John Hughes (Idanfryn): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 3: Llinell 3:
Roedd Idanfryn yn fardd a gafodd gryn sylw yn ystod ei oes ac mae ei waith ar gael yn y Llyfrgell Genedlaethol.<ref>Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Llsg.NLW MS 8469A - Gwaith John Hughes ('Idanfryn')</ref> Arferai gyfansoddi cerddi moeswersol a ymddangosodd weithiau yn ''Trysorfa y Plant'' yn yr 1860au, ac ambell i emyn, yn ogystal â chyflwyno ysgrifau i gyfnodolion amrywiol.
Roedd Idanfryn yn fardd a gafodd gryn sylw yn ystod ei oes ac mae ei waith ar gael yn y Llyfrgell Genedlaethol.<ref>Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Llsg.NLW MS 8469A - Gwaith John Hughes ('Idanfryn')</ref> Arferai gyfansoddi cerddi moeswersol a ymddangosodd weithiau yn ''Trysorfa y Plant'' yn yr 1860au, ac ambell i emyn, yn ogystal â chyflwyno ysgrifau i gyfnodolion amrywiol.


Bu farw 1876, gan adael ei weddw, pedwar mab a dwy ferch.Yn eu mysg oedd Gwilym Hughes (Ap Idanfryn), newyddiadurwr amlwg ac ysgrifennydd y "Welsh National Memorial Association".<ref>Gwefan Rainbow Dragon, [http://www.rainbowdragon.org/2016/11/16/the-strange-world-of-dr-price/], cyrchwyd 23.4.2020</ref>
Bu farw fis Mehefin 1876, pan oedd yn byw yn Stryd y Felin, Twtil, Caernarfon ar ôl cystudd hir, gan adael gweddw, pedwar mab a dwy ferch.<ref>''Llais y Wlad'', 9 Mehefin 1876, t.8</ref> Yn eu mysg oedd Gwilym Hughes (Ap Idanfryn), newyddiadurwr amlwg ac ysgrifennydd y "Welsh National Memorial Association".<ref>Gwefan Rainbow Dragon, [http://www.rainbowdragon.org/2016/11/16/the-strange-world-of-dr-price/], cyrchwyd 23.4.2020</ref>


{{eginyn}}
{{eginyn}}

Fersiwn yn ôl 11:20, 25 Ebrill 2020

Roedd John Hughes (Idanfryn) (1832-1876) yn athro Ysgol Capel Horeb, Rhostryfan am flwyddyn neu ddwy tua 1866-7.[1] Cafodd ei eni ym Mrynsiencyn, Ynys Môn (lle mae tŷ o'r enw Idanfryn). Roedd o'n athro yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant yn union cyn ddod i Rostryfan, a symudodd wedyn i Amlwch erbyn 1869 lle bu'n athro ar yr Ysgol Frytanaidd yno[2] ac wedyn i Gaernarfon lle bu'n byw hyd ei farwolaeth. Roedd wedi priodi merch y Capten Hugh Owen o Fangor, a bu hithau'n byw yno nes symud at ei merch yng Nghaerdydd tua 1910 a marw yn 1915 yn 73 oed.[3]

Roedd Idanfryn yn fardd a gafodd gryn sylw yn ystod ei oes ac mae ei waith ar gael yn y Llyfrgell Genedlaethol.[4] Arferai gyfansoddi cerddi moeswersol a ymddangosodd weithiau yn Trysorfa y Plant yn yr 1860au, ac ambell i emyn, yn ogystal â chyflwyno ysgrifau i gyfnodolion amrywiol.

Bu farw fis Mehefin 1876, pan oedd yn byw yn Stryd y Felin, Twtil, Caernarfon ar ôl cystudd hir, gan adael gweddw, pedwar mab a dwy ferch.[5] Yn eu mysg oedd Gwilym Hughes (Ap Idanfryn), newyddiadurwr amlwg ac ysgrifennydd y "Welsh National Memorial Association".[6]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. W. Hobley, Hanes Methodistiaeth Arfon, Cyf.I, Dosbarth Clynnog (Caernarfon, 1910), t.236
  2. Trysorfa y Plant, Tachwedd 1869, t.28
  3. Cambrian Daily Leader, 4.5.1915, t.4
  4. Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Llsg.NLW MS 8469A - Gwaith John Hughes ('Idanfryn')
  5. Llais y Wlad, 9 Mehefin 1876, t.8
  6. Gwefan Rainbow Dragon, [1], cyrchwyd 23.4.2020