Cyfrinfa Freiniol Reifl: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
Llinell 1: Llinell 1:
{| style="border:8px solid grey;background:LightCoral;padding:5px;width:1000px"
|<big>'''DYMA'R 1000fed ERTHYGL I'W HYCHWANEGU AT ''COF Y CWMWD'' '''</big>
|-
|}
Cymdeithas wirfoddol oedd '''Cyfrinfa Freiniol Reifl''' a sefydlwyd yn rhyw fath o glwb yswiriant iechyd gan chwarelwyr [[Chwarel yr Eifl]], [[Trefor]]. Yn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg a chwarter cynta'r ugeinfed ganrif bu bri mawr ar gymdeithasau o'r fath, yn arbennig yn yr ardaloedd diwydiannol. Fe'u gelwid ar lafar, fel rheol, yn ''Glybiau Cleifion'', a byddent yn cynorthwyo, yn ariannol yn bennaf, y gweithiwr a'i deulu oedd mewn angen oherwydd salwch neu ddamwain. Byddai pob un o'r chwarelwyr yn talu ''sub'' wythnosol o'u cyflog i gynnal y gronfa ganolog.

Golygiad diweddaraf yn ôl 09:46, 30 Ebrill 2020

DYMA'R 1000fed ERTHYGL I'W HYCHWANEGU AT COF Y CWMWD

Cymdeithas wirfoddol oedd Cyfrinfa Freiniol Reifl a sefydlwyd yn rhyw fath o glwb yswiriant iechyd gan chwarelwyr Chwarel yr Eifl, Trefor. Yn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg a chwarter cynta'r ugeinfed ganrif bu bri mawr ar gymdeithasau o'r fath, yn arbennig yn yr ardaloedd diwydiannol. Fe'u gelwid ar lafar, fel rheol, yn Glybiau Cleifion, a byddent yn cynorthwyo, yn ariannol yn bennaf, y gweithiwr a'i deulu oedd mewn angen oherwydd salwch neu ddamwain. Byddai pob un o'r chwarelwyr yn talu sub wythnosol o'u cyflog i gynnal y gronfa ganolog.

Arferai'r Cymdeithasau Cyfeillgar hyn gyfarfod yn ôl yr angen, ond roedd i bob un ohonynt ei diwrnod blynyddol, dydd gŵyl yn ddieithriad - Y Nadolig, Gŵyl San Steffan, Dydd Llun y Pasg, Dydd Llun y Sulgwyn neu Ddifiau Dyrchafael. Dyna pryd y byddai'n cynnal ei Chyfarfod Blynyddol, ei Chinio Blynyddol a'i Gorymdaith Flynyddol, ei haelodau'n llogi band pres ar gyfer yr achlysur ac yn martsio'n dalog yn eu sashes a'u hetiau caled.

Bu nifer o gymdeithasau fel hyn yn Nhrefor ar wahanol gyfnodau. Roedd cangen gref o'r Odyddion (Oddfellows) yma yn y 1870au a'r 1880au. Yn Ebrill 1880 bu Etholiad Seneddol ffyrnig iawn rhwng y Tori, Douglas Pennant, a'r Rhyddfrydwr, Watkin Williams. Doedd gan Pennant fawr ddim cefnogaeth ymysg chwarelwyr yr Eifl a mawr oedd eu trwst o blaid Williams. Y Rhyddfrydwr gariodd y dydd, a thrannoeth y fuddugoliaeth aeth Watkin Williams ar daith drwy ei etholaeth i ddiolch i'w gefnogwyr. Yn ôl yr Herald Cymraeg roedd torf o 1,200 yn ei groesawu yn Nhrefor. Ac fel y gallesid disgwyl, roedd yr Odyddion a'r band yno:

Daeth cyfrinfa leol yr Odyddion allan gyda seindorf, yn cael eu blaenori gan fwch gafr, a phob dyn yn urddwisgoedd ei gyfrinfa, i gyfarfod yr ymgeisydd anrhydeddus, a llusgwyd ei gerbyd dros filltir o ffordd.

Pa bryd y sefydlwyd Cyfrinfa Freiniol Reifl, does wybod. Yr unig Adroddiad Blynyddol sydd ar gael, hyd y gwyddys, yw honno am y flwyddyn 1892. Morris Jones, Bodathan, oedd yr Ysgrifennydd bryd hynny.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau