William Evans (Eos Eifion): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Geraint (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Cerddor a bardd amlwg oedd '''William Evans (Eos Eifion)''' (1843-1903), oedd yn arwain [[Seindorf Dulyn]] (Seindorf Nebo), ac am gyfnod [[Seindorf Llyfnwy]] (Llanllyfni). I'w gydnabod, adnabyddid ef fel Wil Ifan y Wig. Dywedid ei fod yn ''chwarelwr, canwr a cherddor medrus''.  
Cerddor a bardd amlwg oedd '''William Evans (Eos Eifion)''' (1843-1903), oedd yn arwain [[Seindorf Dulyn]] (Seindorf Nebo), ac am gyfnod [[Seindorf Llyfnwy]] (Llanllyfni). I'w gydnabod, adnabyddid ef fel Wil Ifan y Wig. Dywedid ei fod yn ''chwarelwr, canwr a cherddor medrus''.  


Yn ôl y bardd a'r casglwr hynod o Langybi yn Eifionydd roedd yr Eos hefyd yn ''fardd lled hysbys''. Pan fu farw'r gantores boblogaidd honno, Mair Alaw, mam y dihafal [[Y Brodyr Francis|Frodyr Francis]] o [[Dyffryn Nantlle|Ddyffryn Nantlle]], ym 1881, cyfansoddodd Eos Eifion ddau englyn er cof amdani :
Yn ôl Cybi, y bardd a'r casglwr hynod o Langybi yn Eifionydd, roedd yr Eos hefyd yn ''fardd lled hysbys''. Pan fu farw'r gantores boblogaidd honno, Mair Alaw, mam y dihafal [[Y Brodyr Francis|Frodyr Francis]] o [[Dyffryn Nantlle|Ddyffryn Nantlle]], ym 1881, cyfansoddodd Eos Eifion ddau englyn er cof amdani :


''Lle gwelir drylliog wylaw - yw Arfon;''
''Lle gwelir drylliog wylaw - yw Arfon;''

Fersiwn yn ôl 21:58, 18 Mai 2020

Cerddor a bardd amlwg oedd William Evans (Eos Eifion) (1843-1903), oedd yn arwain Seindorf Dulyn (Seindorf Nebo), ac am gyfnod Seindorf Llyfnwy (Llanllyfni). I'w gydnabod, adnabyddid ef fel Wil Ifan y Wig. Dywedid ei fod yn chwarelwr, canwr a cherddor medrus.

Yn ôl Cybi, y bardd a'r casglwr hynod o Langybi yn Eifionydd, roedd yr Eos hefyd yn fardd lled hysbys. Pan fu farw'r gantores boblogaidd honno, Mair Alaw, mam y dihafal Frodyr Francis o Ddyffryn Nantlle, ym 1881, cyfansoddodd Eos Eifion ddau englyn er cof amdani :

Lle gwelir drylliog wylaw - yw Arfon;

Ni dderfydd y cwynaw;

Adwyth i'n bron, daeth ein braw

Ym marwolaeth Mair Alaw.


Cur a ddyry, cerddoriaeth - bob un fu'n

Bennaf oll drwy'r dalaeth!

Cadd ergyd drom, siom a saeth,

Mair Alaw mewn marwolaeth.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Geraint Jones, Cyrn y Diafol, (2004) tt.81, 183