Buddug Anwylini Pughe: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Malan% (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 12: Llinell 12:
Honai Mair Eluned Pritchard fod llawer o’i darluniau ar gael o hyd yn Aberdyfi a’r cylch.
Honai Mair Eluned Pritchard fod llawer o’i darluniau ar gael o hyd yn Aberdyfi a’r cylch.


[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Artistiaid]]
[[Categori:Artistiaid]]


[[Delwedd:Penhelyg.jpg|bawd|300px|de|Penhelyg, Aberdyfi. Braslun o gartref ei phlentyndod gan Buddug Anwylini Pughe]]
[[Delwedd:Penhelyg.jpg|bawd|100px|de|Penhelyg, Aberdyfi. Braslun o gartref ei phlentyndod gan Buddug Anwylini Pughe]]

Fersiwn yn ôl 21:52, 29 Mawrth 2020

Roedd Buddug Anwylini Pughe (1857-1939) yn ferch i Ioan ab Hu Feddyg (1814-1874), cyfaill mawr Eben Fardd, a Catherine Samuel (m.1862). Ganwyd a magwyd hi yn Aberdyfi. Bu farw yn Lerpwl, 2 Mawrth 1939, yn 83 mlwydd oed.

Y cyfiawnhad dros ei chynnwys yma yw ei bod yn arlunydd o bwys ac ar sail ei chysylltiad teuluol agos iawn â Choch-y-Big a Bron Dirion,

Hyfforddwyd hi yn Ysgol Arlunio Lerpwl. Treuliodd lawer o amser ar gyfandir Ewrop, yn cynnwys Paris, Rhufain a Fenis.

Er ei bod yn arlunydd proffesiynol llwyddiannus ac iddi baentio cannoedd o luniau ychydig o’i lluniau a geir mewn sefydliadau cyhoeddus. Cofnodwyd un yn unig yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn 1991 - The Old Lacemaker – a gwelir dau ar wefan y Llyfrgell erbyn 2020. Dangoswyd ei lluniau yn y Walker Art Gallery yn Lerpwl am dros hanner canrif ond un yn unig o’r gweithiau hynny sydd yno bellach. Dangoswyd Dolgelley Fair yn yr Academi Frenhinol yn 1924 yr un adeg â darluniau Christopher Williams o enwogion fel Syr John Morris Jones a Syr Thomas Shankland.

Ni neilltuwyd lle iddi yn y Bywgraffiadur Cymreig.

Honai Mair Eluned Pritchard fod llawer o’i darluniau ar gael o hyd yn Aberdyfi a’r cylch.

Penhelyg, Aberdyfi. Braslun o gartref ei phlentyndod gan Buddug Anwylini Pughe