Siôn Robert Lewis (John Roberts): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Malan% (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
B Symudodd Heulfryn y dudalen Sion Robert Lewis i Sion Robert Lewis (John Roberts)
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 18:35, 23 Chwefror 2020

Siôn Robert Lewis (John Roberts)

Daeth Siôn Robert Lewis, 1731-1806 yn adnabyddus fel cyhoeddwr Almanac Caergybi. Bu wrth y gwaith hwn am bedair blynedd a deugain a pharhawyd i’w gyhoeddi gan ei fab, Robert Roberts,(1777-1836) hyd 1837. [1] Roedd hefyd yn awdur, rhwymwr a gwerthwr llyfrau, emynydd a gwneuthurwr clociau [2]

Roedd yn enedigol o Lanaelhaearnyn fab i ffermwr, Robert Roberts, ac yn ystod ei ieuenctid arferai fugeilio defaid ei dad. Ond yng Nghaergybi y treuliodd y rhan fwyaf o'i oes.

Cafodd dröedigaeth wrth wrando ar Hywel Harris yn pregethu yn y gymdogaeth, fe’i dilynodd i Drefeca, y gymuned Gristnogol a sefydlwyd gan Hywel Harris, a threulio tymor yno. [3]

Ymgartrefodd yng Nghaergybi tua 1760 pryd y cafodd drwydded gan Esgob Bangor i agor ysgol. Yn 1766 priododd Margaret Jones, Bodedern, Môn, a ganed iddynt chwech o blant.

Almanac Caergybi oedd ei waith pennaf ond ysgrifennodd nifer o lyfrau gwerthfawr hefyd, yn eu plith ceir Rhai Hymnau (1760), a ysgrifennwyd gyda chymorth Richard Jones; Yr Anedigaeth Newydd (1762), cyfieithiad o lyfryn Saesneg The New Birth; Drych y Cristion (1766), sef ailargraffiad Carwr y Cymru cyhoeddedig gan T. Gouge ac S. Hughes (1677); Hymnau a Chaniadau (1764); Rhyfyddeg neu Arithmetic (1768), y llyfr rhifyddeg cyntaf yn Gymraeg; Geirlyfr Ysgrythurol (1773), y geiriadur ysgrythurol Cymraeg cyntaf; Caniadau Preswylwyr y Llwch (1778); Yr Athrofa Rad (1788).

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Y Bywgraffiadur Cymreig: John Roberts. Awdur Thomas Isfryn Jones.
  2. ’’Nabod Môn’’ Gol. Dewi Jones, Glyndwr Thomas, tud.465. Gwasg Carreg Gwalch. (2003).
  3. ’’Hanes Emynwyr Cymru’’, W.A. Griffiths,(Hanes Emynwyr Cymru) tud. 81, Arg.W.Gwenlyn Evans, Swyddfa’r ’’Geninen’’ (1880?).