Yr Hen Offis: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Geraint (sgwrs | cyfraniadau) Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Yr Hen Offis oedd swyddfa gyntaf y Cwmni Ithfaen Cymreig ''(Welsh Granite Company)'' oedd yn cloddio yn chwarel gynta'r Eifl ar fôn Craig y Farchas. Lleo...' |
Geraint (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 3: | Llinell 3: | ||
Erbyn y flwyddyn 1854 roedd cerrig rhyddion yr Hen Ffolt ym Mhant y Farchas wedi eu dihysbyddu, Dyma pryd yr agorwyd y chwarel go-iawn gyntaf yn Nhrefor, a hynny ar y graig uwchben yr hen gloddfa, ac uwchben rhan o Allt Eithin Nant Bach. Dwy bonc oedd i'r chwarel hon ac fe'i hagorwyd gan Trefor Jones. Ar y cychwyn llwythid y cerrig i longau ar lan-môr y Gorllwyn - gwaith peryglus dros ben ac yn dibynnu'n llwyr ar gael tywydd teg. Ganol blynyddoedd y 1850au adeiladodd y Cwmni ei gei cyntaf yr ochr arall (ddwyreiniol) i Drwyn y Tâl (''Y Clogwyn'') a bu'n rhaid gosod cledrau yr holl ffordd o Graig y Farchas i'r Cei. | Erbyn y flwyddyn 1854 roedd cerrig rhyddion yr Hen Ffolt ym Mhant y Farchas wedi eu dihysbyddu, Dyma pryd yr agorwyd y chwarel go-iawn gyntaf yn Nhrefor, a hynny ar y graig uwchben yr hen gloddfa, ac uwchben rhan o Allt Eithin Nant Bach. Dwy bonc oedd i'r chwarel hon ac fe'i hagorwyd gan Trefor Jones. Ar y cychwyn llwythid y cerrig i longau ar lan-môr y Gorllwyn - gwaith peryglus dros ben ac yn dibynnu'n llwyr ar gael tywydd teg. Ganol blynyddoedd y 1850au adeiladodd y Cwmni ei gei cyntaf yr ochr arall (ddwyreiniol) i Drwyn y Tâl (''Y Clogwyn'') a bu'n rhaid gosod cledrau yr holl ffordd o Graig y Farchas i'r Cei. | ||
Llusgid y wagenni fesul dwy, yn llawn cerrig sets, gan geffyl. | Llusgid y wagenni fesul dwy, yn llawn cerrig sets, gan geffyl. Yn y Gorllwyn, adeiladwyd swyddfa gerrig bwrpasol ar fin y tramwe, ynghyd â thŷ i Drefor Jones y Rheolwr, a stablau i'r ceffylau. Roedd hyn yn y flwyddyn 1853, ac agorwyd y tramwe y flwyddyn honno. Yma hefyd y pwysid y cerrig cyn eu cartio i'r Cei ac i'r llongau. Daeth Trefor Jones i fyw i'w dŷ newydd ym 1852 ar ôl dwyflynedd yn lojio yng Ngwydir Bach, ac yno y bu'n byw hyd ei farwolaeth ym Mehefin 1860 yn 52 oed. | ||
. | |||
Defnyddiwyd y rheilffordd hon am oddeutu 14 blynedd, a phan gaewyd Chwarel Craig y Farchas ac agor y chwarel newydd, Chwarel yr Eifl, cafwyd inclên newydd o'r mynydd yn syth i lawr i'r Swyddfeydd newydd yn y Weirglodd Fawr. Hyn oll yn haf 1867. Bellach nid oedd angen y rheilffordd o'r Hen Offis i'r Weirglodd Fawr. Trowyd yr hen swyddfa yn dai, ac addaswyd y stablau hefgyd yn dai ar gyfer y chwarelwyr. Y tai hyn oedd y gris cyntaf fel petae i deuluoedd newydd, ac i aros am dŷ mwy a gwell yn y pentref ei hun. Bu pobl yn byw ynddynt am dros bedwar ugain o flynyddoedd. | |||
Ers blynyddoedd bellach diflannodd yr hen dai bach a addaswyd o'r hen stablau, ond deil yr Hen Offis (deulawr) yn ddau dŷ, a hen dŷ unllawr Trefor Jones yn anneddleoedd tlws. Mae'r tri thŷ yn eiddo i un o wragedd cyfoethocaf Lloegr ac yn cael eu gosod ganddi fel tai gwyliau, yn ogystal â dod yno'i hun i aros yn yr haf. |
Fersiwn yn ôl 22:49, 18 Mawrth 2020
Yr Hen Offis oedd swyddfa gyntaf y Cwmni Ithfaen Cymreig (Welsh Granite Company) oedd yn cloddio yn chwarel gynta'r Eifl ar fôn Craig y Farchas. Lleolid y chwarel hon o ddwy bonc ym mhen draw y Gorllwyn (a gyfenwid ar lafar yn West End) wrth droed Mynydd Garnfor, yr agosaf i'r môr o dri mynydd yr Eifl ger Trefor. Fel Tai Bach West End yr adnabyddir y tai yn lleol.
Erbyn y flwyddyn 1854 roedd cerrig rhyddion yr Hen Ffolt ym Mhant y Farchas wedi eu dihysbyddu, Dyma pryd yr agorwyd y chwarel go-iawn gyntaf yn Nhrefor, a hynny ar y graig uwchben yr hen gloddfa, ac uwchben rhan o Allt Eithin Nant Bach. Dwy bonc oedd i'r chwarel hon ac fe'i hagorwyd gan Trefor Jones. Ar y cychwyn llwythid y cerrig i longau ar lan-môr y Gorllwyn - gwaith peryglus dros ben ac yn dibynnu'n llwyr ar gael tywydd teg. Ganol blynyddoedd y 1850au adeiladodd y Cwmni ei gei cyntaf yr ochr arall (ddwyreiniol) i Drwyn y Tâl (Y Clogwyn) a bu'n rhaid gosod cledrau yr holl ffordd o Graig y Farchas i'r Cei.
Llusgid y wagenni fesul dwy, yn llawn cerrig sets, gan geffyl. Yn y Gorllwyn, adeiladwyd swyddfa gerrig bwrpasol ar fin y tramwe, ynghyd â thŷ i Drefor Jones y Rheolwr, a stablau i'r ceffylau. Roedd hyn yn y flwyddyn 1853, ac agorwyd y tramwe y flwyddyn honno. Yma hefyd y pwysid y cerrig cyn eu cartio i'r Cei ac i'r llongau. Daeth Trefor Jones i fyw i'w dŷ newydd ym 1852 ar ôl dwyflynedd yn lojio yng Ngwydir Bach, ac yno y bu'n byw hyd ei farwolaeth ym Mehefin 1860 yn 52 oed. .
Defnyddiwyd y rheilffordd hon am oddeutu 14 blynedd, a phan gaewyd Chwarel Craig y Farchas ac agor y chwarel newydd, Chwarel yr Eifl, cafwyd inclên newydd o'r mynydd yn syth i lawr i'r Swyddfeydd newydd yn y Weirglodd Fawr. Hyn oll yn haf 1867. Bellach nid oedd angen y rheilffordd o'r Hen Offis i'r Weirglodd Fawr. Trowyd yr hen swyddfa yn dai, ac addaswyd y stablau hefgyd yn dai ar gyfer y chwarelwyr. Y tai hyn oedd y gris cyntaf fel petae i deuluoedd newydd, ac i aros am dŷ mwy a gwell yn y pentref ei hun. Bu pobl yn byw ynddynt am dros bedwar ugain o flynyddoedd.
Ers blynyddoedd bellach diflannodd yr hen dai bach a addaswyd o'r hen stablau, ond deil yr Hen Offis (deulawr) yn ddau dŷ, a hen dŷ unllawr Trefor Jones yn anneddleoedd tlws. Mae'r tri thŷ yn eiddo i un o wragedd cyfoethocaf Lloegr ac yn cael eu gosod ganddi fel tai gwyliau, yn ogystal â dod yno'i hun i aros yn yr haf.