Cymdeithas Caredigion Rhostryfan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Ni wyddys fawr am '''Gymdeithas Caredigion Rhostryfan''' ar wahân i'r ffaith mai cymdeithas gyfeillgar o ryw fath oedd yn [[Rhostryfan]] a sefydlwyd i helpu'r anghenus. Ysgrifennydd olaf y gymdeithas oedd Ellis Jones, Glan'rafon, Rhostryfan, garddwr ac wedyn chwarelwr, ac ysgrifennydd [[Capel Horeb (MC), Rhostryfan]], dyn a nodweddid gan ei ysgrifen gain a'i drefnusrwydd. | Ni wyddys fawr am '''Gymdeithas Caredigion Rhostryfan''' ar wahân i'r ffaith mai cymdeithas gyfeillgar o ryw fath oedd yn [[Rhostryfan]] a sefydlwyd i helpu'r anghenus. Ysgrifennydd olaf y gymdeithas oedd Ellis Jones, Glan'rafon, Rhostryfan, garddwr ac wedyn chwarelwr, ac ysgrifennydd [[Capel Horeb (MC), Rhostryfan]], dyn a nodweddid gan ei ysgrifen gain a'i drefnusrwydd. | ||
Daeth y gymdeithas hon i ben ym 1842, ond y flwyddyn ganlynol, sefydlwyd '''Cymdeithas Gynorthwyol Uwchgwyrfai''' yn Rhostryfan yn ei lle ym 1843. Ar farwolaeth Ellis Jones ym 1857 fe'i olynwyd gan William Hughes, Y Siop, (1814-1877) blaenor yn Horeb ar ôl 1860. <ref>W. Hobley, ''Hanes Methodistiaeth Arfon'', Cyf.I, Dosbarth Clynnog (Caernarfon, 1910), tt.226-7, 231</ref> Erbyn 1895, John Roberts, Fronhyfryd, Rhostryfan oedd yr ysgrifennydd, a chynhelid cinio blynyddol yng Nghaernarfon ar ddydd Llun y Sulgwyn.<ref>''Y Genedl Gymreig'', 26 Mawrth 1895, t.4</ref> | Daeth y gymdeithas hon i ben ym 1842, ond y flwyddyn ganlynol, sefydlwyd '''Cymdeithas Gynorthwyol Uwchgwyrfai''' yn Rhostryfan yn ei lle ym 1843. Ar farwolaeth Ellis Jones ym 1857 fe'i olynwyd gan William Hughes, Y Siop, (1814-1877) blaenor yn Horeb ar ôl 1860. <ref>W. Hobley, ''Hanes Methodistiaeth Arfon'', Cyf.I, Dosbarth Clynnog (Caernarfon, 1910), tt.226-7, 231</ref> Erbyn 1895, John Roberts, Fronhyfryd, Rhostryfan oedd yr ysgrifennydd, a chynhelid cinio blynyddol yng Nghaernarfon ar ddydd Llun y Sulgwyn.<ref>''Y Genedl Gymreig'', 26 Mawrth 1895, t.4</ref> Yn ôl atgofion Owen Ll. Williams (Wells, Vermont), fe'i elwid hefyd weithiau'n "Glwb Capel Wesla": dyma beth sydd ganddo i'w ddweud: | ||
Yr oedd y pryd hwn glwb cleifion neu Glwb Capel Wesla, ond ei enw swyddogol oedd Cymdeithas Gynorthwyol Uwchgwyrfai, cymdeithas er cynorthwyo yr aelodau pan mewn gwaeledd neu wedi cyfarfod â damwain. Telid swm yn fisol gan yr aelodau i drysorfa arbennig o ba un pan mewn gwaeledd neu ddamwain nas gallai i rywun ddilyn ei alwedigaeth ceid swm wythnosol o'r drysorfa, yr hyn a ddosberthid yn fisol gan bwyllgor wedi ei benodl i'r pwrpas. Ar ddydd Llun y Sulgwyn byddai yr holl aelodau yn cyfarfod yng nghapel [[Capel Bethel (W), Rhos Isaf|Bethel, Rhos Isaf]] ac yn trafod materion a fyddai o fudd i'r gymdeithas eu trafod a derbyn adroddiad y gwahanol swyddogion am y flwyddyn, gorymdeithid i rywle i gael cinio gyda seindorf o [[Pen-y-groes|Ben-y-groes]] neu [[Tal-y-sarn|Dal-y-sarn]] ar y blaen. I Gaernarfon y bum i yn mynd gyda hwy a chael cinio yno mewn rhyw ystafell oedd ddigon mawr i eistedd dau neu dri chant ar unwaith.<ref> Owen Ll. Williams, ''Atgofion am Rhos Isaf'', llawysgrif mewn dwylo preifat; atgynhyrchir yr ysgrif yng Ngof y Cwmwd.</ref> | |||
{{eginyn}} | {{eginyn}} |
Fersiwn yn ôl 09:11, 3 Mehefin 2020
Ni wyddys fawr am Gymdeithas Caredigion Rhostryfan ar wahân i'r ffaith mai cymdeithas gyfeillgar o ryw fath oedd yn Rhostryfan a sefydlwyd i helpu'r anghenus. Ysgrifennydd olaf y gymdeithas oedd Ellis Jones, Glan'rafon, Rhostryfan, garddwr ac wedyn chwarelwr, ac ysgrifennydd Capel Horeb (MC), Rhostryfan, dyn a nodweddid gan ei ysgrifen gain a'i drefnusrwydd.
Daeth y gymdeithas hon i ben ym 1842, ond y flwyddyn ganlynol, sefydlwyd Cymdeithas Gynorthwyol Uwchgwyrfai yn Rhostryfan yn ei lle ym 1843. Ar farwolaeth Ellis Jones ym 1857 fe'i olynwyd gan William Hughes, Y Siop, (1814-1877) blaenor yn Horeb ar ôl 1860. [1] Erbyn 1895, John Roberts, Fronhyfryd, Rhostryfan oedd yr ysgrifennydd, a chynhelid cinio blynyddol yng Nghaernarfon ar ddydd Llun y Sulgwyn.[2] Yn ôl atgofion Owen Ll. Williams (Wells, Vermont), fe'i elwid hefyd weithiau'n "Glwb Capel Wesla": dyma beth sydd ganddo i'w ddweud:
Yr oedd y pryd hwn glwb cleifion neu Glwb Capel Wesla, ond ei enw swyddogol oedd Cymdeithas Gynorthwyol Uwchgwyrfai, cymdeithas er cynorthwyo yr aelodau pan mewn gwaeledd neu wedi cyfarfod â damwain. Telid swm yn fisol gan yr aelodau i drysorfa arbennig o ba un pan mewn gwaeledd neu ddamwain nas gallai i rywun ddilyn ei alwedigaeth ceid swm wythnosol o'r drysorfa, yr hyn a ddosberthid yn fisol gan bwyllgor wedi ei benodl i'r pwrpas. Ar ddydd Llun y Sulgwyn byddai yr holl aelodau yn cyfarfod yng nghapel Bethel, Rhos Isaf ac yn trafod materion a fyddai o fudd i'r gymdeithas eu trafod a derbyn adroddiad y gwahanol swyddogion am y flwyddyn, gorymdeithid i rywle i gael cinio gyda seindorf o Ben-y-groes neu Dal-y-sarn ar y blaen. I Gaernarfon y bum i yn mynd gyda hwy a chael cinio yno mewn rhyw ystafell oedd ddigon mawr i eistedd dau neu dri chant ar unwaith.[3]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma