Coch-y-Big: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Malan% (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Malan% (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 5: | Llinell 5: | ||
Yr oedd y ferch, Eliza, yn fud a byddar o'i genedigaeth. Bu farw yn un ar hugain oed. | Yr oedd y ferch, Eliza, yn fud a byddar o'i genedigaeth. Bu farw yn un ar hugain oed. | ||
Cymhwysodd ei dau frawd eu hunain yn feddygon. Daeth y ddau yn amlwg iawn mewn meysydd eraill hefyd, megis hynafiaethau a chrefydd, gan fabwysiadu'r enwau Ioan ab Hu Feddyg a Dafydd ab Hu Feddyg. | Cymhwysodd ei dau frawd eu hunain yn feddygon. Daeth y ddau yn amlwg iawn mewn meysydd eraill hefyd, megis hynafiaethau a chrefydd, gan fabwysiadu'r enwau Ioan ab Hu Feddyg <ref>Gweler yr erthygl Gymraeg: https://bywgraffiadur.cymru/article/c-PUGH-JOH-1814</ref> a Dafydd ab Hu Feddyg. | ||
Aros yn feddyg yn ei gynefin ym mhlwyf [[Clynnog Fawr]] wnaeth Dafydd ab Hu. | Aros yn feddyg yn ei gynefin ym mhlwyf [[Clynnog Fawr]] wnaeth Dafydd ab Hu. |
Fersiwn yn ôl 20:57, 25 Mawrth 2020
David Roberts Pughe a'i wraig a'u tri phlentyn oedd yn byw yng Nghoch-y-Big (a elwir ar lafar yn Coch Big), Brynaerau, yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Yr oedd y ferch, Eliza, yn fud a byddar o'i genedigaeth. Bu farw yn un ar hugain oed.
Cymhwysodd ei dau frawd eu hunain yn feddygon. Daeth y ddau yn amlwg iawn mewn meysydd eraill hefyd, megis hynafiaethau a chrefydd, gan fabwysiadu'r enwau Ioan ab Hu Feddyg [1] a Dafydd ab Hu Feddyg.
Aros yn feddyg yn ei gynefin ym mhlwyf Clynnog Fawr wnaeth Dafydd ab Hu.
Yn Aberdyfi y gwasanaethodd Ioan ab Hu. Ym 1842 adeiladodd blasty bychan ger Coch Big a'i alw yn Brondirion Villa. Ei rieni a'i frawd aeth i fyw yno. Helaethwyd Brondirion yn 1872.
Daeth pedwar mab Ioan ab Hu Feddyg yn feddygon [2] a daeth ei ferch, Buddug Anwylini Pughe, yn arlunydd o bwys. Bu hi farw yn Lerpwl yn 1939 yn 83 oed.
Ymysg papurau Buddug Anwylini Pughe yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru mae geiriadur darluniadol bach bach wedi ei rwymo gan Eben Fardd. Tybir iddo gael ei ddefnyddio i addysgu Eliza yn y cartref a hithau'n fyddar. Credir mai gwaith Eliza ei hun ydyw. Mae'r crochenydd Lowri Davies bellach wedi ail-greu ac addasu'r delweddau hynny a cheir jwg i gynrychioli pob llythyren o'r wyddor. Mae'r rhain ar werth yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. [3]
Cyfeiriadau
- ↑ Gweler yr erthygl Gymraeg: https://bywgraffiadur.cymru/article/c-PUGH-JOH-1814
- ↑ O'r Bywgraffiadur Cymreig" ar-lein dan enw bedydd I.ab H.F., sef John Pughe.
- ↑ ysgrifennwyd y manylion hyn gan Mair Eluned Pritchard, Brynaerau, ar gyfer arddangosfa HEN DAI yng Nghanolfan Hanes Uwchgwyrfai, 2008.