Botticelli Glynllifon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 9: | Llinell 9: | ||
Mae'n llun nodedig nid yn unig oherwydd ei grefft, ond hefyd ei brinder - nid oes ond deuddeg o bortreadau gan Botticelli'n hysbys. Nid oes sicrwydd ynglŷn â phwy oedd y dyn ifanc yn y portread, ond honnir gan rai mai Giovanni di Pierfrancesco de’ Medici, brawd Lorenzo de' Medici, un o noddwyr yr artist, oedd o. Nodwedd unigryw y llun yw'r cylchig neu darian gron sydd yn llaw'r dyn ifanc. Llun gwreiddiol gan artist cynharach, efallai Bartolommeo Bulgarini o Sienna,ydyw, wedi ei asio i'r panel a ddefnyddiwyd gan Botticelli i wneud ei bortread yntau.<ref>Gwefan ''Fine Art Conniosseur'' [https://fineartconnoisseur.com/2020/10/upcoming-auction-botticellis-young-man-holding-a-roundel/], cyrchwyd 28.10.2020</ref> | Mae'n llun nodedig nid yn unig oherwydd ei grefft, ond hefyd ei brinder - nid oes ond deuddeg o bortreadau gan Botticelli'n hysbys. Nid oes sicrwydd ynglŷn â phwy oedd y dyn ifanc yn y portread, ond honnir gan rai mai Giovanni di Pierfrancesco de’ Medici, brawd Lorenzo de' Medici, un o noddwyr yr artist, oedd o. Nodwedd unigryw y llun yw'r cylchig neu darian gron sydd yn llaw'r dyn ifanc. Llun gwreiddiol gan artist cynharach, efallai Bartolommeo Bulgarini o Sienna,ydyw, wedi ei asio i'r panel a ddefnyddiwyd gan Botticelli i wneud ei bortread yntau.<ref>Gwefan ''Fine Art Conniosseur'' [https://fineartconnoisseur.com/2020/10/upcoming-auction-botticellis-young-man-holding-a-roundel/], cyrchwyd 28.10.2020</ref> | ||
Prynwyd y llun mewn ocsiwn pan werthwyd llawer o gynnwys y Plas 23-27 Awst 1932, wedi i [[Frederick G. Wynn]],fab iau'r 3ydd Arglwydd farw. Y prynwr oedd un oedd yn delio mewn lluniau, ac mi wnaeth hwnnw ei werthu, mae'n debyg, i gasglwr preifat, Frank Sabin rhwng 1935 a 1938 am £12000. Gwerthwyd Sabin y llun i gasglwr arall, Sir Thomas Ralph Merton, am £17000. Gwerthodd hwnnw'r llun drachefn mewn ocsiwn ym 1982 am £810,000. Am flynyddoedd roedd y llun ar fenthyg i sefydliadau cyhoeddus, ac yn cael ei arddangos yn yr Oriel Genedlaethol yn Llundain, Amgueddfa Genedlaethol Gelf yn Efrog Newydd, yr Oriel Gelf Genedlaethol yn Washington (DC) ac Amgueddfa Städel yn Frankfurt, yr Almaen. Mae'r ddelwedd ei hun yn ddigon gyfarwydd, gyda phrintiau rhad ar gael yn rhwydd ar y we. | |||
Bydd yn cael ei werthu eto, yn ocsiwn Sotheby's yn Efrog Newydd fis Ionawr 2021, pan ddisgwylir iddo gael ei werthu eto, a hynny am $80 miliwn neu fwy. Gallai hyn olygu mai dyma fydd yr ail ddrutaf lun gan yr artistiaid a elwir yn "hen feistri" i gael ei werthu erioed, yn ail i lun gan Michaelangelo'n unig.<ref>Gwefan ''The Collector'' [https://www.thecollector.com/sandro-botticelli-young-man-holding-a-roundel-sothebys-auction/], cyrchwyd 28.10.2020</ref> | Bydd yn cael ei werthu eto, yn ocsiwn Sotheby's yn Efrog Newydd fis Ionawr 2021, pan ddisgwylir iddo gael ei werthu eto, a hynny am $80 miliwn neu fwy. Gallai hyn olygu mai dyma fydd yr ail ddrutaf lun gan yr artistiaid a elwir yn "hen feistri" i gael ei werthu erioed, yn ail i lun gan Michaelangelo'n unig.<ref>Gwefan ''The Collector'' [https://www.thecollector.com/sandro-botticelli-young-man-holding-a-roundel-sothebys-auction/], cyrchwyd 28.10.2020</ref> |
Fersiwn yn ôl 14:55, 29 Hydref 2020
Yr oedd un o weithiau mwyaf eiconig yr artist Eidalaidd Sandro Botticelli, Dyn Ifanc yn Dal Cylchig, yn eiddo i'r Arglwyddi Newborough am ganrif a mwy, yn hongian mewn ystafell ochr neu lobi ym Mhlas Glynllifon, a dichon nad oedd y teulu'n sylweddoli maint y trysor oedd ganddynt - trysor mwy gwerthfawr, debyg, na'r grochan lawn aur y dywedir i sefydlydd y teulu, Cilmin Droed-ddu, gael hyd iddi ar ochr mynydd. Mae'r portread yn dyddio o'r 1470-80au. Mae un o arbenigwyr Sotheby's wedi disgrifio ei bwysigrwydd yn hanes celf cain fel a ganlyn[1]:
“Mae Dyn Ifanc yn Dal Cylchig yn grynhoad mewn llun o ddelfrydau, hud a harddwch Fflorens adeg y Dadeni, adeg - am y tro cyntaf ers yr Oes Clasurol - pan oedd yr unigolyn a'r corff dynol yn ganolig i fywyd a chelf fel ei gilydd, ac yn ffactorau a fyddent yn nes ymlaen yn diffinio ein dealltwriaeth o ddyneiddiaeth fel yr ydym yn ei deall heddiw. Roedd Botticelli ar flaen y gad yn hyn o beth, ac roedd ei arddull chwyldroadol yn ei achosi i fod yn un o'r artistiaid cyntaf i ymadael â'r traddodiad o baentio pobl mewn silhouette. Ond eto, er ei fod yn ymgorffori Dadeni Fflorens, mae'r llun yn hollol fodern o ran ei symylrwydd diaddurn, ei liwiau llachar a'i linoledd graffig."
Mewn termau llai technegol, disgrifiad Catalog Sotheby oedd "the ultimate Renaissance portrait" ac yn uchafbwynt arwerthiant lluniau'r hen feistri yn Efrog Newydd yn Ionawr 2021.
Mae'n llun nodedig nid yn unig oherwydd ei grefft, ond hefyd ei brinder - nid oes ond deuddeg o bortreadau gan Botticelli'n hysbys. Nid oes sicrwydd ynglŷn â phwy oedd y dyn ifanc yn y portread, ond honnir gan rai mai Giovanni di Pierfrancesco de’ Medici, brawd Lorenzo de' Medici, un o noddwyr yr artist, oedd o. Nodwedd unigryw y llun yw'r cylchig neu darian gron sydd yn llaw'r dyn ifanc. Llun gwreiddiol gan artist cynharach, efallai Bartolommeo Bulgarini o Sienna,ydyw, wedi ei asio i'r panel a ddefnyddiwyd gan Botticelli i wneud ei bortread yntau.[2]
Prynwyd y llun mewn ocsiwn pan werthwyd llawer o gynnwys y Plas 23-27 Awst 1932, wedi i Frederick G. Wynn,fab iau'r 3ydd Arglwydd farw. Y prynwr oedd un oedd yn delio mewn lluniau, ac mi wnaeth hwnnw ei werthu, mae'n debyg, i gasglwr preifat, Frank Sabin rhwng 1935 a 1938 am £12000. Gwerthwyd Sabin y llun i gasglwr arall, Sir Thomas Ralph Merton, am £17000. Gwerthodd hwnnw'r llun drachefn mewn ocsiwn ym 1982 am £810,000. Am flynyddoedd roedd y llun ar fenthyg i sefydliadau cyhoeddus, ac yn cael ei arddangos yn yr Oriel Genedlaethol yn Llundain, Amgueddfa Genedlaethol Gelf yn Efrog Newydd, yr Oriel Gelf Genedlaethol yn Washington (DC) ac Amgueddfa Städel yn Frankfurt, yr Almaen. Mae'r ddelwedd ei hun yn ddigon gyfarwydd, gyda phrintiau rhad ar gael yn rhwydd ar y we.
Bydd yn cael ei werthu eto, yn ocsiwn Sotheby's yn Efrog Newydd fis Ionawr 2021, pan ddisgwylir iddo gael ei werthu eto, a hynny am $80 miliwn neu fwy. Gallai hyn olygu mai dyma fydd yr ail ddrutaf lun gan yr artistiaid a elwir yn "hen feistri" i gael ei werthu erioed, yn ail i lun gan Michaelangelo'n unig.[3]
Fe erys y cwestiwn, fodd bynnag, o sut y daeth llun gan un o arlunwyr cynnar yr Eidal i hongian yn ddisylw ar wal ym mhlas Glynllifon. Tybir gan yr arbenigwyr arlunio mai Syr Thomas Wynn, Arglwydd 1af Newborough ddaeth â'r llun adref gydag ef pan ddychwelodd o'i hunan-alltudiaeth yn yr Eidal lle ffôdd i osgoi ei gredydwyr gan ei fod mewn dyled. Yno fe briododd â Maria Stella Petronella Chiappini, hogan ifanc iawn poedd yn ferch i geidwad carchar yn Nhyscani, cyn ddychwelyd ym 1792 i'w ystadau yng Ngogledd Cymru. Hyd y gwyddys, fodd bynnag, nid oes prawf mai dyna sut y cyrhaeddodd y llun y Plas. Hefyd, bu tân difrifol ym Mhlas Glynllifon ym 1834, er ei bod hi'n bosibl bod y llun heb gael ei ddinistrio (a bwrw ei fod o yno erbyn hynny). Ymysg llythyrau Teulu Glynllifon[4], ceir nifer o lythyrau at y teulu yn cynnig gqerthu eitemau cain - roedd ambell i Eidalwr yn credu fod y "milord" oedd wedi bod yn byw yn eu mysg âdiddordeb mewn pethau Eidalaidd - ac wrth gwrs, roedd meibion Maria Stella, Thomas John Wynn, 2il Arglwydd Newborough, a fu farw ym 1832, a'i frawd iau, Spencer Bulkeley Wynn, 3ydd Arglwydd Newborough, â diddordeb yn eu tras Eidalaidd ac arian i brynu celf o'r wlad honno - wedi'r cwbl, onid oedd Spencer Bulkeley nid yn unig yn fab i Maria Stella, ond roedd Fanny de Winton, ei wraig, yn ferch i'w chwaer. Dichon, felly, oni ddaw tystiolaeth bendant i'r fei, y gallai'r llun wedi cyrraedd rywbryd yn ystod y 19g.