Stent Uwchgwyrfai 1352: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Mae '''Stent Uwchgwyrfai''' sy'n dyddio o 1352 yn rhan o stet am holl diroedd siroedd Caernarfon a Môn. Dogfen ydyw sy'n cofnodi holl dollau, trethi a dy...'
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Mae '''Stent Uwchgwyrfai''' sy'n dyddio o 1352 yn rhan o stet am holl diroedd siroedd Caernarfon a Môn. Dogfen ydyw sy'n cofnodi holl dollau, trethi a dyletswyddau yr oedd yn ofynnol i ddeiliaid y tir gyflwyno i'r arglwydd, sef (erbyn 1352), goron Lloegr neu (a bwrw bod tywysog Cymru'n bod) i'r dywysog Seisnig hwnnw fel rhan o diroedd [[Tywysogaeth Gogledd Cymru]]. Mewn gwirionedd, math o "Lyfr Domesday" yw'r stent, ac mae'n ffynhonell hynod o bwysig (ond nad y bwysicaf un) ar gyfer deall cymdeithas [[Uwchgywrfai]] yn ystod y 14g.  
Mae '''Stent Uwchgwyrfai''' sy'n dyddio o 1352 yn rhan o stent am holl diroedd siroedd Caernarfon a Môn.  


Y dull o gasglu gwybodaeth oedd trwy gynnal sesiynau o flaen John de Delves, dirprwy Iarll Arundel, lle holwyd holl denantiaid caeth a rhydd
==Y ddogfen wreiddiol==
 
Dogfen ydyw sy'n cofnodi holl dollau, trethi a dyletswyddau yr oedd yn ofynnol i ddeiliaid y tir gyflwyno i'r arglwydd, sef (erbyn 1352), goron Lloegr neu (a bwrw bod tywysog Cymru'n bod) i'r dywysog Seisnig hwnnw fel rhan o diroedd [[Tywysogaeth Gogledd Cymru]]. Mewn gwirionedd, math o "Lyfr Domesday" yw'r stent, ac mae'n ffynhonell hynod o bwysig (ond nad y bwysicaf un) ar gyfer deall cymdeithas [[Uwchgywrfai]] yn ystod y 14g.
 
Y dull o gasglu gwybodaeth oedd trwy gynnal sesiynau o flaen John de Delves, dirprwy Iarll Arundel (ustus y tywysog yng Ngogledd Cymru), lle holwyd holl denantiaid caeth a rhydd. Cofnodwyd yr holl ganfyddiadau gan glerc neu glercod, ac wedyn fe'i archwiliwyd gan reithgor o ddeuddeg o ddynion rhydd y cwmwd. Diddorol yw nodi fod enwau'r rheithwyr yn dangos eu bod oll ag enwau Cymraeg.
 
Cofnodwyd yr wybodaeth mewn Lladin, ac fe adysgrifiwyd y ddogfen gan Syr John Ellis, Prif Lyfrgellydd yr Amgueddfa Brydeinig, a'i chyhoeddi gan Gomisynwyr y Cofnodion Cyhoeddus ym 1838, mewn llyfr o'r enw ''The [[Record of Caernarvon'']]<ref>''Registrum Vulgariter Nuncupatum "The Record of Caernarvon" ê Codice Ms. Harleiano 696.'' (Llundain, 1838)</ref>. Er bod rhan y stent ar gyfer Môn wedi ei gyfieithu (ac mae'r cyfieithiad hwnnw'n werthfawr iawn oherwydd y rhagair a'r troednodiadau i ni yn Uwchgwyrfai hefyd)<ref>A.D. Carr, "The Extent of Anglesey, 1352" ''(Trafodion Cymdeithas Hynafiaeithwyr Môn''), (1971-2) tt.150-272</ref>, ni wnaed erioed gyfieiethiad o stent Sir Gaernarfon. Prosiect gan '''Gof y Cwmwd''' yw cyhoeddi cyfieithiad rhydd o'r testun o dipyn i beth ar lein yn yr erthygl hon.

Fersiwn yn ôl 09:38, 27 Mai 2020

Mae Stent Uwchgwyrfai sy'n dyddio o 1352 yn rhan o stent am holl diroedd siroedd Caernarfon a Môn.

Y ddogfen wreiddiol

Dogfen ydyw sy'n cofnodi holl dollau, trethi a dyletswyddau yr oedd yn ofynnol i ddeiliaid y tir gyflwyno i'r arglwydd, sef (erbyn 1352), goron Lloegr neu (a bwrw bod tywysog Cymru'n bod) i'r dywysog Seisnig hwnnw fel rhan o diroedd Tywysogaeth Gogledd Cymru. Mewn gwirionedd, math o "Lyfr Domesday" yw'r stent, ac mae'n ffynhonell hynod o bwysig (ond nad y bwysicaf un) ar gyfer deall cymdeithas Uwchgywrfai yn ystod y 14g.

Y dull o gasglu gwybodaeth oedd trwy gynnal sesiynau o flaen John de Delves, dirprwy Iarll Arundel (ustus y tywysog yng Ngogledd Cymru), lle holwyd holl denantiaid caeth a rhydd. Cofnodwyd yr holl ganfyddiadau gan glerc neu glercod, ac wedyn fe'i archwiliwyd gan reithgor o ddeuddeg o ddynion rhydd y cwmwd. Diddorol yw nodi fod enwau'r rheithwyr yn dangos eu bod oll ag enwau Cymraeg.

Cofnodwyd yr wybodaeth mewn Lladin, ac fe adysgrifiwyd y ddogfen gan Syr John Ellis, Prif Lyfrgellydd yr Amgueddfa Brydeinig, a'i chyhoeddi gan Gomisynwyr y Cofnodion Cyhoeddus ym 1838, mewn llyfr o'r enw The Record of Caernarvon''[1]. Er bod rhan y stent ar gyfer Môn wedi ei gyfieithu (ac mae'r cyfieithiad hwnnw'n werthfawr iawn oherwydd y rhagair a'r troednodiadau i ni yn Uwchgwyrfai hefyd)[2], ni wnaed erioed gyfieiethiad o stent Sir Gaernarfon. Prosiect gan Gof y Cwmwd yw cyhoeddi cyfieithiad rhydd o'r testun o dipyn i beth ar lein yn yr erthygl hon.

  1. Registrum Vulgariter Nuncupatum "The Record of Caernarvon" ê Codice Ms. Harleiano 696. (Llundain, 1838)
  2. A.D. Carr, "The Extent of Anglesey, 1352" (Trafodion Cymdeithas Hynafiaeithwyr Môn), (1971-2) tt.150-272