John Pughe: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Malan% (sgwrs | cyfraniadau)
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Mab i David Roberts a Catherine Pughe, Lleuar Bach, oedd John Pughe (c.1761-1802). Fe’i bedyddiwyd yn John Pughe Roberts ond erbyn iddo ddilyn ei da...'
 
Malan% (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 6: Llinell 6:
Ond byr fu ei oes, ac er iddo fedru fforddio talu deugain punt am driniaeth yng Nghaernarfon gan Dr Rowlands o Gaer, bu farw yn un a deugain oed yn 1802, Ychydig wythnosau’n ddiweddarach, yn ddeugain oed, bu farw hefyd ei gyfaill mawr ysbrydol, y Parch. Robert Roberts.  
Ond byr fu ei oes, ac er iddo fedru fforddio talu deugain punt am driniaeth yng Nghaernarfon gan Dr Rowlands o Gaer, bu farw yn un a deugain oed yn 1802, Ychydig wythnosau’n ddiweddarach, yn ddeugain oed, bu farw hefyd ei gyfaill mawr ysbrydol, y Parch. Robert Roberts.  


Ganwyd iddo ef a’i wraig dri o blant:  [[Ioan ab Hu Feddyg]] (John Pughe), [[Dafydd ab Hu Feddyg]] ac Eliza.
Ganwyd iddo ef a’i wraig dri o blant:  [[Ioan ab Hu Feddyg]] (John Pughe), [[Dafydd ab Hu Feddyg]] ac Eliza.<ref>Allan o [[Y Casglwr,]] Mawrth 1991, Rhifyn 43, t.10 dan y pennawd [[Mair Eluned Pritchard ar drywydd ab Hu Feddyg ac Anwylini.]]</ref>
 
==Cyfeiriadau==

Fersiwn yn ôl 17:32, 1 Ebrill 2020

Mab i David Roberts a Catherine Pughe, Lleuar Bach, oedd John Pughe (c.1761-1802). Fe’i bedyddiwyd yn John Pughe Roberts ond erbyn iddo ddilyn ei dad fel ffermwr Lleuar Bach yr oedd yr enw Pughe wedi disodli’r cyfenw Roberts.

Daeth y John Pughe hwn yn drwm dan ddylanwad yr efengylwr, y Parch. Robert Roberts, Clynnog, ac yn groes i ddymuniad ei rieni ymaelododd yn eglwys ieuanc y Methodistiaid yng Nghapel Uchaf, Clynnog. Toc wedi i’r ddau droi eu deg r hugain oed fe welodd John Pughe a Robert Roberts ddiwygiad grymus yn y Capel Uchaf yn 1793, a’r flwyddyn ddilynol, ar ôl ymweliad Thomas Charles o’r Bala â’r lle, fe sefydlwyd Ysgol Sul yno. Dylanwadodd y grymoedd crefyddol gryn dipyn ar weithredoedd beunyddiol gŵr Lleuar Bach.

Pan aeth hi’n anodd i Robert Roberts fynd i’w gyhoeddiadau pregethu oherwydd bod Colier, ei geffyl, yn rhy hen i’r teithiau, rhoddodd John Pughe gaseg winau hardd yn anrheg iddo. Anrhegai hefyd dlodion y plwyf â darnau o gig adeg y Nadolig. Ond byr fu ei oes, ac er iddo fedru fforddio talu deugain punt am driniaeth yng Nghaernarfon gan Dr Rowlands o Gaer, bu farw yn un a deugain oed yn 1802, Ychydig wythnosau’n ddiweddarach, yn ddeugain oed, bu farw hefyd ei gyfaill mawr ysbrydol, y Parch. Robert Roberts.

Ganwyd iddo ef a’i wraig dri o blant: Ioan ab Hu Feddyg (John Pughe), Dafydd ab Hu Feddyg ac Eliza.[1]

Cyfeiriadau

  1. Allan o Y Casglwr, Mawrth 1991, Rhifyn 43, t.10 dan y pennawd Mair Eluned Pritchard ar drywydd ab Hu Feddyg ac Anwylini.