Hendref (Llanaelhaearn): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) B Symudodd Heulfryn y dudalen Hendre (Llanaelhaearn) i Hendref (Llanaelhaearn) |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 12:32, 19 Mai 2020
Hendref, neu Yr Hendref yw hen enw ardal isaf plwyf Llanaelhaearn, lle ceir pentref Trefor heddiw. Ni sefydlwyd y pentref tan yr 1850au, a chyn hynny, casgliad o ffermydd a thyddynnod oedd yn yr ardal. Mae ambell un hyd heddiw yn cyfeirio at yr ardal fel "'Rhendre". Hendre ei hun yn golygu fferm yr aeaf, lle cedwid y stoc dros y gaeaf. Yn yr haf, byddid yn gyrru'r anifeiliaid i dir uwch i bori tra thyfid cnydau a gwair ar y tir isel gorau yn yr hendre. Gellir gweld mor addas yw ardal Trefor fel man i sefydlu hendre oherwydd mae'r rhan fwyaf o blwyf Llanaelhaearn yn fwy mynyddig a/neu gorsiog.