Y Brodyr Griffith, Tryfan Mawr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:


'''Mae'r erthygl isod wedi ei gyflwyno i Cof y Cwmwd fel darn o ymchwil gan xxx sydd am ddiogelu ei hawlfreintiau yn y darn'''. Mae hi felly wedi'i diogelu rhag olygiadau, ond os oes gan unrhyw ddefnyddiwr y wefan hon wybodaeth neu gywiriadau yr hoffai eu gweld yn cael eu hychwanegu at yr erthygl, dylid anfon at wiciuwchgwyrfai@talktalk.net.
'''Mae'r erthygl isod wedi ei chloi rhag cael ei newid, oherwydd iddi gael ei chyflwyno i Cof y Cwmwd fel erthygl orffenedig. Mae'r awdur am ddiogelu ei hawlfreintiau yn y darn'''. Mae hi felly wedi'i diogelu rhagg olygiadau, ond os oes gan unrhyw ddefnyddiwr y wefan hon wybodaeth neu gywiriadau yr hoffai eu gweld yn cael eu hychwanegu at yr erthygl, dylid anfon at wiciuwchgwyrfai@talktalk.net. Yn yr un modd, dylid cyfeirio ymholiadau ynglŷn â hawlfraint at yr un cyfeiriad. Nid yw hawliau dan Comins Creu CC-BY-NC yn ddilys.


'''Y BRODYR GRIFFITH'''
'''Y BRODYR GRIFFITH'''

Fersiwn yn ôl 11:00, 4 Awst 2020

Mae'r erthygl isod wedi ei chloi rhag cael ei newid, oherwydd iddi gael ei chyflwyno i Cof y Cwmwd fel erthygl orffenedig. Mae'r awdur am ddiogelu ei hawlfreintiau yn y darn. Mae hi felly wedi'i diogelu rhagg olygiadau, ond os oes gan unrhyw ddefnyddiwr y wefan hon wybodaeth neu gywiriadau yr hoffai eu gweld yn cael eu hychwanegu at yr erthygl, dylid anfon at wiciuwchgwyrfai@talktalk.net. Yn yr un modd, dylid cyfeirio ymholiadau ynglŷn â hawlfraint at yr un cyfeiriad. Nid yw hawliau dan Comins Creu CC-BY-NC yn ddilys.

Y BRODYR GRIFFITH

Ymunodd William Griffith o Rostryfan â’r Llynges Frenhinol ar ganol cyffro Rhyfeloedd Napoleon. Roedd William yn drydydd fab i John Griffith, Sgweier Tryfan Mawr ac Owen, ei frawd hynaf, fyddai’n etifeddu tiroedd yr ystâd a’r gwaith o’u rheoli. Fel ‘bonheddwr ifanc’ o deulu parchus, cynigiai gwasanaeth milwrol un proffesiwn posib iddo heblaw gyrfa yn y Gyfraith neu’r Eglwys.[1]

Bu John Griffith yn Siryf Sir Gaernarfon[2] ac yn ôl arferiad y cyfnod, byddai modd iddo gymeradwyo ei fab fel ‘Is-swyddog’ (midshipman) i wasanaethu ar un o longau rhyfel y llynges. Hawdd credu bod diddordeb y llanc yn y llynges wedi ei danio wrth weld llongau rhyfel yn gwarchod glannau Bae Caernarfon a’r Fenai. Ysgogodd y cyffro daeth yn sgil marwolaeth Nelson, ym Mrwydr Trafalgar 1805, i nifer o fonheddwyr ifanc ymuno â’r lluoedd arfog yn ystod y cyfnod.

Gwelodd y Rhyfeloedd Napoleon frwydro nid unig yn erbyn grym Ffrainc yn Ewrop ond hefyd yng Ngogledd America - ac yno gwelodd William Griffith gyfnod mwyaf arwyddocaol ei wasanaeth milwrol a phrofiadau newidiodd trywydd gweddill ei fywyd. Ym 1812 dechreuodd rhyfel arall, y tro hwn yn erbyn yr UDA, oedd yn gwrthwynebu'r gwaharddiad Prydeinig ar fasnachu gyda Ffrainc. Arweiniodd hyn at wrthdaro a barhaodd am ymron i dair blynedd, a’r ffin rhwng yr UDA a’r ‘Canadas’ (Uchaf ac Isaf) oedd un blaen y gad yn "Rhyfel 1812". Bu’r ymladd yn y rhyfel hwn yn bennaf ar y Llynnoedd Mawr a’u cyffiniau ac yno bwriodd William Griffith ei wasanaeth milwrol.

Gan fod angen llongau'r Llynges Frenhinol i amddiffyn Yr Ynysoedd Prydeinig rhag y bygythiad gan luoedd Ffrainc, roedd angen i’r fintai Brydeinig mynd ati i adeiladu llongau eu hunain ar lannau'r Llynnoedd i frwydro yn erbyn yr Americanwyr. Yn wir disgrifiwyd y gwrthdaro yn yr ardal fel '‘Brwydr y Seiri’' [3], gan iddo ddatblygu yn ras arfau adeiladu llongau i sicrhau buddugoliaeth. Arweinwyd William a’i gyd-forwyr gan Sir James Yeo wrth frwydro yn bennaf ar Lyn Ontario.

Fel Is-swyddog roedd dyletswyddau William Griffith yn cynnwys arwain ymgyrchoedd i’r tiroedd ger y Llynnoedd i gasglu cyflenwadau o fwyd a choed[4]. Yn y ffordd hon mae’n debyg y daeth i adnabod yr Americaniaid brodorol a dysgu eu hiaith – mae’n bosib mae iaith yr ‘Odawa’ oedd hynny, sef y tylwyth brodorol oedd yn byw i’r gogledd o Lyn Ontario ac yn masnachu gyda’r Prydeinwyr a thylwythau eraill yn yr ardal. (Mae enw’r afon Ottawa a’r brifddinas ar ei glannau yn seiliedig ar y gair ‘Odawa’ sydd yn golygu ‘y masnachwyr’).

Daeth heddwch i’r ardal yn Chwefror 1815 ond bu William yn gwasanaethu am ddwy flynedd arall gyda’i gofnod o wasanaeth yn dangos iddo dreulio amser ar Lyn Mawr arall, y Huron y tro hwn[5]. Gwasanaethodd am gyfnod ar y schooner arfog, HMS Surprise - eto fel ‘Is-swyddog’- o dan yr Is-gapten David Wingfield yn gwarchod y ffin a mapio’r ardal[6] Parhaodd ei gyfathrach gyda’r brodorion, a chymaint oedd ei barch atynt fel mae un adroddiad yn nodi yr estynnwyd cynnig iddo ymuno â thylwyth brodorol ond iddo wrthod y cynnig.[7] Roedd William felly yn benderfynol o ddychwelyd i Ganada ar ddiwedd ei wasanaeth llyngesol yn 1817 a daeth cyfle annisgwyl iddo wneud hynny.

Gyda’r heddwch a ddilynodd ryfelodd Napoleon rhoddwyd nifer o swyddogion y lluoedd Prydeinig ar ‘hanner cyflog’ a dyma fu profiad William Griffith. Yn wir gynifer oedd y cyn-ymladdwyr oedd yn derbyn taliadau comisiwn neu bensiwn, ymgeisiodd y Lywodraeth ar y pryd leihau'r byrdwn ar bwrs y wlad. Cynigwyd tir yn y trefedigaethau Prydeinig i’r rhai oedd yn dymuno ymfudo ar yr amod eu bod yn peidio â hawlio eu taliadau. Derbyniodd William gynnig o’r fath a derbyn llain o dir 400 erw yn Carleton County, ger yr afon Rideau yng Nghanada Uchaf[8]

Yn 1818 felly dychwelodd William Griffith dros Fôr y Werydd ond y tro hwn gyda’i frawd iau, deunaw oed, Hugh. Y flwyddyn flaenorol datganwyd eu tad John Griffith yn fethdalwr [9] – bu’r flynyddoedd wedi’r holl ryfeloedd yn rhai anodd i amaethyddiaeth a’r diwydiant gwlân sef prif ffynonellau incwm Ystâd Tryfan. Nid yw’n syndod felly gweld dau o feibion yr Ystâd yn troi eu golwg at ‘Fyd Newydd’ Gogledd America. Hwyliodd y ddau o Lerpwl ar fwrdd y llong '‘Monarch’' a glanio, wedi mordaith chwedeg a chwech o ddiwrnodau, ym mhorthladd Quebec ym mis Awst 1818.[10].

Nododd cyd-deithiwr iddynt ar y fordaith hir dros y cefnfor bod William yn ‘ddyn ifanc tal golygus’ a bod y ddau Gymro yn gwmni difyr a hoffus gan nodi eu ‘cysylltiadau teuluol parchus iawn’[11]. Ymsefydlodd y ddau ar ystâd o'r enw Bellevue Gloucester, a leolir rhwng yr afon Rideau a’r afon Ottawa ger Bytown (sef tref sylfaen y brif ddinas bresennol, Ottawa) yng Nghanada Uchaf (talaith Ontario heddiw).

Roedd bywyd yr ymsefydlwyr cyntaf hyn yn arbennig o anodd a nifer heb baratoi am heriau'r tywydd. Bu Gaeaf 1818 yn un arbennig o galed gyda hanes o rhai mewn pebyll ac yn dioddef canlyniadau'r oerfel[12] Mewn ychydig flynyddoedd roeddent wedi llwyddo trin cryn dipyn o'u tir ac roeddent mewn lleoliad digon cyfforddus gan ychwanegu tua 200 erw at eu tir yn 1821[13]. Er eu llwyddiant gorfododd iechyd gwael Hugh Griffith iddo ddychwelyd at ei wlad enedigol ym 1823.

Wedi adfer ei iechyd dychwelodd Hugh i ‘Ganada Uchaf’ ym 1825 ond gwelodd fod ei frawd wedi esgeuluso’r ystâd, ac wedi dilyn ei ‘warediad crwydrol’ trwy ddewis mynd ‘ymhlith y brodorion’. Mae dogfennau cyfreithiol yn nodi i William drosglwyddo tir i Hugh yn 1825 ac mae cadarnhad sicr felly o’i ddymuniad i fod yn rhydd o gyfrifoldeb i ddilyn ei awydd i fyw bywyd amgen.[14] Mae’r dogfennau wedi eu harwyddo yn nhref ‘Three Rivers’ (Trois-Riviers) ar lannau'r afon St Lawrence, a rhyw hanner ffordd rhwng Ottawa a Quebec.

Yn 1825 hefyd mae cofnod Cyfrifiad Canada Isaf o dref Trois-Riviers, o bosib, yn nodi bod William yn bennaeth yr aelwyd ac yn rhannu llety â merch sydd hefyd wedi ei nodi yn briod – ond mae’n anodd cadarnhau'r berthynas hynny o’r manylion sydd ar gael gan mai enw'r pen teulu a nodir yn unig ac nid oes cofnod neu adroddiad ar gael bod William wedi priodi[15]

Gwariodd William tua phum mlynedd ymhlith y brodorion yn ystod cyfnod anodd iawn yn eu hanes gyda’u harweinwyr yn gwerthu tir yn rhad i’r Llywodraeth i'w gynnig i ymsefydlwyr. Wedi Rhyfel 1812 datblygodd rôl yr Ymerodraeth Brydeinig mewn perthynas â’i ymwneud â phobl frodorol. Roedd asiantau llywodraethol yn annog brodorion i gefnu ar eu ffyrdd traddodiadol o fyw gan fabwysiadu ffyrdd mwy amaethyddol a ‘sefydlog’ o fyw. Bwriad y polisïau hyn oedd cymhathu'r brodorion fwyfwy â chymdeithas amaethyddol a Christnogol. Mae David Wingfield yn nodi yn ei ddyddiadur yr effaith negyddol mae’r newid yn eu ffordd o fyw yn cael ar y rhan fwyaf o’r brodorion[16]

Nid yw’r rheswm i William Griffith droi ei gefn ar ei fywyd brodorol yn hysbys ond erbyn 1829 roedd â’i fryd ar sefydlu fferi dros yr Afon St.Lawrence a hynny ger L’Islet, pentref i’r gogledd-ddwyrain o Quebec. Dechreuodd hefyd adeiladu peiriant o'i ddyfais ei hun ar gyfer adfer angorau ac eiddo coll o waelodion yr afon.

Mewn llythyr a ysgrifennodd Hugh at ei gyfaill William Reynolds, ym mis Mawrth 1831[17] mae‘n nodi ei benderfyniad i ymweld â’i famwlad unwaith eto ond hefyd yn datgelu ei reswm - unigedd. Mae’n datgan yn deimladwy iawn “Mae'n ymddangos i mi mor unig i fod ar fy mhen fy hun mewn gwlad ddieithr, am flynyddoedd lawer fel yr wyf i, mae eisiau ffrind y gallaf ymddiried ynddynt yn cynyddu yn ddyddiol ar fy meddwl”.

Yn y llythyr hwn hefyd mae’n amlygu ei fwriad i ddychwelyd i Ganada wedi ei ymweliad â’i gartref ond y tro nesaf gyda’i chwaer - os yw’n gallu sicrhau caniatâd eu rhieni. Nid yw’n nodi pa un o’i chwiorydd sydd wedi nodi ei pharodrwydd i fentro o Gymru ond mae’n nodi nad yw wedi derbyn llythyrau o gartref ers amser hir. Nid yw’n sôn o gwbl am ei frawd William, sydd yn awgrymu nad oedd wedi cadw mewn cysylltiad â’i frawd llawer ers 1825 - cyfraniad sicr arall at ei unigedd.

Arhosodd Hugh Griffith ar ei ystâd tan fis Mai 1831 pan oedd ar ei ffordd i Quebec er mwyn hwylio oddi yno i Gymru. Mae ei lythyr olaf o Quebec, ar Fehefin 28ain 1831, yn hysbysu ei ffrindiau ei fod wedi dod o hyd i’w frawd yno, a oedd newydd wella o salwch, ac wedi bod yn cael anawsterau gyda’i fenter oherwydd tywydd anffafriol. Penderfynodd Hugh ohirio ei ymweliad i Gymru ac aros i geisio cynorthwyo ei frawd i sefydlu ei fusnes ac ar ddiwedd y cyfnod hwnnw, dewisodd eto i ohirio ei daith gan aros am fis arall gyda William.

Cyn i'r mis hwnnw fynd heibio, llofruddiwyd y ddau frawd ar L‘Isle aux Grues - Goose Island (sef Ynys y Gwyddau) a nodwyd yn rhai adroddiadau o‘r digwyddiad erchyll hwn ond Ynys y Crëyr Llwyd yw’r cyfieithiad cywir o‘r Ffrangeg). Penderfynodd William gyflogi dau labrwr ac mae’n ymddangos o fewn cyfnod byr roedd y ddau wedi lladd y ddau frawd i geisio dwyn cist oedd yn disgwyl Hugh yn ei lety yn barod i ddychwelyd i Gymru. Roedd yn gist yn cynnwys swm sylweddol o aur, gwerth £70 yn 1831 - byddai 70 sofren aur gwerth dros £25,000 heddiw[18] .

Oherwydd yr anafiadau ciaidd i‘r brodyr bu llofruddiaethau ‘Ynys y Crëyr Llwyd‘ yn destun sawl adroddiad papur newydd yng Ngogledd America a Phrydain[19] Ni chafodd y llofruddion gafael ar gyfoeth Hugh a gweinyddwyd stad y ddau frawd gan yr awdurdodau.[20]. Er dyfal y chwilio am eu llofruddion nid oes cofnod iddynt gael eu dwyn o flaen eu gwell. Lladdwyd William yn 35 oed, a Hugh yn 31 oed – a hithau ar ganol Haf, claddwyd y ddau yn y goedwig ger glannau’r St Lawrence.

Danfonwyd neges yn hysbysu’r teulu o’r digwyddiad erchyll gan Zacheus Williams, Aubergiste (Lletywr) yn ninas Quebec, brodor o Sir Ddinbych, oedd yn adnabod William Griffith ers nifer o flynyddoedd.[21]. Derbyniwyd y newyddion drwg ar ran y teulu gan gefnder y brodyr, sef John Price, Plas Cadnant ger Porthaethwy, Sir Fôn oedd yn nai i Catherine Griffith, gwraig sgweier Tryfan Mawr.

Diwedd trist iawn i obeithion dau Gymro yn y ‘Byd Newydd’ ac ergyd creulon arall i’r teulu Griffith - bu farw dau aelod arall o’r teulu'r flwyddyn flaenorol, Elin merch John a Catherine yn 30 oed ac Ann, gwraig Owen Griffith, a hithau dim ond 31 oed[22]. Claddwyd John Griffith, sgweier Tryfan Mawr ar 30ain Rhagfyr 1831, ym mynwent Eglwys Twrog, Llandwrog, lai na chwe mis wedi marwolaeth ei feibion ieuengaf.

Er ei cholledion bu farw Catherine yn 93 oed ym 1851. Wedi iddo golli ei wraig ifanc, ni ail-briododd Owen gan farw yn ddietifedd‚ sgweier olaf Tryfan, ym 1865. Parhaodd ei chwaer ddi-briod, Ann,i fyw yn y Tryfan Mawr ond wedi iddi farw ym 97 oed yn 1891, gwerthwyd y Plas a’r tir oedd yn weddill yn fuan wedyn[23].

Ôl -nodyn : Ar Lyn Huron mae ynys o‘r enw ‘Griffith Island’ – fel aelod o griw un o‘r llongau cyntaf i fapio nodweddion y llyn, tybed mai ar ôl y Cymro o Sir Gaernarfon enwyd yr ynys hon?

Cyfeiriadau

  1. Samantha Cavell, A Social History of Midshipmen and Quarterdeck Boys in the Royal Navy, 1761-1831, traethawd Ph.D (Prifysgol Caerwysg, Chwefror 2010)
  2. The London Gazette, 11.02.1786
  3. Michael Hurley, Naval Battles on Lake Ontario : the battle of the carpenters … 2012)
  4. Nid oes cofnod wedi goroesi sydd yn nodi i William Griffith gael ei ddyrchafu yn Is-gapten er bod llyfrau yn ei feddiant yn awgrymu iddo astudio i geisio pasio arholiad Is- gapten.
  5. Muster Rolls, HMS Surprise a’r ‘Naval Establishment’ Lake Huron 1815- 1817.
  6. Ysgrifennodd Is-Gapten David Wingfield ddyddiadur yn ystod ei gyfnod yn yr ardal, sef Four Years on the Great Lakes 1813-1816 – er nad yw yn enwi ei Is-Swyddogion mae’n cyfeirio at eu ‘Mids’ (Midshipmen) ac oedd William Griffith yn un o’r criw.
  7. North Wales Chronicle and Advertiser for the Principality, 6.2.1831, t.3
  8. Quebec, Canada, Notarial Records, 1637-1935, Notarial Act Number:267
  9. Stamford Mercury, Notice of Bankruptcy, 4.4.1817
  10. Montreal Gazette and Quebec Mercury, Ship Arrivals in Quebec 1818
  11. Washington National Intelligence, 6.9.1831.
  12. The Ottawa Citizen, 28.4.1953: 110th Anniversary Edition
  13. Land Petitions Upper Canada 1763- 1865: Gloucester 1821, Plot 221
  14. Quebec, Canada, Notarial Records, 1637-1935: Notarial Act Number:269
  15. Cyfrifiad Lower Canada 1825, Trois Rivieres, Quebec, t.1567
  16. Four Years on the Great Lakes 1813-1816
  17. Amgueddfa ac Archifau Wellington County, A2004.175 Llythyr: At William Reynolds, Guelph,oddi wrth Hugh Griffith, Bellevue, Gloucester, 5.3.1831
  18. Yr Archifau Cenedlaethol: Currency converter: 1270–2017
  19. Quebec Mercury, 25.7.1831; The Old Countryman,(Efrog Newydd), 1.8.1831; The North Wales Chronicle and Advertiser for the Principality ,6.9.1831, t.3; Montreal Gazette, 1.10.1831.
  20. Le Canadien, 20.8.1831
  21. The North Wales Chronicle and Advertiser for the Principality, 6.9.1831, t.3
  22. North Wales Chronicle, 14.1.1830, t.3
  23. North Wales Observer and Express, 16.9.1892