Glynn Wynn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 3: Llinell 3:
Bu'n filwr proffesiynol 1755-1773. Daliodd swydd protonotari a chlerc y Goron ar gyfer Gogledd Cymru, swydd gweinyddol a ddaeth a chyflog eithaf dda iddo, o 1762 hyd ei farwolaeth, ac efallai roedd wedi camu'n ôl o wasanaeth llawn amser yn y fyddin am flynyddoedd cyn ei ymddeoliad, artfer cyffredin yn yr 18g.
Bu'n filwr proffesiynol 1755-1773. Daliodd swydd protonotari a chlerc y Goron ar gyfer Gogledd Cymru, swydd gweinyddol a ddaeth a chyflog eithaf dda iddo, o 1762 hyd ei farwolaeth, ac efallai roedd wedi camu'n ôl o wasanaeth llawn amser yn y fyddin am flynyddoedd cyn ei ymddeoliad, artfer cyffredin yn yr 18g.


Ym 1768, 1774 a 1780 cafodd ei ethol a'i ailethol yn ddiwrthwynebiad fel aelod seneddol dros fwrdeistrefi Caernarfon (sef Caernarfon, Conwy, Cricieth, Pwllheli a Nefyn). Roedd gan ei deulu a'i gefnogwyr reolaeth dros fwyafrif y pleidleiswyr, ond hefyd nodwyd ar y pryd ei fod "yn fwy poblogaidd o lawer yn y sir na'i frawd hŷn, Arglwydd Newborough". Nid oedd ei gefnogaeth i'r naill ochr yn y senedd yn gyson, ac roedd teuluoedd Paget a Bulkeley yn ei gefnogi neu ei wrthwynebu yn ôl eu diddordebau hwy ar y pryd. Ym 1784, fe wnaeth y ddau deulu hyn gamu'n ôl o'i wrthwynebu yn yr etholiad, ond fe safodd Thomas, Arglwydd Newborough - ei frawd hŷn - yn ei erbyn. Roedd Glynn Wynn yn llwyddiannus, ond fe holltodd y frwydr rhwng dau frawd y gefnogaeth i'r teulu. Dyna oedd diwedd ymwneud teulu Wynn â'r senedd; chafodd yr un Wnn o Lynllifon ei ethol wedyn. Yn etholiad 1790, safodd Paget, sef yr Arglydd Uxbridge, yn erbyn Glynn Wynn ac fe gollodd Wynn ei sedd. Bu farw dair blynedd yn ddiweddarach.<ref>‘’History of Parliament’’ [https://www.historyofparliamentonline.org/volume/1754-1790/member/wynn-glyn-1739-93], cyrchwyd 30.3.2020. Ceir esboniad manwl ar safbwyntiau Glynn Wynn, a'r sawl newid mewn cyfeiriad gwleidyddol a wnaeth yn yr ethygl.</ref>
Ym 1768, 1774 a 1780 cafodd ei ethol a'i ailethol yn ddiwrthwynebiad fel aelod seneddol dros fwrdeistrefi Caernarfon (sef Caernarfon, Conwy, Cricieth, Pwllheli a Nefyn). Roedd gan ei deulu a'i gefnogwyr reolaeth dros fwyafrif y pleidleiswyr, ond hefyd nodwyd ar y pryd ei fod "yn fwy poblogaidd o lawer yn y sir na'i frawd hŷn, Arglwydd Newborough". Nid oedd ei gefnogaeth i'r naill ochr yn y senedd yn gyson, ac roedd teuluoedd Paget a Bulkeley yn ei gefnogi neu ei wrthwynebu yn ôl eu diddordebau hwy ar y pryd. Ym 1784, fe wnaeth y ddau deulu hyn gamu'n ôl o'i wrthwynebu yn yr etholiad, ond fe safodd Thomas, Arglwydd Newborough - ei frawd hŷn - yn ei erbyn. Roedd Glynn Wynn yn llwyddiannus, ond fe holltodd y frwydr rhwng dau frawd y gefnogaeth i'r teulu. Yn etholiad 1790, safodd Paget, sef yr Arglwydd Uxbridge, yn erbyn Glynn Wynn ac fe gollodd Wynn ei sedd. Bu farw dair blynedd yn ddiweddarach.<ref>‘’History of Parliament’’ [https://www.historyofparliamentonline.org/volume/1754-1790/member/wynn-glyn-1739-93], cyrchwyd 30.3.2020. Ceir esboniad manwl ar safbwyntiau Glynn Wynn, a'r sawl newid mewn cyfeiriad gwleidyddol a wnaeth yn yr ethygl.</ref> Etholiad 1790 oedd diwedd ymwneud teulu Wynn â'r senedd am dros 35 o flynyddoedd; chafodd ei nai [[Thomas John Wynn, 3ydd Arglwydd Newborough]] wasanaethu am bedair blynedd fel aelod seneddol y Bwrdeistrefi o 1826-1830, ond o hynny ymlaen canolbwyntiodd y teulu ar eu pleserau, eu hystadau a materion lleol.


Roedd yr ymrafael rhwng y ddau frawd wedi esgor ar achosion cyfreithiol, a wnaeth gryn dipyn i dlodi cyfoeth y teulu am hanner can mlynedd.<ref>Archifdy Caernarfon, XD2/''passim''.</ref>   
Roedd yr ymrafael rhwng y ddau frawd wedi esgor ar achosion cyfreithiol, a wnaeth gryn dipyn i dlodi cyfoeth y teulu am hanner can mlynedd.<ref>Archifdy Caernarfon, XD2/''passim''.</ref>   

Fersiwn yn ôl 09:32, 31 Mawrth 2020

Roedd y Cyrnol Glynn Wynn, AS (?1739-1793) yn frawd iau Syr Thomas Wynn, Arglwydd 1af Newborough, ac yn fab i Syr John Wynn, yr 2il Farwnig. Ar 11 Ionawr 1766, fe briododd Bridget, merch Plas Penrhyn Creuddyn ger Llandudno. Fe wanaethodd fel aelod seneddol Bwrdeistrefi Caernarfon, 1768-1781. Bu i'r cwpl bedwar o feibion, sef John, 1766; William (William Glynn Coetmor, cyfenw a fabwysiadodd i gofnodi etifeddu eiddo teulu Plas ym Mhenrhyn, sef Coetmor); Thomas Edward Glynn (a ychwanegodd cyfenw Belasyse wrth briodi Charlotte, merch Iarll Fauconberg); Glynn (a briododd Elizabeth Hamilton); ac un ferch, Bridget (marw 1826), a briododd John, 4ydd Iarll Egmont sef ŵyr tad-yng-nghyfraith ei hewyrth - roedd gwraig ei hewyrth Syr Thomas yn ferch i'r 2il Iarll.[1]

Bu'n filwr proffesiynol 1755-1773. Daliodd swydd protonotari a chlerc y Goron ar gyfer Gogledd Cymru, swydd gweinyddol a ddaeth a chyflog eithaf dda iddo, o 1762 hyd ei farwolaeth, ac efallai roedd wedi camu'n ôl o wasanaeth llawn amser yn y fyddin am flynyddoedd cyn ei ymddeoliad, artfer cyffredin yn yr 18g.

Ym 1768, 1774 a 1780 cafodd ei ethol a'i ailethol yn ddiwrthwynebiad fel aelod seneddol dros fwrdeistrefi Caernarfon (sef Caernarfon, Conwy, Cricieth, Pwllheli a Nefyn). Roedd gan ei deulu a'i gefnogwyr reolaeth dros fwyafrif y pleidleiswyr, ond hefyd nodwyd ar y pryd ei fod "yn fwy poblogaidd o lawer yn y sir na'i frawd hŷn, Arglwydd Newborough". Nid oedd ei gefnogaeth i'r naill ochr yn y senedd yn gyson, ac roedd teuluoedd Paget a Bulkeley yn ei gefnogi neu ei wrthwynebu yn ôl eu diddordebau hwy ar y pryd. Ym 1784, fe wnaeth y ddau deulu hyn gamu'n ôl o'i wrthwynebu yn yr etholiad, ond fe safodd Thomas, Arglwydd Newborough - ei frawd hŷn - yn ei erbyn. Roedd Glynn Wynn yn llwyddiannus, ond fe holltodd y frwydr rhwng dau frawd y gefnogaeth i'r teulu. Yn etholiad 1790, safodd Paget, sef yr Arglwydd Uxbridge, yn erbyn Glynn Wynn ac fe gollodd Wynn ei sedd. Bu farw dair blynedd yn ddiweddarach.[2] Etholiad 1790 oedd diwedd ymwneud teulu Wynn â'r senedd am dros 35 o flynyddoedd; chafodd ei nai Thomas John Wynn, 3ydd Arglwydd Newborough wasanaethu am bedair blynedd fel aelod seneddol y Bwrdeistrefi o 1826-1830, ond o hynny ymlaen canolbwyntiodd y teulu ar eu pleserau, eu hystadau a materion lleol.

Roedd yr ymrafael rhwng y ddau frawd wedi esgor ar achosion cyfreithiol, a wnaeth gryn dipyn i dlodi cyfoeth y teulu am hanner can mlynedd.[3]

Cyfeiriadau

  1. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), t.173
  2. ‘’History of Parliament’’ [1], cyrchwyd 30.3.2020. Ceir esboniad manwl ar safbwyntiau Glynn Wynn, a'r sawl newid mewn cyfeiriad gwleidyddol a wnaeth yn yr ethygl.
  3. Archifdy Caernarfon, XD2/passim.