol: https://www.llyfrgell.cymru/
Cylchgronau Cymru: https://cylchgronau.llyfrgell.cymru/
Ewyllysiau: https://www.llyfrgell.cymru/darganfod/adnoddau-llgc/ewyllysiau/
Papurau newydd Cymru: http://newspapers.library.wales/
Mapiau Ordnans sy'n dangos Uwchgwyrfai
Mae Llyfrgell Genedlaethol yr Alban wedi bod yn gyfrifol am ddigideiddio mapiau Ordans (a llawer o rai eraill) ac maent i gyd ar gael ar y we. Mae'n hawdd dod o hyd i unrhyw fap trwy glicio ar fap o'r DG neu roi enw pentref yn y blwch chwilio.
Wicipedia
Ffynhonell Gymraeg gwbl unigryw sy'n tyfu o hyd. Os ydych am ddysgu mwy am unrhyw bwnc, mae'n werth troi at y wefan hon. Ceir erthyglau yn ymwneud â phynciau sy'n gyslltiedig ag Uwchgwyrfai.