Lôn Eifion: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Erthygl newydd |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[Delwedd:loneifion.jpg|200px|bawd|de|Lôn Eifion ger y Groeslon]] | |||
Mae '''Lôn Eifion''' yn un o nifer o lwybrau a ddatblygwyd gan y Cyngor Sir ar gyfer cerddwyr a beicwyr ers y 1980au. Mae hi'n rhan o lwybr seiclo cenedlaethol rhif 5, rhwng Bangor a Caerdydd. | Mae '''Lôn Eifion''' yn un o nifer o lwybrau a ddatblygwyd gan y Cyngor Sir ar gyfer cerddwyr a beicwyr ers y 1980au. Mae hi'n rhan o lwybr seiclo cenedlaethol rhif 5, rhwng Bangor a Caerdydd. | ||
Fersiwn yn ôl 14:42, 19 Tachwedd 2017
Mae Lôn Eifion yn un o nifer o lwybrau a ddatblygwyd gan y Cyngor Sir ar gyfer cerddwyr a beicwyr ers y 1980au. Mae hi'n rhan o lwybr seiclo cenedlaethol rhif 5, rhwng Bangor a Caerdydd.
Trwy Uwchgwyrfai o un pen i'r llall mae Lôn Eifion yn dilyn llwybr hen reilfordd o Gaernarfon i Afon Wen. Wedi i'r lein gau a chael ei chodi ym 1967, arhosai gwely'r lein fel yr oedd gyda cerrig mawr balast drosti nes i ddefnydd newydd ymddangos pan oedd Pwerdy Dinorwig yn cael ei adeiladu. Roedd angen tunelli dirifedi o raean a thywod ar gyfer y gwaith, a chafwyd hyd i'r rhain yn ardal Pant Glas yng Nghefn Graeanog ac agowyd chwarel yno. Gan fod hyn yn berygl o greu traffig trwm ar ffyrdd troellog y cyfnod cyn agor ffordd osgoi Pen-y-groes, gosodwyd lôn breifat ag arwyneb tarmac ar hyd gwely'r rheilffordd o Groesfan Graeanog i Lanwnda. Wedi i waith Dinorwig ddod i ben, trowyd y darn tarmac yn lôn seiclo - er i'r lôn yn dal i gael ei hadnabod yn lleol fel y 'lôn loris'.
Maes o law, estynnodd y Cyngor Sir yr wyneb caled ar yr hen drac belled â Bryncir i'r de a hyd Cei Caernarfon i'r Gogledd.