Gwynedd Rhun Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) |
||
Llinell 22: | Llinell 22: | ||
==Cyfeiriadau== | ==Cyfeiriadau== | ||
{{cyfeiriadau | {{cyfeiriadau}} | ||
[[Categori:Pobl]] | [[Categori:Pobl]] |
Fersiwn yn ôl 11:23, 11 Medi 2020
Ganwyd Gwynedd Rhun Jones (1924-2020) yn un o dri o blant ar aelwyd ddiwylliedig ym Mryn Teg, Llanllyfni. Bu yn ysgol y pentref ac yn Ysgol Dyffryn Nantlle. Oddi yno aeth i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, wedi ennill Ysgoloriaeth y Wladwriaeth. Er bod ganddo alluoedd ymhell y tu hwnt i bawb arall arhosodd yn eithriadol o swil ar hyd ei oes gan chwennych yr encilion. Meistrolai iaith ar ôl iaith heb yn wybod i eraill a dewisodd dreulio y rhan fwyaf o’i oes yn Llanllyfni gan fynd a dod i ffatri Pen-y-groes ar gefn ei fotor beic, ac wedi marw ei dad, Ellis Jones, aeth i fyw at ei chwaer Eurwen yn 84 Bryn Moryd, Y Fali.
Dyma deyrnged ei frawd Emyr iddo ddydd ei angladd yn Amlosgfa Bangor:[1]
"Treuliodd Gwynedd y rhan fwyaf o'i oes ym Mryn Teg, Llanllyfni, ac wedyn efo'i chwaer Eurwen yn y Fali, Ynys Môn.
Ei brif ddiddordeb oedd dysgu ieithoedd, ac 'roedd yn athrylith yn y maes hwn. Does neb yn gwybod yn iawn faint o ieithoedd a ddysgodd. Gwyddai yn sicr dros bedwar deg a phosib llawer mwy!
Medrai siarad pob iaith Ewropeaidd, ac Arabeg a Hebraeg, Siaradai Tagalog, iaith y Philipines gyda'i chwaer yng nghyfraith.
Pan oedd ar wyliau hefo ei chwaer Eurwen yn Awstria, aethant ar drip hefo criw i weld hen gastell yn y mynyddoedd. Ar un o'r waliau 'roedd plac mewn hen Almaeneg. Gofynnodd un o'r criw i'r tywysydd a fedrai ei gyfieithu iddynt. Ymddiheurodd na fedrai am fod yr ysgrifen dros wyth gant o flynyddoedd oed. Medrodd Gwynedd gyfieithu'r plac ar ei union.
Dro arall pan ar wyliau yn Jersey, roedd dau ddyn o Affrica yn gweinyddu wrth y bwrdd bwyd. Siaradent Swahili. Medrodd Gwynedd sgwrsio efo nhw yn yr iaith.
Dechreuodd ddysgu ieithoedd pan oedd yn wyth oed. Cafodd afael ar lyfr dysgu Lladin, a brynwyd gan ei dad oedd yn bwriadu dysgu Lladin ei hun, i allu darllen barddoniaeth Vergil yn y gwreiddiol.
'Roedd yn hoff iawn o'i Feibl, a chymharu'r gwahaniaeth rhwng ieithoedd eraill.
'Roedd yn ddarllenwr brwd iawn, ac oherwydd hynny 'roedd digonedd o lyfrau yn ein tŷ ni pan oeddem yn tyfu i fyny.
'Roedd hefyd yn hoffi beicio a mynd ar ei fotor beic. Gwyddai am bob man yn Sir Fôn."
Cyfeiriadau
- ↑ Cyhoeddwyd y deyrnged hon hefyd yn Lleu, Gorffennaf 2020