Capel Seion (A), Tal-y-sarn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 6: | Llinell 6: | ||
Bu diwygiad yn yr ardal ym 1839, a gafodd effaith ar nifer yr aelodau, ac arhosodd Owen Thomas yn weinidog tan 1846. Am 4 blynedd roedd yr achos heb weinidog ond ym 1850 rhoddwyd galwad gan achosion Tal-y-sarn a Drws-y-coed i David Jones, myfyriwr diwinyddol yng ngholeg hyfforddi Caerfyrddin, a arhosidd am dair blynedd cyn symud i'r de, ac wedyn i America. Ym 1856, penodwyd y Parch. Edward W. Jones, ac yn ystod blynyddoedd cyntaf ei weinidogaeth cynyddodd nifer yr aelodau o 30 i 130 erbyn iddo yntau ymfudo i America, ym 1871. Yn y cyfamser, fodd bynnag, roedd yr achos wedi symud oherwydd ddiffygion yr hen gapel i safle newydd, gan godi'r capel presennol mewn man o'r enw Llechillyfnion oedd yn eiddo i [[Ystad Coedmadog]].<ref>T. Rees a J. Thomas, ''Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru'', Cyf. III (Lerpwl, 1873).</ref> | Bu diwygiad yn yr ardal ym 1839, a gafodd effaith ar nifer yr aelodau, ac arhosodd Owen Thomas yn weinidog tan 1846. Am 4 blynedd roedd yr achos heb weinidog ond ym 1850 rhoddwyd galwad gan achosion Tal-y-sarn a Drws-y-coed i David Jones, myfyriwr diwinyddol yng ngholeg hyfforddi Caerfyrddin, a arhosidd am dair blynedd cyn symud i'r de, ac wedyn i America. Ym 1856, penodwyd y Parch. Edward W. Jones, ac yn ystod blynyddoedd cyntaf ei weinidogaeth cynyddodd nifer yr aelodau o 30 i 130 erbyn iddo yntau ymfudo i America, ym 1871. Yn y cyfamser, fodd bynnag, roedd yr achos wedi symud oherwydd ddiffygion yr hen gapel i safle newydd, gan godi'r capel presennol mewn man o'r enw Llechillyfnion oedd yn eiddo i [[Ystad Coedmadog]].<ref>T. Rees a J. Thomas, ''Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru'', Cyf. III (Lerpwl, 1873).</ref> | ||
Un o'r aelodau hyd 1916 oedd [[Tom Sarah]], ynghyd â'i ferch, [[Mary King Sarah]], y ddau'n cyfrannu'n helaeth at lewyrch cerddorol yr oedfaon.<ref>''Y Casglwr'', Gwanwyn 1991, t.5</ref> | |||
Fe ddathlodd canmlwyddiant codi'r capel newydd ym 1962. Cafwyd cyngerdd gan y plant ar nos Fercher, Hydref 24 a Cyfarfod Dathlu Nos Iau, Hydref 25; y pregethwr oedd y Parch. ldwal Jones, Llanrwst - un o feibion yr achos.<ref>Archifdy Gwynedd XM/6088/373</ref> | Fe ddathlodd canmlwyddiant codi'r capel newydd ym 1962. Cafwyd cyngerdd gan y plant ar nos Fercher, Hydref 24 a Cyfarfod Dathlu Nos Iau, Hydref 25; y pregethwr oedd y Parch. ldwal Jones, Llanrwst - un o feibion yr achos.<ref>Archifdy Gwynedd XM/6088/373</ref> |
Fersiwn yn ôl 11:24, 17 Chwefror 2020
Capel Seion oedd unig gapel y r Annibynwyr yn Nhal-y-sarn, ac erbyn heddiw (2018), hwn yw'r unig gapel o unrhyw enwad sy'n dal yn agored yn y pentref. Fe saif ar ochr Stryd Cavour yn y pentref.
Mae gwreiddiau'r achos yn mynd yn ôl ymhell. Dywedir mai Michael Owens, aelod o Gapel Penlan, Pwllheli a chwarelwr yng Nghloddfa'r Coed oedd sylfaenydd yr achos trwy ei arferion crefyddol a drodd ei gydweithwyr, fesul tipyn, yn ddynion crefyddol eu hagwedd. dechreuodd y synudiad hwn tua 1790, ac er na chafwyd llawer o ddilynwyr, cafwyd pregethu cyson, a thua 1802 cafwyd prydles hir ar hen ffatri ŵlan a'i defnyddio fel capel. Ym 1814 ordeiniwyd gweinidog, David Griffiths o'r Blowty, Pen Llŷn. Ym 1822, a'r gynulleidfa ar gynnydd, helaethwyd yr hen gapel. Tua 1830 symudodd David Griffiths i Bethesda, ac fe'i olynwyd gan un a fu'n fyfyriwr yng ngholeg Neuaddlwyd tan hynny, Isaac Harries. Er iddo aros am ryw 4 blynedd, nid oedd o'n gymeradwy oherwydd ei agwedd at fusnes a oedd, meddid, yn cael ei seilio ar dwyll. Y pryd hyn, roedd capeli Tal-y-sarn a Chapel Pisgah yng Ngharmel. Olynydd Mr Harries oedd Owen Thomas, Rhydlydan, Sir Ddinbych, a bu'n weinidog ar gapeli yn Nhal-y-sarn, Pisgah (Carmel) a Phen-y-groes, a fe hefyd oedd yn cynorthwyo efo achos Capel Drws-y-coed (A).
Bu diwygiad yn yr ardal ym 1839, a gafodd effaith ar nifer yr aelodau, ac arhosodd Owen Thomas yn weinidog tan 1846. Am 4 blynedd roedd yr achos heb weinidog ond ym 1850 rhoddwyd galwad gan achosion Tal-y-sarn a Drws-y-coed i David Jones, myfyriwr diwinyddol yng ngholeg hyfforddi Caerfyrddin, a arhosidd am dair blynedd cyn symud i'r de, ac wedyn i America. Ym 1856, penodwyd y Parch. Edward W. Jones, ac yn ystod blynyddoedd cyntaf ei weinidogaeth cynyddodd nifer yr aelodau o 30 i 130 erbyn iddo yntau ymfudo i America, ym 1871. Yn y cyfamser, fodd bynnag, roedd yr achos wedi symud oherwydd ddiffygion yr hen gapel i safle newydd, gan godi'r capel presennol mewn man o'r enw Llechillyfnion oedd yn eiddo i Ystad Coedmadog.[1]
Un o'r aelodau hyd 1916 oedd Tom Sarah, ynghyd â'i ferch, Mary King Sarah, y ddau'n cyfrannu'n helaeth at lewyrch cerddorol yr oedfaon.[2]
Fe ddathlodd canmlwyddiant codi'r capel newydd ym 1962. Cafwyd cyngerdd gan y plant ar nos Fercher, Hydref 24 a Cyfarfod Dathlu Nos Iau, Hydref 25; y pregethwr oedd y Parch. ldwal Jones, Llanrwst - un o feibion yr achos.[3]
Mae papurau'r diweddar David Lloyd Rees, Tal-y-sarn, a gedwir yn Archifdy Caernarfon, yn cynnwys llawer o fanylkion am hanes y capel.[4]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma