Pennarth (trefgordd): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) B Symudodd Heulfryn y dudalen Pennarth i Pennarth (trefgordd) heb adael dolen ailgyfeirio |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Trefgordd a hen faenor gyn-hanesyddol oedd '''Pennarth''' (neu ''Penardd'') yn ardal [[Clynnog Fawr]]. | Trefgordd a hen faenor gyn-hanesyddol oedd '''Pennarth''' (neu ''Penardd'') yn ardal [[Clynnog Fawr]]. | ||
Mae llawer o gyfeiriadau at y lle hwn mewn hen ysgrifau Cymreig, megis ''Englynion y Beddau'' oddi mewn i ''Llyfr Du Caerfyrddin''. Credir i bendefig o'r enw Maeldaf Hen fyw yno o gwmpas y chweched ganrif, a bod cymeriadau eraill o'i gyfnod ef wedi eu claddu yno. Yr oedd afon yn rhedeg drwy'r safle yma hefyd, a rhedodd o ucheldir Clynnog, a gelwir hon ar un adeg yn [[Afon Rhydybeirion]] yn ôl rhai. | Mae llawer o gyfeiriadau at y lle hwn mewn hen ysgrifau Cymreig, megis ''Englynion y Beddau'' oddi mewn i ''Llyfr Du Caerfyrddin''. Credir i bendefig o'r enw Maeldaf Hen fyw yno o gwmpas y chweched ganrif, a bod cymeriadau eraill o'i gyfnod ef wedi eu claddu yno. Yr oedd afon yn rhedeg drwy'r safle yma hefyd, a rhedodd o ucheldir Clynnog, a gelwir hon ar un adeg yn [[Afon Rhydybeirion]] yn ôl rhai.<ref>W.R. Ambrose, ''Hynafiaethau, Cofiannau a Hanes Presennol Nant Nantlle'' (Penygroes, 1872).</ref> | ||
Fel yn achos nifer o drefgorddi'r Canol Oesoedd, mae'r enw wedi parhau fel enw un o brif ffermydd yr ardal hyd heddiw. | Fel yn achos nifer o drefgorddi'r Canol Oesoedd, mae'r enw wedi parhau fel enw un o brif ffermydd yr ardal hyd heddiw. | ||
==Disgrifiad o'r drefgordd yn y ''Record of Caernarvon''== | |||
Rhestrwyd y gwelyau, tenantiaid a'r rhenti neu'r nwyddau a gwasanaethau y disgwylid iddynt gyflwyno i'r Tywysog neu arglwydd y cwmwd mewn dogfen a luniwyd ym 1352 ac a elwir bellach yn ''Record of Carnarvon''. Mae copi o fersiwn brintiedig y ddogfen hon i'w chael yn Archifdy Caernarfon. Erbyn 1352, Brenin Lloegr (neu ei fab hynaf, Tywysog Cymru) oedd yn derbyn y rhenti a'r rhoddion hyn, ond roedd y ddaliadaeth o dir yn dal i gydymffurfio a'r hen drefn o "wely" a rannwyd rhwng perthnasau. | |||
Nodir yn y Cofnod dan sylw fod saith gwely yn Ninlle tua 1352: Gwely Wyrion Eignon; Gwely Wyrion Mourgene; Gwely Wyrion Randle; Gwely Wyrion Ostroth [neu Ystrwyth, mae'n debyg]; Gwely Wisgiaid; Gwely Hebbogothion; a Gwely Bowyred. Yr oedd yno hefyd bum melin: Melin Gafelog; Melin Meredydd; Melyn Edenyfed; Melin Heilyn; a Melin Madog.<ref>''Record of Carnarvon'', tt.22-4.</ref> | |||
===Cyfieithiad=== | |||
==Cyfeiriadau== | ==Cyfeiriadau== | ||
W.R. Ambrose, ''Hynafiaethau, Cofiannau a Hanes Presennol Nant Nantlle'' (Penygroes, 1872). | |||
[[Categori:Safleoedd nodedig]] | [[Categori:Safleoedd nodedig]] | ||
[[Categori:Daearyddiaeth ddynol]] | [[Categori:Daearyddiaeth ddynol]] | ||
[[Categori:Israniadau gwladol]] | [[Categori:Israniadau gwladol]] |
Fersiwn yn ôl 09:16, 16 Mehefin 2020
Trefgordd a hen faenor gyn-hanesyddol oedd Pennarth (neu Penardd) yn ardal Clynnog Fawr.
Mae llawer o gyfeiriadau at y lle hwn mewn hen ysgrifau Cymreig, megis Englynion y Beddau oddi mewn i Llyfr Du Caerfyrddin. Credir i bendefig o'r enw Maeldaf Hen fyw yno o gwmpas y chweched ganrif, a bod cymeriadau eraill o'i gyfnod ef wedi eu claddu yno. Yr oedd afon yn rhedeg drwy'r safle yma hefyd, a rhedodd o ucheldir Clynnog, a gelwir hon ar un adeg yn Afon Rhydybeirion yn ôl rhai.[1]
Fel yn achos nifer o drefgorddi'r Canol Oesoedd, mae'r enw wedi parhau fel enw un o brif ffermydd yr ardal hyd heddiw.
Disgrifiad o'r drefgordd yn y Record of Caernarvon
Rhestrwyd y gwelyau, tenantiaid a'r rhenti neu'r nwyddau a gwasanaethau y disgwylid iddynt gyflwyno i'r Tywysog neu arglwydd y cwmwd mewn dogfen a luniwyd ym 1352 ac a elwir bellach yn Record of Carnarvon. Mae copi o fersiwn brintiedig y ddogfen hon i'w chael yn Archifdy Caernarfon. Erbyn 1352, Brenin Lloegr (neu ei fab hynaf, Tywysog Cymru) oedd yn derbyn y rhenti a'r rhoddion hyn, ond roedd y ddaliadaeth o dir yn dal i gydymffurfio a'r hen drefn o "wely" a rannwyd rhwng perthnasau.
Nodir yn y Cofnod dan sylw fod saith gwely yn Ninlle tua 1352: Gwely Wyrion Eignon; Gwely Wyrion Mourgene; Gwely Wyrion Randle; Gwely Wyrion Ostroth [neu Ystrwyth, mae'n debyg]; Gwely Wisgiaid; Gwely Hebbogothion; a Gwely Bowyred. Yr oedd yno hefyd bum melin: Melin Gafelog; Melin Meredydd; Melyn Edenyfed; Melin Heilyn; a Melin Madog.[2]
Cyfieithiad
Cyfeiriadau
W.R. Ambrose, Hynafiaethau, Cofiannau a Hanes Presennol Nant Nantlle (Penygroes, 1872).